Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016/2017. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd P. Downing yn
Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-17. (Bu'r Cynghorydd P. Downing yn llywyddu) |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: - Y Cynghorydd P.
Downing - agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy mrawd yn gweithio i'r cyngor ac yn
cyfrannu at y Gronfa Bensiwn. NODWYD bod y Cynghorydd P. Downing wedi cael
goddefeb gan y Pwyllgor Safonau yn hyn o beth.
Y Cynghorydd J.
Newbury - rwy'n derbyn pensiwn y cyngor a drosglwyddwyd i mi ar ôl i'm gwraig
farw - personol. Y Cynghorydd D. G.
Sullivan - agenda yn ei chyfanrwydd - rwy'n derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol a
weinyddir gan Gynllun Pensiwn Dyfed - personol. Y Cynghorydd M.
Thomas - agenda yn ei chyfanrwydd - rwyf i a'm gwraig yn aelodau o'r Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. NODWYD bod y Cynghorydd M. Thomas wedi cael
goddefeb gan y Pwyllgor Safonau o ran ei wraig. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion
yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au)
f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Cyflwyniad ar y Cyd yr Awdurdod (ynghyd â chronfeydd Pensiwn Cymreig eraill) i'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a Thrysorlys ei Mawrhydi ar ei Gynigion Cyfuno - Cyflwyniad gan Hymans Robertson, ymgynghorwyr i Gymdeithas Drysoryddion Cymru. Cofnodion: Rhoddodd A.
Johnson, Hymans Robertson, gyflwyniad ar gyd-argymhelliad
yr awdurdod (ynghyd â chronfeydd pensiwn eraill Cymru) i Adran Cymunedau a
Llywodraeth Leol a Thrysorlys ei Mawrhydi ar eu cynigion cyfuno. Rhoddodd y
cyd-argymhelliad ymatebion ar y meysydd canlynol yn unol â chais gan y
Llywodraeth: - ·
A: Cronfeydd asedau sy'n cyflawni buddion
graddfa. ·
B: Llywodraeth a gwneud penderfyniadau cryf. ·
C: Costau is a gwerth ardderchog am arian. ·
Ch. Gallu gwell i fuddsoddi mewn isadeiledd. Gofynnodd y pwyllgor
nifer o gwestiynau i gynrychiolydd Hyman Robertson a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD ar y canlynol: - 1)
Dylid
nodi cynnwys y cyflwyniad; 2)
Dylid
cyflwyno'r cyd-argymhelliad terfynol yn y cyfarfod nesaf a drefnir. |