Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig, Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden – 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2024
fel cofnod cywir. |
|
2025/2026 Cyllideb Refeniw. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd Andrew
Dulley adroddiad y Cyfarwyddwr Lleoedd a oedd yn nodi manylion Cyllideb
Refeniw'r Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2025/2026 a'r arian wrth gefn
sydd gan y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd, a gyflwynwyd er gwybodaeth yn unig. Nododd fod y
gyllideb unwaith eto'n sefydlog, ac eithrio cynnydd
bach o ganlyniad i'r dyfarniad cyflog ar gyfer 2025. Mae'r tabl yn yr
adroddiad yn dangos sefyllfa amcangyfrifedig arian
wrth gefn Hyfforddiant Casgliadau a'r Archifau ar 31 Mawrth 2025. Nododd aelodau'r
Pwyllgor yr adroddiad. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd yr
Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y
Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Chwefror 2025. Sut defnyddir
y gwasanaeth Adroddodd am y
ffigurau defnyddio’r gwasanaeth drwy ei gyfryngau amrywiol, ar y safle ac
ar-lein. Cyfeiriodd at y
ffaith bod y niferoedd yn parhau i gynyddu'n gyffredinol. Sgyrsiau a
seminarau Dywedodd fod chwe
ysgol wedi derbyn sesiynau yn ystod y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf. Amlinellodd fod y
gwasanaeth yn cynnig ei wasanaethau i ysgolion yn y ddau awdurdod, ac
amlinellodd unwaith eto yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i ymgysylltu ag
ysgolion yn CNPT. Mae'r gwasanaeth
wedi cynnal dwy sesiwn ar gyfer myfyrwyr prifysgol. Mae'r gwasanaeth
hefyd wedi cyflwyno sgyrsiau i bum grŵp gwahanol ar draws y ddau awdurdod. Gwaith
ymgysylltu a chydweithio arall Adroddodd fod Emma Laycock wedi mynd i ddau gyfarfod a gynhaliwyd gan
grŵp athrawon ysgolion uwchradd Castell-nedd Port Talbot (NAASH), er mwyn
esbonio gwaith y Gwasanaeth Archifau a hyrwyddo ei wasanaeth i ysgolion yn
CNPT. Mae Emma hefyd yn cynorthwyo gyda phrosiect ym Mhrifysgol Abertawe o'r enw
‘Usable Pasts: Diversifying humanities teaching in Swansea Schools through disability history’. Mae'r prosiect yn datblygu adnoddau addysgu hanes
anabledd ar gyfer ysgolion lleol. Amlinellodd ei
fod wedi darparu cyngor a chymorth ymarferol gyda phrosiect o'r enw ‘Trysorau
Lleol’, sy'n ceisio gwarchod llyfrau a phapurau Sally
Roberts Jones, hanesydd llenyddiaeth a materion lleol o Bort Talbot. Symud y
Casgliadau Adroddodd fod y paratoadau'n parhau i symud i'r Storfa a bod cynnydd go
iawn wedi'i wneud wrth roi'r eitemau eraill y mae angen eu cwblhau mewn blychau
a gosod codau bar arnynt. Mae monitro amgylcheddol manwl yn parhau, gan ein
galluogi i gael gwell darlun o'r amgylchedd y tu mewn i'r blychau, yn hytrach
nag amgylchiadau cyffredinol yr aer yn yr ystafelloedd diogel. Cytunwyd ar y cynllun silffoedd ar gyfer ystafell ddiogel yr archifau
bellach. Mae'n darparu ar gyfer 532 uned o silffoedd sefydlog 1.2m o led.
