Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2020 fel cofnod cywir. |
|
2021/2022 Cyllideb Refeniw. PDF 327 KB Cofnodion: Cyflwynodd Kim
Collis adroddiad y Cyfarwyddwr Lleoedd, a oedd yn nodi manylion Cyllideb
Refeniw'r Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2021/2022 a'r arian wrth gefn
sydd gan y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd,
er gwybodaeth yn unig Dywedodd ei bod
unwaith eto'n gyllideb ddigyfnewid rithwir, ac
eithrio codiad bach ar gyfer codiad cyflog byw. Mae'r tabl yn yr
adroddiad yn dangos sefyllfa amcangyfrifedig arian
wrth gefn yr Archifau ar 31 Mawrth 2021. Roedd hyn wedi codi £30,000 yn ystod y
flwyddyn oherwydd tanwariant yn y gyllideb sy'n gysylltiedig â'r pandemig. Cafwyd trafodaeth
ynghylch defnyddio'r cronfeydd wrth gefn a'r posibilrwydd o ail-gyflwyno'r
gronfa gyhoeddiadau pe bai'r angen yn codi. Dywedodd nad yw
swydd yr Hyfforddai Archifau wedi'i llenwi ar hyn o bryd oherwydd materion
recriwtio a manylodd ar y cynnydd yn oriau'r staff eraill er mwyn sicrhau
parhad y gwasanaeth. Nododd aelodau'r
adroddiad. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 343 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Archifydd
Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn
ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Chwefror 2021. Ffïoedd a thaliadau Cyfeiriodd Kim
Collis at y tabl ffïioedd a thaliadau ar gyfer y
Gwasanaeth sy'n aros yn ddigyfnewid o 2020 ac a fydd yn gymwys o 1 Ebrill 2021. Nododd aelodau'r
pwyllgor lefelau ffïoedd a thaliadau a chefnogodd
rewi taliadau o ystyried y cyd-destun economaidd ehangach. Pandemig COVID-19 Amlinellodd fod y gwasanaeth wedi ailagor i'r
cyhoedd ar gapasiti llawer llai y llynedd, gyda
mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, cyn y cyfyngiadau symud
cenedlaethol diweddaraf ar 19 Rhagfyr. Nododd fod y staff yn parhau, fel rheol, i
weithio gartref, wrth gynnal ymweliadau corfforol rheolaidd â'r Ganolfan
Ddinesig, er mwyn sicrhau bod yr ystafell ddiogel yn cael ei harchwilio, bod
post yn cael ei gasglu, bod unrhyw waith angenrheidiol yn cael ei wneud a bod
dogfennau ar gyfer staff y cyngor yn cael eu casglu. Nododd y bydd defnyddio a darparu'r gwasanaeth yn
y dyfodol yn dibynnu llawer ar hyder gwirfoddolwyr a defnyddwyr i ddychwelyd i
"normal" ac ymweld â'r cyfleusterau yn bersonol. Allgymorth a Gweithgarwch
Addysgol Manylodd ar y gwahanol ddarnau o waith yr oedd
y gwasanaeth wedi bod yn ymwneud â hwy i gofio’r Blitz Tair Noson, a nododd ei 80fed pen-blwydd rhwng 18 a
21 Chwefror 2021, a oedd yn cynnwys cyhoeddi cofeb ar-lein a oedd yn cynnwys 392 o enwau, gyda
gwybodaeth am ble maent wedi'u claddu a sut i gael rhagor o wybodaeth. Mae rhan
ar wahân o'r gofeb yn cynnwys enwau'r 26 o bobl a fu farw yn ardal Castell-nedd
Port Talbot. Mae'r gofeb ar gael ar wefan y Gwasanaeth Archifau yn www.abertawe.gov.uk/article/60958/Cofior-Blits-Abertawe. Amlinellodd fod y Gwasanaeth, ar yr un dyddiad y llynedd, wedi cyhoeddi
ailargraffiad o waith Dr John Alban o 1994 o'r enw The Three Nights' Blitz. Ar 19
Chwefror, rhoddodd Dr Alban sgwrs ar-lein am gyrchoedd awyr Abertawe ar ran y
Gwasanaeth Archifau. Daeth 176 o bobl i'r digwyddiad byw a chafwyd llawer iawn
o adborth cadarnhaol. Gwnaed recordiad sain o'r sgwrs ac mae wedi'i lanlwytho i'r sianeli cyfryngau cymdeithasol, roedd hyn
wedi'i rannu dros 100 o weithiau a gwrandawyd arno dros 2,000 o weithiau. Cynhyrchwyd dwy ffilm hefyd gan y Gwasanaeth Archifau a chawsant eu postio
ar gyfryngau cymdeithasol i adrodd hanes y Blitz o
wahanol safbwyntiau. Mae'r cyntaf yn seiliedig ar adroddiad o ddyddiadur rhyfel
James R John, newyddiadurwr lleol ac aelod o'r Gwarchodlu Cartref, ac mae'r ail
yn defnyddio ffotograffau o'r casgliadau i ddangos effaith y Blitz ar y dref. Ceir fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r ddwy
ffilm. Mae'r cyntaf wedi'i wylio dros 2,600 o weithiau tra bod yr ail wedi'i
