Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Enillydd Gwobr y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau. Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd fod
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi ennill gwobr y Strategaeth Newid yn yr
Hinsawdd Orau'n ddiweddar yn y Gwobrau Buddsoddiadau Cronfeydd Pensiwn
Awdurdodau Lleol (CPALl). Ychwanegodd fod y Gronfa
hefyd ar restr fer CPALl ar gyfer Cronfa Bensiwn y
Flwyddyn a'r Strategaeth Fuddsoddi Orau. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Cod
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddion
canlynol: Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu, J P Curtice, P Downing, M B Lewis, P Rogers ac W G Thomas gysylltiadau personol â’r agenda yn ei chyfanrwydd. Datganodd y Swyddogion
K Cobb, J Dong, J Parkhouse ac S Williams gysylltiadau
personol â’r agenda yn ei chyfanrwydd. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Datganodd y
Cynghorwyr P N Bentu, J P Curtice, P Downing, M B Lewis, P Rogers ac W G Thomas
gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd. Swyddogion: Datganodd K Cobb,
J Dong, J Parkhouse ac S Williams gysylltiad personol â'r agenda yn ei
chyfanrwydd. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe - Datganiad am y Strategaeth Ariannu Ddrafft. PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran
151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i sicrhau y cydymffurfir â
Rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y mae angen datganiad strategaeth
ariannu ar eu cyfer. Roedd Atodiad 1 yn
darparu'r Datganiad Strategaeth Ariannu Drafft. Ychwanegwyd mai prif bwrpas
y Datganiad Strategaeth Ariannu oedd amlinellu'r prosesau a ddefnyddir gan yr
awdurdod gweinyddu i: § sefydlu strategaeth ariannu glir a thryloyw, sy'n benodol i'r Gronfa, a
fyddai'n nodi sut y gellid bodloni rhwymedigaethau pensiwn cyflogwr. § cefnogi'r gofyniad rheoliadol mewn perthynas â dymunoldeb cynnal cyfradd
cyfraniadau sylfaenol sydd mor gyson â phosib. § sicrhau bod y gofynion rheoliadol i bennu cyfraniadau er mwyn sicrhau
diddyledrwydd a chost effeithlonrwydd tymor hir y Gronfa'n cael eu bodloni. § ystyried ariannu rhwymedigaethau'r Gronfa'n ochelgar yn y tymor hwy. Nodwyd, er bod yn rhaid adlewyrchu'r strategaeth
ariannu sy'n berthnasol i gyflogwyr unigol yn y Datganiad Strategaeth
Ariannu/Datganiad Strategaeth Buddsoddi, y dylai ganolbwyntio ar bob adeg ar y
camau gweithredu hynny a oedd er budd tymor hwy pennaf y Gronfa. Penderfynwyd
cymeradwyo datganiad y strategaeth ariannu. |
|
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Darparodd Laura Caudwell ac Arkady Gibas o AON adroddiad manwl ar
ganlyniadau Prisiad Actiwaraidd Cronfa Bensiwn Dinas
a Sir Abertawe ar 31 Mawrth 2022 i'r Pwyllgor. Roedd y
cyflwyniad yn amlinellu canlyniadau prisiad 2022, y broses brisio a'r
rhagdybiaethau. Byddai’r canlyniadau hyn yn cael eu hanfon at DLUHC yn ôl y
gofyn ac yn dod i rym o 1 Ebrill 2023. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolwyr AON am y cyflwyniad. Penderfynwyd: - 1) Nodi cynnwys y cyflwyniad. 2) Cymeradwyo'r prisiad/ardystiad actiwaraidd teirblwyddol. |
|
Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2023/24. PDF 322 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddarparu fframwaith gweithredol ar
gyfer rhaglen waith y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2023/24. Nodwyd bod y Gronfa Bensiwn, yn unol ag arfer
gorau, wedi llunio cynllun busnes, cofrestr risgiau, cyllideb a dyraniad asedau
i lywio'i rhaglen waith ar gyfer y cyfnod o 12 mis sydd i ddod. Atodwyd y
cynllun busnes, y gyllideb, y gofrestr risg a'r dyraniad asedau ar gyfer
2023/24 yn Atodiadau 1, 2, 3 a 4 yr adroddiad. Gofynnwyd i
Bwyllgor y Gronfa Bensiwn gymeradwyo'r cynllun busnes, y gyllideb, y gofrestr
risgiau a'r dyraniad asedau ar gyfer y flwyddyn 2023/24, gan nodi'r amserlen
a'r cyfrifoldeb am bwyntiau gweithredu allweddol drwy gydol y flwyddyn. Roedd y
ddogfen yn ddogfen ddynamig a byddai'n cael ei gwella a'i diwygio drwy gydol y
flwyddyn yn ôl yr angen. Penderfynwyd nodi a chymeradwyo'r canlynol: - 1)
Cynllun
Busnes Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2023/24. 2)
Cofrestr
Risgiau 2023/24. 3)
Dyraniad
asedau. 4)
Cyllideb
2023/24. |
|
Adroddiad Toriadau. PDF 469 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Darparodd Atodiad
A fanylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn ym mis Tachwedd 2022. Nodwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a
gymerwyd gan reolwyr. |
|
Hyfforddiant Ymddiriedolwyr. PDF 280 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio
penderfynu ar raglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer Pwyllgor y Gronfa Bensiwn
a'r Bwrdd Pensiwn Lleol a swyddogion y Gronfa Bensiwn. Penderfynwyd cymeradwyo'r asesiad a'r cynllun
hyfforddiant amlinellol yn 3.7, 3.8 a 3.9 ac y dylai cyfleoedd pellach a nodir
yn ystod y flwyddyn gael eu dirprwyo i'r Dirprwy Swyddog Adran 151 i'w
cymeradwyo. |
|
Gwahardd Y Cyhoedd. PDF 237 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas
ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y
cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i
roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Penderfynwyd: - 1)
Nodi Adroddiad Cynnydd PPC. 2)
Dirprwyo cymeradwyaeth i'r Dirprwy Swyddog A151
mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn i ddatblygu cyfleoedd
Codi'r Gwastad/Buddsoddi Lleol ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor. |
|
Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Philip Pearson ac Andre Ranchin, Ymgynghorwyr Buddsoddi, Hymans Robertson yr
Adroddiad Monitro Buddsoddiad Chwarter 4 2022 'er gwybodaeth'. Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorydd Buddsoddi am yr adroddiad. |
|
Crynodeb Buddsoddi. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y
chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2022. |
|
Cyflwyniad(au) Rheolwr y Gronfa: · Russell Investments. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Gwnaed cyflwyniad
gan Aidan Quinn, Paddy Bortoli, Gerald Fitzpatrick a
Lewis Forman o Russell Investments.
Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad llafar ac atebwyd yn briodol
iddynt. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Reolwyr y Gronfa am ddod i'r cyfarfod. |