Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden (01792) 636824 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

17.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd Archifydd y Sir ac Aelodau'r Pwyllgor Louise Fleet, Arglwydd Raglaw newydd Gorllewin Morgannwg a Chadeirydd y Cyd-bwyllgor Archifau i'w chyfarfod cyntaf.

 

18.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

19.

Cofnodion. pdf eicon PDF 312 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2020 yn gofnod cywir

20.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 349 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020.

 

COVID-19

 

Cyfeiriodd at yr effaith sylweddol y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gwasanaeth ers i'r cyfyngiadau symud gael eu gorfodi ar draws y wlad ym mis Mawrth.

 

Rhoddodd fanylion am y camau a gymerwyd gan staff y Ganolfan Ddinesig drwy gydol y cyfnod i sicrhau bod y casgliadau'n ddiogel. Nododd hefyd sut yr oedd swyddogion yn parhau i ymateb i ymholiadau drwy'r post/e-bost ac wedi ehangu, datblygu a gwella'r gwasanaethau ar-lein ac allbwn cyfryngau cymdeithasol.

 

Amlinellodd, ar ôl misoedd lawer o fod ar gau ac ymgymryd â'r asesiadau risg perthnasol, ymgynghoriadau ag undebau llafur ac addasiadau ffisegol angenrheidiol i'r ystafell chwilio, fod y gwasanaeth yn bwriadu ailagor ar 29 Medi mewn modd diwygiedig gyda chapasiti llawer llai, 'apwyntiad yn unig', ar gyfer ymwelwyr a'i fod wedi newid y cofnodion sydd ar gael yn sylweddol oherwydd bod y rheolau a'r rheoliadau ynghylch cadw pellter cymdeithasol ar waith.

 

Dangoswyd ffilm fer a gynhyrchwyd i ail-lansio darpariaeth yr Archifau ledled Cymru i'r Pwyllgor.

 

Byddai'r ffilm hon a'r cyhoeddusrwydd cysylltiedig ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol yn cael eu lansio'n fuan i hyrwyddo ailagor y gwasanaeth.

 

Mae ailagor yr Archifau yn Sefydliad y Mecanyddion yng Nghastell-nedd yn parhau'n anos oherwydd cynllun yr adeilad. Cynhelir trafodaeth lawn gyda Chymdeithas Hynafiaethwyr a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn y dyfodol.

 

Allgymorth y Gwasanaeth

 

Rhoddodd fanylion pellach ar y gwaith a wnaed gan Swyddogion yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud fel yr amlinellwyd yn yr eitem flaenorol a nododd yn benodol y ffilmiau yr oedd y gwasanaeth wedi'u creu a'u postio ar-lein. Roedd rhai o'r rhain yn gysylltiedig â dyddiadau pwysig a ddigwyddodd yn ystod y cyfyngiadau fel diwrnod VE ac wythnos ffoaduriaid. Roedd y rhain wedi bod yn boblogaidd iawn gyda'r cyhoedd.

 

Gellir gweld y fideos drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

https://www.facebook.com/pg/WestGlamorganArchives/videos/

 

Amlinellodd hefyd fod tiwtorialau hanes teuluol un i un hefyd wedi'u ailgychwyn drwy'r llwyfan 'Teams' ar-lein.

 

Amlinellwyd hefyd yr wybodaeth ar-lein sydd ar gael i blant ysgol mewn perthynas â Blitz Abertawe a 'Fictoriaid Cyfoethog a Thlawd'. Mae angen hyrwyddo a hysbysebu'r adnoddau hyn yn briodol i ysgolion yn y ddau awdurdod.

 

Creu Adnoddau Addysgu sy'n ymwneud â chysylltiad Cymru â'r Fasnach Caethwasiaeth.

 

Amlinellodd y trafodaethau a'r paratoadau parhaus ar gyfer datblygu adnoddau addysgu ar gyfer astudio cysylltiadau hanesyddol Cymru â masnach caethwasiaeth a'i rhan yn natblygiad yr Ymerodraeth Brydeinig. Gosododd hyn yng nghyd-destun digwyddiadau byd-eang sydd wedi digwydd dros y misoedd blaenorol ac amlinellodd yr adolygiad parhaus o enwau strydoedd/cerfluniau etc. sy'n digwydd yn Abertawe.

 

Amlinellodd fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu gweithgor i adolygu cwricwlwm hanes Cymru i ymgorffori mwy o ymwybyddiaeth o'n rhan hanesyddol ym masnach caethweision Prydain a rhan Cymru yn yr Ymerodraeth Brydeinig.  Nod y pecyn addysgu newydd yw cyd-fynd â'r adolygiad o'r ddarpariaeth hanes dros y blynyddoedd nesaf.

 

Amlinellodd rai ffeithiau hanesyddol diddorol ar lafar gan yr archifau yn yr adnoddau addysgu drafft sy'n dangos sut yr oedd pobl dduon yn byw yn ne Cymru mor gynnar â 1687 yng Nghaerdydd a 1801 yn Abertawe.

 

Adroddiad Blynyddol yr Archifydd Sirol

 

Amlinellodd fod yr adroddiad blynyddol wedi'i lunio a'i gyhoeddi ar-lein ym mis Mai. Roedd copïau wedi'u dosbarthu'n electronig i Aelodau'r Pwyllgor.