wylio dros 13,100 o weithiau. Gellir gweld y ddwy ffilm a sgwrs Dr Alban ar
wefan y Gwasanaeth Archifau yn www.abertawe.gov.uk/article/61449/Hanes-y-Blits-Tair-Noson-Abertawe. Cafodd y digwyddiadau coffa gyhoeddusrwydd eang, gan gynnwys ar ein
cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg. Cafodd ei gynnwys ar wefan BBC Cymru (https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-56082255) ac yn y South Wales Evening
Post. Amlinellodd hefyd
fod adnoddau addysgu ychwanegol sy'n ymwneud â'r Blitz
wedi'u hychwanegu at y ddarpariaeth ar-lein a'u bod ar gyfer disgyblion CA2 a
CA3 yn bennaf. Amlinellodd ymhellach y gwaith sy'n mynd
rhagddo ynghylch cysylltiad Cymru â'r Fasnach Gaethwasiaeth, sydd wedi datblygu'n brosiect Cymru gyfan
gyda chyfraniadau gan wasanaethau archifau ledled y wlad a'r Llyfrgell
Genedlaethol. Nododd fod y cynnig a'r syniad hefyd wedi
datblygu'n ddau fodiwl, y cyntaf yn edrych ar y fasnach gaethwasiaeth, a'r ail
yn edrych ar dwf cymunedau amrywiol ym mhorthladdoedd glo De Cymru yn oes
Fictoria. Amlinellodd ei gymorth mewn cynigion ar gyfer
dadorchuddio plac glas Cyngor Abertawe i'r ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth, Jessie Donaldson, 1799-1889, a gynlluniwyd i'w ddadorchuddio'n rhithwir ar 25 Mawrth. Mae'r diwrnod yn
arwyddocaol fel Diwrnod Cofio'r
Cenhedloedd Unedig ar gyfer dioddefwyr y fasnach gaethwasiaeth hanesyddol. Bydd
y digwyddiad yn cael ei ffilmio a bydd ar gael ar sianel YouTube Prifysgol
Cymru y Drindod Dewi Sant. Dywedodd y byddai'n rhannu dolen y recordiad ag
aelodau'r pwyllgor pan fydd ar gael. Hen adeilad British Home Stores Amlinellodd fod
cyfle wedi codi i ystyried 275-277 Stryd Rhydychen Abertawe, hen adeilad
British Home Stores, i'w
droi'n ystorfa archifau, ystafell chwilio a Chanolfan Hanes Teuluol yn y
dyfodol. Byddai hyn ochr yn ochr â defnyddiau eraill ar gyfer yr adeilad a
fyddai'n cynnwys Llyfrgell Ganolog newydd Abertawe a Hwb Cymunedol. Dywedodd fod
cyllid wedi'i roi er mwyn i dîm amlddisgyblaethol gynnal asesiad o
drawsnewidiad posib yr adeilad hwn. Prif ystyriaethau'r Archifau yw a oes gan
yr adeilad y potensial i fodloni Safon Brydeinig 16893:2018 ar gyfer storio
archifol ac a yw'r trawsnewidiad yn gwneud synnwyr yn economaidd o'i gymharu â
chost datrysiad amgen fel adeilad newydd. Mae Llywodraeth Cymru a'r Archifau
Gwladol yn darparu cyngor ac arweiniad drwy gydol y broses ac ar awgrym
Llywodraeth Cymru, mae'r gwasanaeth wedi
tanysgrifio i'r Gwasanaeth Cadwraeth Cenedlaethol er mwyn helpu i ddarparu
rhywfaint o'r cyngor arbenigol sydd ei angen ar anghenion cadwraeth y
casgliadau. Croesawodd yr
Aelodau'r potensial ar gyfer datblygu cyfleuster newydd yng nghanol y ddinas ar
gyfer y gwasanaeth. Staff Amlinellodd fod
Goruchwyliwr y Ganolfan Hanes Teulu, Lorna Crook, wedi gadael y gwasanaeth ar 5 Rhagfyr i ymgymryd â
chyflogaeth gyda'r GIG. Roedd hi'n gydweithiwr uchel ei pharch ac yn un
boblogaidd iawn gyda defnyddwyr hanes teuluol yn ein mannau gwasanaeth yn
Abertawe a Chastell-nedd. Mae'r swydd yn aros yn wag ar hyn o bryd. Defnydd o'r
gwasanaeth Nododd fod y
ffigurau sy'n ymwneud â defnyddio'r gwasanaeth yn adlewyrchu effaith y pandemig Sgyrsiau a
Chyfarfodydd Proffesiynol Adroddodd am y
cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter. Casgliadau'r
Archifau Adroddodd ar y
rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth yn ystod y chwarter, yn
enwedig y casgliad a gaffaelwyd gan y gwasanaeth gan
gasglwr yr oedd ganddo saith cyfarchiad goliwiedig a gyflwynwyd ar wahanol
adegau i Syr Henry Hussey Vivian
rhwng 1876 a 1893 gan amrywiol grwpiau a sefydliadau yn Abertawe, gan gynnwys
un yn cofnodi rhoi rhyddid anrhydeddus y dref iddo. Defnydd o'r
gwasanaeth Adroddodd am y
defnydd o'r gwasanaeth am y chwarter, gan nodi’r cefndir a'r rhesymeg y tu ôl
i'r ystadegau chwarterol. Nododd ei fod yn
disgwyl i'r ffigurau presenoldeb ar gyfer y chwarter nesaf fod yn sylweddol is
o ganlyniad i bandemig Coronafeirws.
|