Dyma'r maint gorau oll ar gyfer y blychau safonol a ddefnyddiwn, gan hefyd ein
galluogi i storio cynlluniau llai sydd wedi'u rholio ac eitemau gwastad mawr
iawn. Bydd silffoedd arbenigol ychwanegol yn cael eu hadeiladu ar gyfer eitemau
mwy sydd wedi'u rholio. Mae llawer o le i ehangu'r silffoedd (oddeutu 20%), a
fydd yn ein galluogi i barhau i gasglu archifau am flynyddoedd lawer i
ddod. Mae staff hefyd
wedi dechrau cynllunio lleoliad y blychau yn yr ystafell ddiogel. Cymerir gofal
wrth leoli eitemau sy'n anodd eu trin, fel cyfrolau mawr a blychau trwm iawn, i
sicrhau eu bod yn cael eu gosod ar uchder diogel i gael gafael arnynt. Croesawodd
Aelodau CNPT eu hymweliad â'r cyfleuster newydd yn ddiweddar i weld y cynnydd
ar yr adeilad a'r gwaith parhaus sy'n cael ei wneud. Gellid trefnu ymweliad
arall yn y dyfodol yn ôl yr angen. Catalog
ar-lein yr Archifau Yn unol â'r hyn a amlinellwyd mewn cyfarfodydd blaenorol, dywedodd fod y
gwasanaeth wedi caffael pecyn o'r enw Epexio gan Metadatis yn lle ein hen system ar gyfer catalogio
archifau. Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda Metadatis
i drosglwyddo ein data presennol i'r system newydd. Ar ôl i'r data gael ei drosglwyddo a'i wirio, y dasg nesaf fydd creu
rhyngwyneb lle bydd aelodau o'r cyhoedd yn gallu cael mynediad at wybodaeth am
y cofnodion sydd gennym. Y gobaith yw y bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau
erbyn dechrau'r haf. Defnyddir yr un pecyn ar hyn o bryd gan Archifau
Morgannwg. Cadwraeth ddigidol Rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y broses o greu consortiwm
i arwain cadwraeth ddigidol yng ngwasanaethau archifo Cymru, ac am gaffael Preservica ar gyfer darpariaeth fasnachol y gwasanaeth. Amlinellodd fod sesiynau hyfforddi wedi'u cynnal yn ystod mis Ionawr ar
gyfer staff yn y gwasanaethau sy'n cymryd rhan a bod sesiynau unigol penodol
wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol agos. Yn seiliedig ar yr hyfforddiant a
gafwyd, mae'r staff yn datblygu ein methodoleg, yn enwedig o ran strwythuro'r
archif, er mwyn sicrhau ei bod yn rhesymegol ac yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Rhan bwysig o hyn yw sicrhau bod yr holl staff yn helpu i lanlwytho
asedau digidol at ddibenion cynaliadwyedd. Rhagwelir y bydd ein holl ddeunydd
digidol presennol wedi’i lanlwytho erbyn diwedd yr
haf. Staff Dywedodd fod Lily Briton, Hyfforddai'r Archifau eleni,
wedi llwyddo i gael lle ar y cwrs archifau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd yn
dechrau ei chwrs yn nhymor yr hydref. Manylodd fod y swydd Archifydd a adawyd gan Lowri Jenkins yn yr hydref
wedi'i llenwi gan Lowri Jenkins ym mis Ionawr. Mae wedi graddio'n ddiweddar o'r
cwrs meistr Gweinyddu Archifau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Amlinellodd fod Emma Laycock wedi'i phenodi i swydd yr Archifydd Sirol
Cynorthwyol yn ystod yr wythnos diwethaf, a bod y rôl wedi bod yn wag ers iddo
gael ei benodi'n Archifydd Sirol ym mis Mehefin 2024. Bydd rôl flaenorol Emma
yn cael ei hysbysebu cyn bo hir. Gofynnodd y Cadeirydd am i longyfarchiadau'r pwyllgor gael eu hestyn i
Emma. Amlinellodd hefyd
fod angen cymeradwyaeth i barhau i ariannu swydd Hyfforddai'r Archifau. Cytunwyd y dylid
cymeradwyo defnyddio'r arian hyfforddiant wrth gefn i ariannu Hyfforddai'r
Archifau ar gyfer 2025/26. Cyfarfodydd a
hyfforddiant proffesiynol Rhestrodd y
grwpiau, y cyfarfodydd a'r hyfforddiant proffesiynol amrywiol roedd aelodau
staff wedi cymryd rhan ynddynt yn ystod y chwarter. Mynediad at
Gasgliadau’r Archifau Manylodd ar yr
archifau amrywiol a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter. |
|
Croesawu a Ffarwelio/Diolch. Cofnodion: Gwnaeth y
Cadeirydd groesawu'r Parch. Justin Davies a'r Parch.
Tim Hewitt i'w cyfarfod cyntaf. Hefyd, gwnaeth
longyfarch y Parch. Davies ac Eglwys y Santes Fair yn
Abertawe. Dyma'r eglwys gyntaf yng Nghymru i sicrhau statws Mystwyr,
a gyflwynwyd iddi mewn seremoni roedd y Cadeirydd wedi cymryd rhan ynddi'n ddiweddar. Hefyd, diolchodd
i Janet Watkins o Gymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd, a fyddai'n ymddeol yn
fuan o'r Pwyllgor Archifau a Phwyllgor Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd ar
ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth ymroddedig, brwdfrydedd ac ymrwymiad i hanes lleol.
Yna gwnaeth y
Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor dalu teyrnged i Janet a diolch iddi am ei
gwaith a'i hymrwymiad i'r gwasanaeth dros y blynyddoedd, gan ddymuno ymddeoliad hir a hapus iddi. |