Lleoliad: Ystafell Bwyllgor C, Canolfan Ddinesig, Castell-Nedd
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir. |
|
2021/2020 Cyllideb Refeniw. PDF 46 KB Cofnodion: Cyflwynodd Kim
Collis adroddiad y Cyfarwyddwr Lleoedd, a oedd yn nodi manylion Cyllideb
Refeniw'r Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2020/2021 a'r arian wrth gefn
sydd gan y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd,
er gwybodaeth yn unig Nododd ei fod yn
seiliedig ar gyllideb dybiedig o ddyfarniad cyflog gwerth 2.75% ond fel arall
roedd yn gyllideb "ddigyfnewid" o hyd. Mae'r tabl yn yr
adroddiad yn dangos sefyllfa amcangyfrifedig arian
wrth gefn yr Archifau ar 31 Mawrth 2020. Dywedodd nad yw
swydd yr Hyfforddai Archifau yn cael ei lenwi ar hyn o bryd a manylodd ar y
cynnydd yn oriau'r staff eraill er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 328 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr
Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y
Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Chwefror 2020. Ffïoedd a thaliadau Cyfeiriodd at y
tabl ffïoedd a thaliadau diwygiedig ar gyfer y
gwasanaeth a fydd yn berthnasol o 1 Ebrill 2020. Defnydd o'r
gwasanaeth Adroddodd am y
defnydd o'r gwasanaeth am y chwarter, gan nodi’r cefndir a'r rhesymeg y tu ôl
i'r ystadegau chwarterol. Nododd ei fod yn
disgwyl i'r ffigurau presenoldeb ar gyfer y chwarter nesaf fod yn sylweddol is
o ganlyniad i gychwyniad Coronafeirws. Achrediad yr
Archifau Soniodd ymhellach
am yr adroddiad a’r sgwrs a gafwyd yn y cyfarfod blaenorol a dywedodd mai un
o'r argymhellion o'r adolygiad canol tymor oedd yr angen i ddiweddaru
polisïau'r gwasanaeth. Gwnaed y rhan gyntaf o hwn eisoes ac atodwyd y fersiynau
diweddaraf o'r polisïau annibynnol fel atodiad i'r adroddiad. Cafwyd trafodaeth
ynghylch y materion sy'n berthnasol i'r defnydd o Ganolfan Ddinesig Abertawe yn
y dyfodol, a'r effaith posib ar y gwasanaeth wrth symud ymlaen. Amlinellwyd y
posibilrwydd ar gyfer storio'r casgliadau dros dro. Roedd aelodau'n cefnogi'r
syniad o storio cymaint â phosib o'r casgliad yn lleol a’i wneud yn hygyrch. Penderfynwyd cymeradwyo'r polisïau diwygiedig, fel a
amlinellwyd. Cerdyn
Archifau Amlinellodd fod y
cerdyn Archifau newydd wedi cael ei lansio’n raddol ar ddechrau mis Mawrth.
Mae'r cerdyn newydd yn cynrychioli cam arwyddocaol i ddefnyddwyr yr archifau
gan fod y tocyn yn rhoi mynediad i dros bedwar deg o wasanaethau'r archifau a'u
casgliadau ledled y DU. Sylwer: Y Cynghorydd H N James (Cadeirydd Dros
Dro) fu’n llywyddu ar gyfer yr eitemau canlynol. Allgymorth y
Gwasanaeth Esboniodd fod yr
Arddangosfa Ffoaduriaid Iddewig wedi cael ei harddangos yn Theatr y Dywysoges
Frenhinol ym Mhort Talbot i nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost. Cafodd yr Arddangosfa
Dathlu Abertawe ei harddangos yn Ysgol Pentrehafod hefyd ar yr un diwrnod. Amlinellwyd, yn
dilyn ailbrintio'r llyfr "Three Nights Blitz" yn
llwyddiannus, mae Cronfa Cyhoeddi'r Archifau bellach yn wag. Amlinellwyd y
sesiynau amrywiol a ddarparwyd i'r ysgolion a myfyrwyr y prifysgol. Cyfarfodydd
Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth Adroddodd am y
cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter. Logo'r
Gwasanaeth Archifau Dywedodd fod y gwasanaeth
wedi adnewyddu ei logo yn ddiweddar er mwyn cyfleu a chynnwys y newid diweddar
a wnaed gan CBS Castell-nedd Port Talbot. Casgliadau'r
Archifau Adroddodd am y
rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter. |