Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig, Port Talbot

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 309 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2019 fel cofnod cywir.

 

7.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 177 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd rhwng mis Mehefin a mis Awst 2019.

 

Defnydd o'r gwasanaeth

 

Adroddodd am y defnydd o'r gwasanaeth dros y chwarter gan gyfeirio at yr ystadegau ar gyfer 2018/19 a manylodd ar y cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i'r ystadegau.

 

Mae'r swm enfawr o ddeunydd sydd bellach ar gael ar-lein hefyd wedi effeithio ar nifer yr ymwelwyr, er yr ymgysylltir yn fwy â'r gymuned oherwydd defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd at y ffordd yr oedd y gwasanaeth wedi cydweithio ag Ymchwiliad Gwaed Heintiedig Llywodraeth y DU, a oedd wedi ymweld sawl gwaith i weld archifau'r Awdurdod Iechyd.

 

Allgymorth y Gwasanaeth

 

Dywedodd yr Archifydd Sirol fod arddangosfa i ddathlu hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas wedi cael ei harddangos ym Mhafiliwn y Patti ac ym mharti stryd Heol San Helen, yn ogystal ag mewn lleoliadau eraill.

 

Roedd hefyd ar gael i'w harddangos o amgylch y ddinas yn ystod blwyddyn yr hanner canmlwyddiant, a gofynnodd i'r aelodau hyrwyddo a rhannu'r adnodd hwn yn eu cymunedau.

 

Cyfeiriodd at yr arddangosfa a baratowyd gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru ac a arddangoswyd ym mis Awst.

 

Soniodd am yr ysgolion a oedd wedi derbyn sesiynau addysg gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter, a'r sefydliadau hynny yr oedd y gwasanaeth wedi cyflwyno sgyrsiau iddynt.

 

Amlinellwyd a thrafodwyd y ffactorau a'r dylanwadau sy'n ymwneud â nifer yr ysgolion y mae modd ymweld â nhw. Dywedodd yr Archifydd Sirol y byddai'n parhau i hyrwyddo'r gwasanaeth drwy ddefnyddio'r holl ffyrdd addas o fewn y ddau awdurdod, a gofynnodd unwaith eto i'r aelodau a oedd yn rhan o gyrff llywodraethu ysgolion i hyrwyddo argaeledd y gwasanaeth yn eu hysgolion.

 

Soniodd y byddai cyhoeddiad newydd y Gwasanaeth Archifau, ‘A new, even better Abertawe: the rebuilding of Swansea, 1941-1961', yn cael ei lansio yn hwyrach yn y diwrnod yn Amgueddfa Abertawe. Dywedodd fod croeso i bob aelod o'r Pwyllgor ddod i'r digwyddiad lansio.

 

Cyfeiriodd at gais i ddefnyddio gweddill yr arian wrth gefn ar gyfer cyhoeddiadau i ailargraffu ‘The Three Nights Blitz’ gan Dr John Alban. Soniodd mai dyma oedd y llyfr yr oedd mwyaf o alw amdano gan y cyhoedd, sydd allan o brint ac a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Archifau a'i ragflaenyddion dros y blynyddoedd. Roedd swm cymedrol o arian wrth gefn ar gyfer cyhoeddiadau ar gael o hyd yn dilyn cyhoeddi  Rebuilding Swansea 1941-1961’, ond byddai'r gronfa wedyn yn cael ei chau.

 

Penderfynwyd defnyddio'r arian wrth gefn ar gyfer cyhoeddiadau i ailargraffu nifer cyfyngedig o 'The Three Nights Blitz'.

 

Staff

 

Soniodd yr Archifydd Sirol fod y ddau awdurdod yn ymgynghori ynghylch dyfodol cronfa wrth gefn yr archifau. Rhoddir diweddariad ac adroddiad pellach i'r Pwyllgor ym mis Rhagfyr.

 

Manylodd ar gefndir a sail y tair cronfa wrth gefn wahanol.

 

Soniodd nad oedd swydd yr Hyfforddai Archifau wedi'i hysbysebu eleni.

 

Bydd dyfodol y swydd, yn ogystal â'r materion a thrafodaethau ynghylch nifer y staff yn y gwasanaeth, yn parhau drwy'r holl broses gosod cyllideb ar gyfer 2020/21.

 

Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth

 

Adroddodd am y cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Casgliadau Archifau

 

Adroddodd am y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.