Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - (01792) 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd R V Smith – Eitem 4 - Personol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, datganwyd
y cysylltiad canlynol: Y Cynghorydd R V
Smith - Eitem 4 (Derbynion Archifau) - Personol |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 13
Medi 2024 fel cofnod cywir. |
|
Materion yn codi. Cofnodion: Mewn perthynas â
chofnodion y cyfarfod blaenorol, rhoddodd yr Archifydd Sirol ddiweddariad
llafar i aelodau'r pwyllgor a oedd yn ymwneud â'r materion canlynol: Catalog
Ar-lein yr Archifau -
mae'r broses ynghylch y contract newydd yn cael ei datblygu gan yr adran TG a'r
cyflenwr o hyd, a gobeithir ei chymeradwyo cyn bo hir. Bydd yn golygu y gall y catalog fod ar-lein eto yn
y flwyddyn newydd. Gweithio ar y
Cyd - yn anffodus, roedd
y cais am gyllid yn aflwyddiannus, ond ers hynny mae staff yr archifau wedi
cysylltu ag aelodau'r gymuned LHDTCRhA+ i drafod
recordiad llafar o atgofion etc. ac mae'n ymddangos bod hwn yn ffordd dda
ymlaen. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd yr
Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y
Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2024. Y Defnydd o'r
Gwasanaeth Adroddodd am y
ffigurau sy'n ymwneud â'r defnydd o'r gwasanaeth drwy ei lwyfannau amrywiol yn
bersonol ac ar-lein. Sgyrsiau a
seminarau Dywedodd fod tair
ysgol wedi derbyn sesiynau yn ystod y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf. Amlinellodd fod y gwasanaeth wedi cysylltu â'r holl ysgolion yn yr ardal
leol a oedd yn rhan o Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn flaenorol i
archwilio p'un a allent helpu gydag unrhyw brosiectau hanesyddol cyfredol. Mae
hyn yn cynnwys 7 ysgol o Abertawe a 9 ysgol o Gastell-nedd Port Talbot. Dywedodd Chris Saunders y byddai'n rhannu manylion y gwasanaeth archifau â
holl ysgolion CNPT yn ystod y cyfarfodydd misol â phenaethiaid yn y flwyddyn
newydd. Dylai hyn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth a chynyddu'r
defnydd o'r gwasanaeth o ganlyniad. Mae'r gwasanaeth
hefyd wedi cynnal tair sesiwn ar gyfer myfyrwyr prifysgol, ac mae'n parhau i
gynnal cyfarfod misol Cangen Abertawe o Gymdeithas Hanes Teulu Morgannwg. Cyhoeddusrwydd
Arall a Chydweithio Yn dilyn y trafodaethau yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Archifau,
dywedodd fod staff wedi cwrdd â Harriet Eaton, Swyddog Treftadaeth Castell-nedd
Port Talbot, sy'n darparu gwasanaeth i ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Diben y cyfarfod oedd archwilio ffyrdd y gallem weithio gyda'n gilydd yn
effeithiol, a chefnogi Harriet gyda'i gwaith. O ganlyniad i'r cyfarfod, mae'r
gwasanaeth hefyd wedi nodi sianeli cyfathrebu newydd i'w defnyddio i gyhoeddi'r
gwaith rydym yn ei wneud ar gyfer ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'r Gwasanaeth Archifau wedi cyflwyno copïau digidol o sawl dogfen, gyda
disgrifiadau cysylltiedig, i brosiect a gynhelir gan Amgueddfa Genedlaethol
Lerpwl, sef 'House of Memories', rhaglen
ymwybyddiaeth o ddementia a arweinir gan yr amgueddfa sy'n cynnig hyfforddiant,
mynediad at adnoddau, a gweithgareddau i alluogi gofalwyr i ddarparu gofal sy'n
canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sy'n byw â dementia. Roedd y
Gwasanaeth Archifau hefyd wedi cynnal lansiad 'History
of Swansea vol. 3, part 1'
gan Gerald Gabb yn yr ystafell ymchwil ar 4 Tachwedd . Arddangosfa
Ar-lein Amlinellodd fod y
gwasanaeth wedi paratoi arddangosfa ar-lein am Siarter Aberafan yn ddiweddar, a roddwyd i fwrdeistref
Afan gan Leysan ap Morgan, arglwydd Afan, yn oddeutu 1306.