 

Gellir gweld yr adroddiad ar-lein yn: https://www.abertawe.gov.uk/article/8511/Adroddiad-Blynyddol-Archifydd-y-Sir

 

Defnydd o'r gwasanaeth

 

Amlinellodd fod cau'r cyfleusterau oherwydd y pandemig yn amlwg wedi lleihau ffigurau ymwelwyr ar y safle yn sylweddol ond bod gweithgarwch a gwerthiannau ar-lein wedi dal i fyny'n dda o ystyried yr amgylchiadau.

 

Achrediad yr Archifau a Fframwaith Polisi Diwygiedig

 

Adroddodd ar statws y gwasanaeth mewn perthynas â chanfyddiadau'r adolygiad canol tymor o achrediad yr Archif fis Tachwedd diwethaf ac yn dilyn trafodaethau yn y cyfarfod diwethaf ym mis Mawrth. Mae darpariaeth hirdymor cyfleuster archifau yn Abertawe yn parhau i fod yn bryder gwirioneddol, ond gall llunio cynllun dros dro ar gyfer adleoli'r archifau, a chytuno arno, fodloni'r Panel Achredu yn y cyfamser.

 

Adroddwyd bod adroddiad gan Gyngor Abertawe ar ddyfodol y Ganolfan Ddinesig eisoes wedi'i ohirio am rai misoedd oherwydd pandemig COVID.

 

Amlinellodd aelodau Cyngor Abertawe y gellir galw'r adroddiad perthnasol gerbron y Pwyllgor Craffu, yn enwedig i archwilio'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol o ran parhau i ddarparu Gwasanaeth Archifau cyhoeddus a lle storio addas ar gyfer casgliadau'r archif.

 

Amlinellodd Archifydd y Sir ei fod wedi parhau i drafod yr opsiynau posib yn ystod y cyfnod dan gyfyngiadau symud ar gyfer storio'r casgliadau dros dro mewn dau safle yn Archifau Morgannwg yng Nghaerdydd ac Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe.  Ni fyddai'r un o'r cyfleusterau hyn yn gallu storio casgliadau archif Gorllewin Morgannwg yn eu cyfanrwydd, ond pwysleisiodd Archifydd y Sir bwysigrwydd storio'r cofnodion yn ddiogel ac yn yr amodau amgylcheddol cywir. Nododd, er bod llai o gofnodion ar gael i'r cyhoedd am gyfnod o amser, er nad yn ddelfrydol, fod hyn yn llai pwysig na'u cadw'n ddiogel i'w defnyddio gan genedlaethau'r dyfodol.

 

Adroddodd na allai'r naill archif na'r llall gynnwys y cofnodion yn barhaol heb waith adeiladu cyfalaf sylweddol, y byddai angen i'r ddau awdurdod gyfrannu ato.  Yn achos Archifau Morgannwg, byddai hyn yn gofyn am adeiladu estyniad ar gyfer eu ystorfa yng Nghaerdydd. Ystyriwyd bod yr opsiwn hwn o fuddsoddiad cyfalaf y tu allan i ardaloedd y ddwy awdurdod lleol yn annerbyniol gan aelodau'r pwyllgor ac yn annhebygol iawn o gael ei gymeradwyo gan aelodau etholedig y naill awdurdod neu'r llall.

 

Amlinellodd fod adolygiad pellach i fod i gael ei ystyried ymhen deufis, a'r golled bosib i enw da'r gwasanaeth pe bai'r achrediad yn cael ei ddirymu a goblygiadau hyn ar allu'r gwasanaeth i wneud cais am arian allanol.  Nododd, oherwydd COVID a'r oedi a amlinellir uchod, y gellid gofyn am fwy o amser gan y Panel Achredu i drafod a datblygu datrysiad.

 

Trafododd aelodau'r Pwyllgor y materion, gan amlinellu a chadarnhau eu cefnogaeth i ddatblygu cyfleuster lleol newydd neu, yn y sefyllfa waethaf, ei adleoli dros dro fel yr amlinellwyd uchod gan Archifydd y Sir tra datblygir cyfleuster newydd.

 

Amlinellodd yr Archifydd Sirol ofyniad arall gan y Panel Achredu, sef bod y Panel yn gofyn am gyfuno nifer o bolisïau'r Gwasanaeth Archifau annibynnol hyd yma mewn un ddogfen gydlynol.  Roedd hwn ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo a mabwysiadu'r polisïau diwygiedig fel yr amlinellir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Mynediad at Gasgliadau Archifau

 

Amlinellodd yr Archifydd Sirol y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth yn ystod y chwarter ac adroddodd arnynt.

 

Cyfeiriodd yn benodol at gasgliad pwysig sy'n ymwneud ag Ystâd Ynyscedwyn yng Nghwm Tawe yr oedd y gwasanaeth wedi llwyddo i'w gaffael yn ystod y cyfnod cloi. Mae'r casgliad, y mae rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif, o bwysigrwydd hanesyddol lleol aruthrol ac mae'n taflu goleuni newydd ar hanes Cwm Tawe uchaf.