Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso/Diolch. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd y Cynghorydd Jen Raynor yn ôl i'r Pwyllgor
a diolchodd i'r Cynghorydd Mike Durke am ei gyfraniad dros y blynyddoedd, gan
ei bod yn cymryd ei le. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2021 yn gofnod cywir |
|
Materion yn Codi Cofnodion: Adroddodd yr Archifydd
Sirol nad yw’r strwythur staffio wedi newid am y tro, ond mae COVID a'r
cyfleuster newydd posib yn darparu cyfle i adolygu a diwygio'r ddarpariaeth
wrth symud ymlaen. Nododd fod yn
rhaid gohirio digwyddiad dadorchuddio plac glas yr ymgyrchydd a'r actifydd
gwrth-gaethwasiaeth, Jessie Donaldson yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad ac y
bydd yn awr yn cael ei gynnal ar Fehefin 19eg |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 224 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y
Cyd rhwng mis Mawrth 2021 a mis Mai 2021. Pandemig
COVID-19 Nododd fod
ystafell chwilio Abertawe wedi ailagor i'r cyhoedd ddydd Mawrth 6 Ebrill ar
sail apwyntiad yn unig, yn dilyn llacio'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith yn
ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol diweddaraf. Amlinellodd ei
fod yn gobeithio agor y Ganolfan Hanes Teulu cyn gynted ag y caiff y
cyfyngiadau perthnasol eu llacio er mwyn caniatáu i hyn ddigwydd. Nododd nad oes
dyddiad eto i ailagor y cyfleuster yn Sefydliad y Mecanyddion
yng Nghastell-nedd, ond nododd fod trafodaethau gyda Chyngor Castell-nedd Port
Talbot a Chymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd yn parhau. Allgymorth a
Gweithgarwch Addysgol Dywedodd fod yr
holl waith allgymorth yn ystod y chwarter yn parhau i fod yn gyfyngedig
oherwydd y cyfyngiadau symud a’i fod wedi'i gyfyngu i ymgysylltu â'n defnyddwyr
a'n dilynwyr ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol. Rydym yn parhau i ymgysylltu ag
athrawon ysgol o bell ac yn darparu adnoddau addysgol ar-lein ar gyfer ysgolion
cynradd, yn bennaf. Mae'r Gwasanaeth
hefyd yn parhau i hyrwyddo ei hun drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol
Facebook a Twitter ac yn fwy diweddar mae wedi ychwanegu cyfrwng Microsoft
Teams fel modd o gyflwyno darlithoedd ar-lein a chyngor hanes teuluol. Mae'r
trafodaethau ar-lein a roddwyd yn ystod y chwarter yn parhau i fod yn
boblogaidd gyda'r cyhoedd. Cyfeiriodd at
gyhoeddi adroddiad blynyddol y gwasanaeth sydd i'w weld yn Abertawe - Adroddiad Blynyddol yr
Archifydd Sirol. Roedd aelodau'r
pwyllgor yn cefnogi ac yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad ac yn croesawu'r
cymysgedd amrywiol o erthyglau a gynhwyswyd ynddo. Nododd fod y prosiect
ar hanes cysylltiad Cymru â'r fasnach gaethwasiaeth hanesyddol wedi tyfu yn
ystod y chwarter diwethaf a'i fod bellach yn cynnwys bron pob archif leol yng
Nghymru ynghyd â Phrifysgolion Bangor, Abertawe a Chaerdydd. Cafwyd adborth
cadarnhaol iawn gan y gweithgor a sefydlwyd i adolygu Cwricwlwm Cymru o ran y
pwnc hwn ac mae'r prosiect yn gwneud cynnydd cyson. Hen Adeilad British
Home Stores Adroddodd
ymhellach i'r diweddariad a roddwyd yng nghyfarfod mis Mawrth a dywedodd fod
Cyngor Abertawe wedi penodi Coreus Group
i arwain Tîm Amlddisgyblaethol (TA) i ddatblygu prosiect Hwb Cymunedol Canol y
Ddinas a gynlluniwyd ar gyfer 277-278 Oxford Street. Ymysg tasgau
eraill, bydd y TA yn ymchwilio i weld a oes modd newid rhan o'r adeilad yn
ystorfa archif a fydd yn bodloni Safon Brydeinig 16893. Roedd yr Archifydd
Sirol yn bresennol ar gyfer cyfarfod archwiliadol cychwynnol gyda'r pensaer yr
ymgysylltwyd ag ef gan Coreus Group,
Neil Farquhar o Austin-Smith Lord Architects
of Cardiff. Cyhoeddir adroddiad ar addasrwydd
yr adeilad ar gyfer cadw'r archif maes o law a bydd yr Archifydd Sirol yn
parhau i gysylltu â'r TA i gyflawni'r nod hwn. Amlinellodd y
pwysigrwydd fod unrhyw gyfleuster newydd yn cyflawni safon BS 16893 ar gyfer
archifau. Roedd aelodau'r pwyllgor yn cefnogi'r angen i unrhyw gyfleuster
newydd gyrraedd y safon BS angenrheidiol. Defnydd o'r
gwasanaeth Nododd fod y
ffigurau sy'n ymwneud â defnyddio'r gwasanaeth yn adlewyrchu effaith y pandemig. Sgyrsiau a
Chyfarfodydd Proffesiynol Adroddodd am y
cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter. Casgliadau'r
Archifau Adroddodd am y
rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter. |