Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
ethol is-gadeiryddion ar gyfer blwyddyn y cynghorau 2019-2020. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorwyr R V Smith a P A Rees
yn Is-gadeiryddion y pwyllgor ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2019-2020. Y Cynghorydd R V Smith (is-gadeirydd) oedd yn llywyddu |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod
Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2019 fel cofnod
cywir, yn amodol ar ychwanegu'r Cynghorydd W F Griffiths at y rhestr o
ymddiheuriadau. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 125 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr
Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y
Cyd rhwng mis Mawrth a mis Mai 2019. Defnydd o'r
gwasanaeth Adroddodd am y
defnydd o'r gwasanaeth dros y chwarter gan gyfeirio at yr ystadegau ar gyfer
2017/18 a 2018/19 a manylodd ar y cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i'r ystadegau. Roedd yn
gobeithio bod y ffigurau wedi sefydlogi erbyn hyn ar ôl cyfnod o newid yn sgîl lleihad mewn gwasanaethau yn Abertawe a Chastell-nedd
dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r swm enfawr
o ddeunydd sydd bellach ar gael ar-lein hefyd wedi effeithio ar nifer yr
ymwelwyr, er yr ymgysylltir yn fwy â'r gymuned oherwydd defnydd o'r cyfryngau
cymdeithasol. Allgymorth y
Gwasanaeth Adroddodd
Archifydd y Sir fod yr arddangosfa i nodi hanner canmlwyddiant Abertawe yn
derbyn statws dinas wedi'i chwblhau ac eisoes yn cael ei harddangos ger
ystafell chwilio'r Archifdy yn y Ganolfan Ddinesig. Bydd yn cael ei harddangos
yn y Sioe Awyr ym mis Gorffennaf ac roedd ar gael i'w harddangos mewn lleoliadau
ar draws y ddinas. Crybwyllodd y
cynnydd a wnaed ar y llyfr “A new, even better Abertawe: the rebuilding of Swansea 1941-1961”. Ar hyn o bryd mae'n cael
ei brawf ddarllen a'r gobaith yw y caiff ei lansio mewn digwyddiad yn yr
hydref. Manylodd ar y sesiynau
a ddarparwyd i ysgolion a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe yn ystod y chwarter. Cafwyd trafodaeth
ynghylch hyrwyddo'r gwasanaeth i ysgolion, a oedd yn cynnwys sesiynau addysg ar
amrywiaeth o bynciau'n ymwneud â'r cwricwlwm, rhoi benthyg arddangosfeydd
symudol a darparu CDs ar gyfer astudiaeth leol. Lle'r
oedd aelodau'n gweithio gyda'u hysgolion lleol, cawsant eu hannog i helpu i
hyrwyddo'r gwasanaeth, a oedd yn cael ei danddefnyddio. Dangosydd Archifydd y
Sir fod yr ysgolion a oedd yn defnyddio'r gwasanaeth yn gyson yn dychwelyd am
fwy o sesiynau, ac wrth edrych ar yr adborth a dderbyniwyd roeddent yn fodlon
iawn arnynt. Adroddodd fod
adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Archifau ar gyfer 2018/19 wedi cael ei
gyhoeddi ar-lein. Cyfarfodydd
Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth Adroddodd am y
cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter. Casgliadau
Archifau Adroddodd am y
rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter. |