Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2021 fel cofnod cywir. |
|
Materion yn codi. Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Adroddodd yr
Archifydd Sirol fod adroddiad staffio yn y broses o gael ei gymeradwyo a
byddai'n arwain at greu swydd newydd fwy cyffredinol, sef Cynorthwy-ydd
Archifau. Byddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor yn y cyfarfod
nesaf. Amlinellodd hefyd
er gwybodaeth fod y digwyddiad dadorchuddio plac glas ar gyfer Jessie Donaldson
wedi digwydd ar 19 Mehefin, a phwysleisiodd bod y cynllun plac glas yn fenter
Gwasanaethau Diwylliannol, nid menter a reolir gan y Gwasanaeth Archifau. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 164 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd yr
Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y
Cyd rhwng mis Mehefin 2021 a mis Awst 2021. Achrediad y
Gwasanaeth Archifau Rhoddodd yr
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar lafar am y sefyllfa bresennol mewn
perthynas â'r Safon Achrediad Archifau ac amlinellodd y cynhelir adolygiad
pellach o'r statws Achrededig ym mis Tachwedd. Dywedodd y byddai
angen iddo baratoi adroddiad ym mis Hydref a’i gyflwyno cyn Adolygiad y Panel.
Amlinellodd hanes cefndir yr Achrediad a gyflawnwyd gan y gwasanaeth yn 2016 a
chyfeiriodd at y prif reswm dros roi'r statws Dros Dro i'r gwasanaeth, sy'n
ymwneud â dyfodol ansicr casgliadau'r archif o ganlyniad i benderfyniad Cyngor
Abertawe i werthu ei Ganolfan Ddinesig. Roedd ffactorau eraill y mae angen eu
gwella'n cynnwys cynllun cydlynol ar gyfer cadw cofnodion digidol a mynediad
gwell at gyngor ar gadwraeth. Dywedodd fod y
Gwasanaeth Archifau wedi tanysgrifio'n ddiweddar i'r Gwasanaeth Cadwraeth
Cenedlaethol, sy'n darparu'r cyngor cadwraeth strategol yr ystyriwyd bod diffyg
ohono gan y Panel Adolygu. Amlinellodd y
gallai'r ddau gyngor a'r Gwasanaeth Archifau golli eu henw da pe bai'r
gwasanaeth yn colli ei Safon Achredu a'r goblygiadau o ran ei ddynodi'n
Lleoliad Adneuo lleol ar gyfer cofnodion cyhoeddus. COVID-19 Nododd fod y
Ganolfan Hanes Teulu wedi ailagor ar 27 Gorffennaf. Nododd fod nifer yr
ymwelwyr yn parhau i fod yn isel, ac mae'n debygol bod hyn oherwydd diffyg
hyder ymhlith y sylfaen defnyddwyr craidd, sydd yn yr ystod oedran hŷn yn
bennaf, i fentro'n ôl i ddefnyddio cyfleusterau cyhoeddus pan nad oes angen
iddynt wneud hynny. Mae mesurau cadw
pellter cymdeithasol yn parhau i fod ar waith yno ac yn y brif ystafell chwilio
archifau ac mae trefniadau glanhau llym ar waith hefyd. Dywedodd fod
angen iddo ailgychwyn trafodaethau gyda Chymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd
ynglŷn â'r posibilrwydd o ailagor Sefydliad y Mecanyddion Castell-nedd i'r
cyhoedd. Adleoliad
Posib y Gwasanaeth Archifau i'r Ganolfan Arfaethedig yng Nghanol y Ddinas Rhoddodd yr
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y datblygiadau ers y cyfarfod diwethaf ar
y cynigion ar gyfer adleoli'r gwasanaeth i'r Ganolfan Newydd yng Nghanol y
Ddinas yn hen adeilad British Homes Stores yng nghanol y ddinas. Amlinellodd y
byddai angen i'r cyfleuster newydd fodloni safon BS EN 16893. Byddai unrhyw
arian gan Lywodraeth Cymru tuag at gyfleuster archifau newydd yn dibynnu ar
fodloni'r safon hon. Nododd mai'r cynigion
presennol oedd lleoli ystafell ddiogel yr archifau ar ail lawr yr adeilad ac
uwchben y llyfrgell. Dywedodd nad oedd yn teimlo y byddai hyn yn addas ac
amlinellodd ei bryderon ynghylch y materion sy'n ymwneud â'r risg tân/difrod
dŵr posib yn ei leoliad arfaethedig, adroddiadau modelu thermol gwael a
chynaliadwyedd ynni wrth symud ymlaen a pherchnogaeth a rennir o'r safle gydag
eiddo manwerthu. Nododd fod
cyd-weithwyr proffesiynol archifau yn Llywodraeth Cymru ac yn yr Archifau
Cenedlaethol yn rhannu ei bryderon oherwydd y ffactorau risg a godwyd uchod a
bod diffyg o ran cyfres o asesiadau risg manwl ar gyfer tân, diogelwch,
defnyddio ynni a chyfanrwydd cyffredinol strwythur yr adeilad. Diolchodd y
Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor i'r Archifydd Sirol am ei ddiweddariad a
thrafodwyd yn fanwl y materion a'r risgiau posib a godwyd uchod, a dywedwyd y
byddai angen sesiwn friffio arnynt cyn gynted â phosib gyda'r swyddogion
/rheolwyr prosiect/dylunwyr perthnasol etc. i drafod yn llawn y pryderon a'r
materion a godwyd uchod. Trafodwyd hefyd y posibilrwydd o ymweliad â'r safle.
Gofynnwyd hefyd am ragor o wybodaeth am y cyfleuster archifau newydd a
adeiladwyd yng Nghaerfyrddin. Cytunwyd y dylid gwneud y canlynol: 1.
bydd
yr Archifydd Sirol yn cynnal sesiwn friffio ar gyfer holl aelodau'r pwyllgor
cyn gynted ag y bo'n ymarferol fel yr amlinellir uchod, a bod ymweliad safle yn
cael ei drefnu os bydd angen. 2.
darperir
rhagor o wybodaeth am gyfleuster newydd Caerfyrddin yn ystod y cyfarfod nesaf. Gwaith
Allgymorth ac Addysgol Nododd nad oedd
unrhyw waith allgymorth wedi digwydd yn ystod y cyfnod adrodd, y tu hwnt i'r
negeseuon rheolaidd ar gyfryngau cymdeithasol oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd
gan y pandemig a'r cyfnod gwyliau ysgol sydd fel arfer yn dawel. Mae'r prosiect ar
hanes cysylltiad Cymru â'r fasnach gaethweision yn parhau. Defnydd o'r
gwasanaeth Nododd fod y
ffigurau sy'n ymwneud â defnyddio'r gwasanaeth yn adlewyrchu effaith y
pandemig. Sgyrsiau a
Chyfarfodydd Proffesiynol Adroddodd am y
cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter. Casgliadau'r
Archifau Adroddodd am y
rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter. |