Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 311 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 10 Medi 2021 fel cofnod cywir.

 

12.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 715 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2021.

 

COVID-19

 

Dywedodd fod ystafell ymchwil Abertawe yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd, a'i bod yn cael ei defnyddio'n rheolaidd ond gan lawer llai oherwydd y cyfyngiad ar niferoedd ymwelwyr yn sgîl y pandemig.

 

Adroddodd fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Chymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd a bod asesiad iechyd a diogelwch wedi'i gynnal gyda'r bwriad o ailagor y cyfleuster yn Sefydliad y Mecanyddion yng Nghastell-nedd, ond dywedodd nad oedd y Gymdeithas Hynafiaethwyr yn gallu ymrwymo ar hyn o bryd i gynorthwyo. Byddai'r sefyllfa'n cael ei hadolygu eto yn y Flwyddyn Newydd.

 

Achrediad y Gwasanaeth Archifau

 

Dywedodd fod y gwasanaeth, yn dilyn yr adolygiad blynyddol o'i achrediad, wedi cael statws dros dro tan fis Tachwedd 2022.

 

Gwaith Allgymorth ac Addysgol

 

Nododd fod y gwasanaeth ysgol wedi ailgychwyn yn ystod y chwarter drwy Microsoft Teams, a allai fod yn sail ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth wrth symud ymlaen.

 

Mae'r prosiect ar hanes cysylltiad Cymru â'r fasnach gaethweision yn parhau, gyda'r pandemig yn effeithio ar gynnydd ac adolygiad y rhaglen mewn ysgolion.

 

Y defnydd o'r gwasanaeth

 

Nododd fod y ffigurau sy'n ymwneud â defnyddio'r gwasanaeth yn adlewyrchu effaith y pandemig.

 

Sgyrsiau a Chyfarfodydd Proffesiynol

 

Adroddodd am y cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Casgliadau'r Archifau

 

Adroddodd am y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.

 

Posibilrwydd o Adleoli'r Gwasanaeth Archifau i Hwb arfaethedig yng nghanol y ddinas

 

Yna rhoddodd gyflwyniad llafar manwl a hirfaith ac amlinellodd gynnwys 'nodyn technegol' yr oedd wedi'i baratoi a oedd yn ymwneud â'r cynigion ar gyfer y bwriad i adleoli'r gwasanaeth Archifau i hwb newydd yng nghanol y ddinas. Mae manylion y cynigion wedi'u cynnwys mewn adroddiad cyfrinachol a fyddai'n cael ei ystyried gan y Cabinet yn Abertawe ar 16 Rhagfyr 2021.

 

Dangosodd hefyd nifer o gynlluniau i'r pwyllgor a oedd yn amlinellu cynllun arfaethedig yr adeilad newydd a maint y cyfleusterau Archifau newydd sy'n ymwneud ag ochr yr adeilad fyddai'n derbyn y cyhoedd a'r cyfleusterau storio a fyddai wedi'u lleoli ar ail lawr yr adeilad newydd, a'u cymariaethau â'r ddarpariaeth bresennol yn y Ganolfan Ddinesig.

 

Roedd y cyflwyniad yn dilyn cyflwyniad anffurfiol ar y cynigion gan y tîm amlddisgyblaethol (TA) yng Nghyngor Abertawe i aelodau'r Pwyllgor Archifau ym mis Tachwedd.

 

Yn ystod y cyflwyniad, ymdriniwyd yn fanwl â chyngor a gwybodaeth allanol yn ymwneud â materion amrywiol gan gynnwys safonau BSI, diogelwch tân, diogelwch a modelu thermol. Amlinellwyd y byddai'r ystafell ymchwil gyhoeddus arfaethedig yn llawer llai na'r un bresennol, heb unrhyw ddarpariaeth hanes teulu ar wahân i'r cyhoedd, ond gallai hyn newid. Fodd bynnag, byddai "ystafell addysg" ar wahân ar gyfer yr adeilad y gellid ei defnyddio.

 

Amlinellodd y byddai'n dosbarthu'r nodyn technegol, y cynlluniau a'r cyngor ar dân, diogelwch a modelu thermol etc. yn dilyn y cyfarfod.

 

Trafododd yr Aelodau y cynigion a'r materion a godwyd yn helaeth gan ofyn nifer o gwestiynau i Archifydd y Sir a ymatebodd yn briodol. Roeddent hefyd wedi holi a chodi pryderon ynghylch ai'r cynlluniau oedd y rhai diweddaraf a mwyaf cyfoes, gan fod adroddiad y Cabinet fel pe bai'n dangos nad oeddent. Codwyd ymholiadau hefyd ynghylch maint yr ystafell ddiogel, yn enwedig os bydd y gwasanaeth, fel y nodir yn adroddiad y Cabinet, yn derbyn casgliadau ychwanegol. Holasant hefyd a fyddai Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gallu gwneud sylwadau ar y cynigion fel partneriaid i'r gwasanaeth ar y cyd.

 

Amlinellwyd y byddai Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn Abertawe yn archwilio ac yn trafod yr adroddiad yn eu cyfarfod ddydd Mawrth 14 Rhagfyr, gyda Chadeirydd y Pwyllgor hwnnw'n rhoi adborth i gyfarfod y Cabinet ar 16 Rhagfyr.

 

(Sylwer: Arhosodd y Cyng. Robert Smith i glywed y ddadl a gofynnodd gwestiynau ond ni ddatganodd farn ynghylch yr eitem hon)