Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor C, Canolfan Ddinesig, Castell-Nedd

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

14.

Cofnodion. pdf eicon PDF 314 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir.

 

15.

2021/2020 Cyllideb Refeniw. pdf eicon PDF 46 KB

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Kim Collis adroddiad y Cyfarwyddwr Lleoedd, a oedd yn nodi manylion Cyllideb Refeniw'r Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2020/2021 a'r arian wrth gefn sydd gan y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd,  er gwybodaeth yn unig

 

Nododd ei fod yn seiliedig ar gyllideb dybiedig o ddyfarniad cyflog gwerth 2.75% ond fel arall roedd yn gyllideb "ddigyfnewid" o hyd.

 

Mae'r tabl yn yr adroddiad yn dangos sefyllfa amcangyfrifedig arian wrth gefn yr Archifau ar 31 Mawrth 2020.

 

Dywedodd nad yw swydd yr Hyfforddai Archifau yn cael ei lenwi ar hyn o bryd a manylodd ar y cynnydd yn oriau'r staff eraill er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth.

 

 

16.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 328 KB

Cofnodion:

 

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Chwefror 2020.

 

Ffïoedd a thaliadau

 

Cyfeiriodd at y tabl ffïoedd a thaliadau diwygiedig ar gyfer y gwasanaeth a fydd yn berthnasol o 1 Ebrill 2020.

 

Defnydd o'r gwasanaeth

 

Adroddodd am y defnydd o'r gwasanaeth am y chwarter, gan nodi’r cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i'r ystadegau chwarterol.

 

Nododd ei fod yn disgwyl i'r ffigurau presenoldeb ar gyfer y chwarter nesaf fod yn sylweddol is o ganlyniad i gychwyniad Coronafeirws.

 

Achrediad yr Archifau

 

Soniodd ymhellach am yr adroddiad a’r sgwrs a gafwyd yn y cyfarfod blaenorol a dywedodd mai un o'r argymhellion o'r adolygiad canol tymor oedd yr angen i ddiweddaru polisïau'r gwasanaeth. Gwnaed y rhan gyntaf o hwn eisoes ac atodwyd y fersiynau diweddaraf o'r polisïau annibynnol fel atodiad i'r adroddiad. 

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch y materion sy'n berthnasol i'r defnydd o Ganolfan Ddinesig Abertawe yn y dyfodol, a'r effaith posib ar y gwasanaeth wrth symud ymlaen. Amlinellwyd y posibilrwydd ar gyfer storio'r casgliadau dros dro. Roedd aelodau'n cefnogi'r syniad o storio cymaint â phosib o'r casgliad yn lleol a’i wneud yn hygyrch.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r polisïau diwygiedig, fel a amlinellwyd.

 

Cerdyn Archifau

 

Amlinellodd fod y cerdyn Archifau newydd wedi cael ei lansio’n raddol ar ddechrau mis Mawrth. Mae'r cerdyn newydd yn cynrychioli cam arwyddocaol i ddefnyddwyr yr archifau gan fod y tocyn yn rhoi mynediad i dros bedwar deg o wasanaethau'r archifau a'u casgliadau ledled y DU.

 

Sylwer: Y Cynghorydd H N James (Cadeirydd Dros Dro) fu’n llywyddu ar gyfer yr eitemau canlynol.

 

Allgymorth y Gwasanaeth

 

Esboniodd fod yr Arddangosfa Ffoaduriaid Iddewig wedi cael ei harddangos yn Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot i nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost.

 

Cafodd yr Arddangosfa Dathlu Abertawe ei harddangos yn Ysgol Pentrehafod hefyd ar yr un diwrnod.

 

Amlinellwyd, yn dilyn ailbrintio'r llyfr "Three Nights Blitz" yn llwyddiannus, mae Cronfa Cyhoeddi'r Archifau bellach yn wag.

 

Amlinellwyd y sesiynau amrywiol a ddarparwyd i'r ysgolion a myfyrwyr y prifysgol.

 

Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth

 

Adroddodd am y cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Logo'r Gwasanaeth Archifau

 

Dywedodd fod y gwasanaeth wedi adnewyddu ei logo yn ddiweddar er mwyn cyfleu a chynnwys y newid diweddar a wnaed gan CBS Castell-nedd Port Talbot.

 

Casgliadau'r Archifau

 

Adroddodd am y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.