Dywedodd mai'r siarter yw un o drysorau ein casgliad, ac mae'n enghraifft
unigryw o siarter sy'n rhoi hawliau i fwrdeistref a gyflwynwyd gan Arglwydd
Cymreig yn hytrach na Normanaidd. Nid yw'r siarter,
sydd prin yn cael ei gweld gan y cyhoedd, wedi cael y sylw mae'n ei haeddu yn
flaenorol, ac mae'r arddangosfa hon yn ceisio gwella'r sefyllfa ac yn adrodd
stori'r siarter a sut y'i hysgrifennwyd. Mae hefyd yn
cysylltu'r siarter â'r hen gist siarter sy'n cael ei harddangos ger mynedfa
gyhoeddus Canolfan Ddinesig Port Talbot. Mae hefyd yn
cynnwys trawsgrifiad a chyfieithiad newydd o'r siarter, yn ogystal â ffacsimili
o'i thestun a'i sêl. Y bwriad yw gwneud y siarter ar gael yn eang fel y gall
pobl ei hastudio a'i deall. Ein bwriad yw parhau i wneud hyn gyda'n siarteri
canoloesol eraill pan fydd amser i wneud hynny. Gellir gweld y
siarter ar ein gwefan yn https://www.abertawe.gov.uk/ArchifauAberafanSiarter?lang=cy Cadwraeth Ddigidol Dywedodd fod y Gwasanaeth Archifau wedi ymrwymo i gonsortiwm ar y cyd ar gyfer rheoli archifau
digidol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys Gorllewin Morgannwg, Gwent, Morgannwg,
Conwy, Archifau
Gogledd-ddwyrain Cymru, a Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd. Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
(PCYDDS) bellach wedi tynnu'n ôl, ond mae Archifau Powys wedi mynegi diddordeb
mewn ymuno ers hynny. O ganlyniad i PCYDDS yn tynnu'n ôl, nid aed ar drywydd y cynlluniau
gwreiddiol i lunio cais am gyllid ar gyfer aelod ychwanegol o staff i lanlwytho deunydd digidol i'r gronfa ar ran y tair cronfa
yn Abertawe, ond daethpwyd o hyd i ffordd i’r staff presennol ymgymryd â rhan
o'r gwaith. Bydd hyfforddiant ar gael ym mis Ionawr a bydd y gwaith o lanlwytho'r deunydd yn dechrau bryd hynny. Symud y Casgliadau Amlinellodd fod y gwaith adeiladu yn parhau yn hen adeilad BHS yn Abertawe er
mwyn ei drawsnewid yn adeilad newydd, sef Y Storfa. Mae staff y Gwasanaeth Archifau yn parhau â'r
gwaith y tu ôl i'r llenni i baratoi i symud. Gwnaed cynnydd da hyd yma ac mae 95%o'r cyfrolau a'r mapiau wedi'u rhoi mewn
bocsys, mae'r holl ddeunydd arall mewn bocsys ac mae pob bocs yn cynnwys côd bar fel y gellir cadw cofnod ohonynt yn ystod y symud. Mae staff hefyd yn ymgymryd â phrosiect i fonitro'r amgylchedd yn y bocsys,
i sicrhau bod gennym gymaint o wybodaeth â phosib am amodau amgylcheddol yr
ystafelloedd diogel cyn y symud. Bydd amodau amgylcheddol yn y fangre newydd hefyd yn cael eu monitro a'u sefydlogi cyn y
gellir symud y casgliadau. Yn y cyfamser, mae dau reolydd lleithder diwydiannol
wedi cael eu defnyddio fel dewis wrth gefn i sicrhau bod y casgliadau yn y
cyflwr gorau posib cyn iddynt gael eu symud. Staff Adroddodd fod Lowri Jenkins wedi gadael ei swydd ar ddiwedd mis Hydref,
roedd wedi gweithio fel Archifydd ers mis Mai. O ganlyniad roedd swydd wag ar
gyfer rôl allweddol yn y Gwasanaeth Archifau a gwnaed ymdrech i recriwtio
olynydd i'r swydd cyn gynted â phosib. Yn ddiweddar rydym wedi penodi Amy
Mitchell yn ei lle. Mae Amy wedi graddio'n ddiweddar o gwrs archifau Prifysgol
Aberystwyth a bydd yn dechrau yn y swydd ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd. Cyfarfodydd a
Hyfforddiant Proffesiynol Rhestrodd y
gwahanol grwpiau, cyfarfodydd a hyfforddiant proffesiynol a gynhaliwyd gan
aelodau staff yn ystod y ddau chwarter. Mynediad at
Gasgliadau’r Archifau Manylodd ar yr
archifau amrywiol a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter. |