Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso/Diolch Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
y Cynghorydd Mike Lewis i'w gyfarfod cyntaf, a diolchodd i'r Cynghorydd Louise
Gibbard am ei chyfraniad i'r pwyllgor yn ystod ei chyfnod fel aelod. Diolchodd hefyd
i'r aelodau hynny na fyddent yn ceisio cael eu hailethol ym mis Mai am eu
cyfraniad dros y blynyddoedd. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir. |
|
2022/2023 Cyllideb Refeniw. PDF 271 KB Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyflwynodd Kim
Collis adroddiad y Cyfarwyddwr Lleoedd a oedd yn nodi manylion Cyllideb
Refeniw'r Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2022/2023 a'r arian wrth gefn
sydd gan y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd, a gyflwynwyd er gwybodaeth yn unig. Nododd ei fod
unwaith eto'n gyllideb ddigyfnewid rithwir, ac
eithrio cynnydd bach ar gyfer y dyfarniad cyflog ar gyfer 2022. Mae'r tabl yn yr
adroddiad yn dangos sefyllfa amcangyfrifedig arian
wrth gefn Hyfforddiant Casgliadau a'r Archifau ar 31 Mawrth 2021. Amlinellodd fod
swydd Archifydd dan hyfforddiant yn parhau i fod heb ei llenwi oherwydd y
materion ynghylch y pandemig ond roedd yn gobeithio y
gellid llenwi'r swydd eto wrth symud ymlaen, gan ei bod yn rhan angenrheidiol
o'r broses o ddychwelyd i oriau agor llawn. Roedd yr aelodau o blaid
ailgyflwyno'r swydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Nododd yr
aelodau'r adroddiad. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 200 KB Penderfyniad: Adroddiad – Er Gwybodaeth Ffioedd a Thaliadau - Cymeradwy Cofnodion: Cyflwynodd yr
Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y
Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Chwefror 2022. Ffïoedd a
Thaliadau ar gyfer 2022/23 Cyfeiriodd at y tabl
ffïoedd a thaliadau ar gyfer y gwasanaeth nad yw wedi
newid ers 2021 ac a fydd yn berthnasol o 1 Ebrill 2022. Penderfynwyd cymeradwyo'r ffïoedd
a'r taliadau ar gyfer 2022/23. Ailagor y pwynt
gwasanaeth/defnyddio'r gwasanaeth Amlinellodd fod y
pwynt mynediad yn Abertawe yn parhau i fod ar agor gyda nifer cyfyngedig o'r
cyhoedd yn cael eu caniatáu yn seiliedig ar asesiad risg COVID-19. Mae'r niferoedd
sy'n ymweld â'r gwasanaeth yn parhau i fod yn isel, ond maent yn gwella'n araf. Byddai'r
gwasanaeth yn ailasesu oriau agor ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch
diwedd y cyfyngiadau. Yn dilyn
trafodaethau gyda Chymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd a chwblhau'r asesiad
risg COVID-19 perthnasol, amlinellodd y bydd y cyfleuster yn Sefydliad y Mecanyddion yn ailagor yn fuan ar ddydd Llun. Byddai'n adrodd
yn ôl i'r cyfarfod ym mis Mehefin gydag adborth ar yr oriau ailagor a’r oriau
diwygiedig a sut y maent wedi gweithredu. Allgymorth a
Gweithgarwch Addysgol Amlinellodd y
sesiynau a ddarparwyd gan wasanaeth yr ysgol yn ystod y chwarter drwy Microsoft
Teams. Cyfarfodydd a
Hyfforddiant Proffesiynol Manylodd ar y
gweithgorau a'r sesiynau hyfforddi niferus a gynhaliwyd gan staff yn ystod y
chwarter. Manylodd ar
brosiect i sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol gan Lyfrgell Genedlaethol
Cymru ar gyfer y BBC/ITV/S4C. Bydd nifer o bwyntiau mynediad yn cael eu sefydlu
ledled y wlad, gan gynnwys un yn ystafell archwilio'r archif yn Abertawe, a
fydd yn galluogi aelodau'r cyhoedd i weld hen raglenni teledu o dapiau darlledu
digidol. Mae gan y prosiect hwn y rhagwelir y bydd ar agor erbyn yr haf y
potensial i ddenu rhagor o'r cyhoedd i'r gwasanaeth. Amlinellodd y
prosiect The World Reimagined
sy'n darparu ymateb artistig i'r fasnach gaethwasiaeth a'i hetifeddiaeth
barhaus. Bydd cyfres o globau yn cael eu gosod o amgylch y ddinas a bydd yr
holl archifau, amgueddfeydd ac orielau yn rhan o'r gwaith o ddatblygu naratif
i'r llwybr. Manylodd ar waith
parhaus gweithgor Cofnodion Digidol Hanfodol Cymru wrth edrych ar faterion sy'n
ymwneud â chadw cofnodion digidol yn y tymor hir ledled Cymru. Posibilrwydd o
Adleoli'r Gwasanaeth Archifau i Hwb arfaethedig yng nghanol y ddinas Rhoddodd yr
wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y sefyllfa bresennol o ran y symudiad
arfaethedig i'r cyfleuster hwb canol y ddinas newydd yn Abertawe a'r materion
parhaus sy'n ymwneud â'r cynnig. Nododd fod elfen hanfodol y symudiad i hwb
newydd yng nghanol y ddinas yn parhau o ran bodloni Safon Brydeinig BS16893 ar
gyfer storio archifol, er mwyn i'r gwasanaeth gadw ei achrediad a'i statws fel
man cadw lleol ar gyfer cofnodion cyhoeddus. Byddai angen i
Gyngor Castell-nedd Port Talbot gytuno ar y cynlluniau i symud i hwb canol y
ddinas a'i gefnogi, gyda phenderfyniad yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai
mae'n debyg. Amlinellodd y
cynigion diweddaredig ar gyfer symud i hwb canol y
ddinas, fel cam cyntaf prosiect tymor hwy i adleoli'r gwasanaeth i gyfleuster
newydd yn agos at Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Byddai hyn yn
galluogi cyfleoedd i gydweithio â'r amgueddfeydd a byddai hefyd yn dod â'r
cyfle i gael cyfleusterau pwrpasol o safon uchel ar gyfer y Gwasanaeth Archifau
yn y dyfodol. Mae is-grŵp
o archifyddion a swyddogion Cyngor Abertawe bellach yn cydweithio i ddatblygu'r
syniad hwn ymhellach. Nid yw'r cynnig wedi'i drafod eto gan y Cabinet yn
Abertawe. Byddai
diweddariad pellach yn cael ei roi yn y cyfarfod ym mis Mehefin. Mynediad at
Gasgliadau Archifau Adroddodd ar y
rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter. |