Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 13 Medi 2019 fel cofnod cywir. |
|
Materion yn Codi Cofnodion: Adroddodd yr
Archifydd Sirol nad oedd penderfyniad wedi'i wneud eto ar ddyfodol cronfeydd
wrth gefn yr Archifau a bydd trafodaethau pellach yn parhau rhwng y ddau
awdurdod. Roedd y gronfa
wrth gefn ar gyfer cyhoeddi bellach yn wag yn dilyn ailbrintio'r llyfr ‘Three
Night Blitz’. |
|
Cadeirydd Ymadawol Cofnodion: Dywedodd Byron
Lewis mai hwn fyddai ei gyfarfod Pwyllgor olaf cyn iddo ymddeol o'i swydd fel
Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg ym mis Mawrth 2020. Amlinellodd ei
fod wedi mwynhau ei ddeuddeng mlynedd fel Cadeirydd y pwyllgor a diolchodd i'r
aelodau presennol a rhai'r gorffennol am eu mewnbwn dros y blynyddoedd. Cyflwynodd Kim
Collis, Archifydd Sirol, gopi o gyhoeddiad diweddaraf y gwasanaeth i Mr Lewis
sef ‘A new, even better Abertawe: the rebuilding of Swansea, 1941-1961’ fel
arwydd o ddiolch am ei gyfraniad dros y blynyddoedd. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 183 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr
Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y
Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2019. Defnydd o'r
gwasanaeth Adroddodd yr Archifydd
Sirol am y defnydd o'r gwasanaeth dros y chwarter gan gyfeirio at yr ystadegau
ar gyfer 2018/19 a manylodd ar y cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i'r ystadegau. Mae'r swm enfawr
o ddeunydd sydd bellach ar gael ar-lein hefyd yn effeithio ar niferoedd ymwelwyr. Achrediad yr
Archifau Amlinellodd yr
Archifydd Sirol gefndir achrediad y gwasanaeth yn 2016 dan Gynllun Achrediad
Archifau'r DU. Mae'r dyfarniad yn para am gyfnod o chwe blynedd, a bu'n destun
adolygiad canol tymor ym mis Tachwedd. Adroddodd nad
oedd y gwasanaeth wedi llwyddo yn yr adolygiad canol tymor a bod yr achrediad
wedi'i estyn dros dro am gyfnod o ddeuddeng mis, yn ddibynnol ar gwblhau
cynllun gweithredu tri phwynt erbyn mis Tachwedd 2020. Amlinellodd y tri
phrif ofyniad yr oedd yr adolygiad wedi'u nodi y byddai angen mynd i'r afael â
hwy er mwyn i'r gwasanaeth barhau i fodloni'r safon. Roedd cynlluniau
i adleoli casgliadau'r archif fel y gellir cau Canolfan Ddinesig Abertawe ar
gam cynnar iawn. Mae angen egluro'r rhain a'u cyflwyno i'r Panel Achredu. Mae
angen adolygu polisïau'r gwasanaeth a'u cydgysylltu i greu un gwasanaeth mwy
cydlynol. Mae angen mwy o eglurder hefyd
ynghylch goblygiadau'r toriadau cyllidebol arfaethedig i'r gwasanaeth. Cyfeiriodd at
adroddiad diweddar a luniwyd ganddo ar gyfer Panel Craffu yn Abertawe y
byddai'n ei ddosbarthu i holl aelodau'r pwyllgor ar ôl y cyfarfod. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu'n fanylach y materion a'r ffactorau a oedd yn ymwneud ag
adleoli posib yn y dyfodol a'r atebion storio dros dro posib. Cyfeiriodd at yr
amserlen chwe blynedd y bu ei hangen ar gynghorau Sir Gâr a Phowys o'r cysyniad
cyntaf i agor eu cyfleusterau archifau newydd. Yn y ddau achos, nid oedd y
cynghorau wedi ceisio cyllid allanol ar gyfer eu prosiectau. Trafododd y Cadeirydd
ac Aelodau'r pwyllgor am hydoedd am y materion a godwyd yn yr adolygiad gan
amlinellu bod angen mwy o sicrwydd ar y gwasanaeth ynghylch ei ddyfodol er mwyn
diogelu'r casgliadau a'u cadw'n lleol fel eu bod ar gael i'r cyhoedd. Cynigiwyd cynnal
cyfarfod rhwng y Cadeirydd, yr Is-gadeiryddion a'r Aelod perthnasol o'r Cabinet
fel man cychwyn ar gyfer trafodaethau am yr holl faterion sy'n wynebu'r
gwasanaeth. Allgymorth y
Gwasanaeth Adroddodd yr
Archifydd sirol am y lleoliadau amrywiol lle'r arddangoswyd arddangosfa i
goffáu 50 mlwyddiant statws dinas i Abertawe yn ystod y chwarter. Roedd y
digwyddiad i lansio cyhoeddiad ‘A new, even better Abertawe: the rebuilding of Swansea,
1941-1961’ a gynhaliwyd yn Amgueddfa Abertawe ym mis Medi yn un llwyddiannus
iawn, ac mae'r llyfr wedi gwerthu'n dda ers ei lansio. Amlinellwyd
gwaith y gwasanaeth addysg yn ystod y chwarter, gyda naw ysgol yn rhan o'r
peth, a rhai yn trefnu sawl sesiwn. Sgyrsiau â
grwpiau Adroddodd yr
Archifydd Sirol am y sgyrsiau amrywiol a roddwyd i gymdeithasau a grwpiau dros
y chwarter a'r digwyddiadau allanol y bu'r staff yn rhan ohonynt. Staff Adroddodd yr
Archifydd Sirol fod Emma Laycock wedi dechrau yn y gwasanaeth ym mis Tachwedd
mewn rôl rhannu swydd. Cyfarfodydd
Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth Adroddodd yr
Archifydd Sirol am y cyfarfodydd proffesiynol amrywiol y bu'r staff yn
bresennol ynddynt yn ystod y chwarter. Dywedodd y
byddai'r 'Cerdyn Darllen Archifau' newydd i'w ddefnyddio ledled y DU yn
cael ei lansio ym mis Ionawr.
Byddai'r cerdyn newydd yn rhoi mynediad i dros 50 o gasgliadau Gwasanaethau
Archifau ledled Cymru a Lloegr. Atgoffodd
aelodau'r pwyllgor fod yr arddangosfeydd amrywiol a gynhelir gan y gwasanaeth
ar gael o hyd yn y ddau awdurdod, ac fe'u hamlinellir a'u rhestrir ar
we-dudalennau'r gwasanaeth. Casgliadau'r
Archifau Adroddodd am y
rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter. |