Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor C, Canolfan Ddinesig, Castell-Nedd.

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Croeso.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Angharad Aubrey a Rhidian Mizen o CBS Castell-nedd Port Talbot i'w cyfarfod cyntaf y pwyllgor.

 

13.

Y Cynghorydd Des Davies.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y cadeirydd at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Des Davies a oedd yn gyn-aelod hirsefydlog o'r pwyllgor.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

14.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

15.

Cofnodion. pdf eicon PDF 149 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2018 yn gofnod cywir.

 

16.

2019/20 Cyllideb Refeniw. pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Kim Collis adroddiad y Cyfarwyddwr Lleoedd a oedd yn nodi manylion Cyllideb Refeniw'r Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2019/2020 a'r arian wrth gefn sydd gan y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd, a gyflwynwyd er gwybodaeth yn unig.

 

Nododd ei fod yn seiliedig ar gyllideb dybiedig o ddyfarniad cyflog gwerth 2% ond fel arall roedd yn gyllideb "ddigyfnewid" o hyd.

 

Mae'r tabl yn yr adroddiad yn dangos sefyllfa amcangyfrifedig arian wrth gefn yr Archifau ar 31 Mawrth 2019.

 

Amlinellodd y byddai'r swydd Hyfforddai Archifau'n parhau i gael ei hariannu gan y Gronfa Hyfforddiant wrth Gefn. Cyfeiriodd at bwysigrwydd swydd yr hyfforddai yn y strwythur staffio.

 

Penderfynwyd  

1)  y dylid nodi'r adroddiad.

 

2)  Cytuno i barhau i ddefnyddio'r Gronfa Hyfforddiant wrth Gefn i ariannu'r swydd hyfforddai yn 2019/20.

 

17.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 180 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Chwefror 2019.

 

Defnydd o'r gwasanaeth

 

Nododd y defnydd o'r gwasanaeth am y chwarter a nodi'r cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i'r ystadegau chwarterol.

 

Nododd y byddai'r ffigurau blynyddol o ran defnydd ar gael yn y cyfarfod nesaf a byddai'n galluogi'r pwyllgor i gael darlun gwell o'r defnydd o'i gymharu â gwasanaethau archifau eraill ar draws y DU. Amlinellodd berfformiad y gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf o'i gymharu â pherfformiad awdurdodau lleol eraill.

 

Cyfeiriodd at y cynnydd sylweddol o ran defnydd ymchwilwyr o'r catalog cydgasgledig sy'n cael ei adnabod fel Hwb yr Archifau.  Tybiwyd mai defnydd o'r adnodd hwn yw'r rheswm dros y gostyngiad yn y defnydd o gatalog ar-lein y gwasanaeth.  Byddai'r ffigurau'n cael eu darparu yn y cyfarfod nesaf.

 

Trafododd y pwyllgor bwysigrwydd y defnydd o gyfryngau cymdeithasol wrth fynd ymlaen i hyrwyddo'r gwasanaeth yn well.

 

 

Allgymorth y Gwasanaeth

 

Manylodd ar gyfranogaeth y gwasanaeth wrth ddatblygu arddangosfa i goffáu 50 mlynedd ers i Abertawe ennill statws dinas. Nododd fod y gwasanaeth wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am grant gan Lywodraeth Cymru i greu arddangosfa ar gyfer plant 11-16 oed i'w benthyca i ysgolion.

 

Bydd yr arddangosfa symudol newydd yn barod i'w harddangos yn Sioe Awyr Cymru ar ddechrau mis Gorffennaf. Bydd fersiwn sefydlog o'r arddangosfa'n cael ei harddangos yn Amgueddfa Abertawe'n ddiweddarach eleni ynghyd ag arteffactau perthnasol.

 

Cyfeiriodd at ddigwyddiad yn Ysgol Heol Teras lle'r oedd arddangosfa'r gwasanaeth am y Bleidiais i Fenywod wedi ei harddangos a ddaeth i ben drwy ddadorchuddio Plac Glas ar gyfer Clara Neal, cyn-bennaeth yr ysgol ac ymgyrchydd dros y Bleidlais i Fenywod/hawliau menywod.

 

Nododd fod copi o'r arddangosfa am ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru a oedd wedi'i fenthyca i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac amgueddfeydd eraill ar draws Cymru wedi'i ddychwelyd i'r archifau fel y gellid ei fenthyca i ysgolion a grwpiau cymunedol yn yr ardal.

 

Manylodd ar lwyddiant yr arddangosfeydd a arddangoswyd yn Ysgol Pentrehafod ac amlinellodd hefyd yr arddangosfeydd amrywiol a fenthycwyd i sefydliadau a chyrff amrywiol eraill. 

 

Amlinellodd y byddai'r arddangosfeydd a gynhaliwyd gan y gwasanaeth yn parhau i fod ar gael ar gyfer ysgolion/colegau ar draws y ddau awdurdod lleol a gofynnodd i aelodau'r pwyllgor hyrwyddo'r rhain lle y bo'n bosib.

 

Cyhoeddiadau

 

Cyfeiriodd at lansiad llwyddiannus cyhoeddiad Jeff Childs "The Parish of Llangyfelach: Landed Estates, Farms and Families" a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr.

 

Gwasanaeth Addysg/Sgyrsiau â Grwpiau

 

Manylodd ar yr ysgolion a'r grwpiau amrywiol a oedd wedi ymweld â'r archifau neu a oedd wedi bod yn bresennol yn sgyrsiau a sesiynau addysg y gwasanaeth ers y cyfarfod diwethaf.

 

Nododd, am fod nifer o aelodau newydd yn y pwyllgor, y gellid trefnu ymweliad i'r ystafell chwilio a'r ystafell ddiogel yn dilyn y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin a'r gobaith yw y gellid ei gynnal yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe.

 

Ffïoedd a thaliadau

 

Amlinellodd y ffïoedd arfaethedig ar gyfer 2019-20 a chyfeiriodd at y ffïoedd amrywiol a oedd yn cael eu cynyddu.

 

Penderfynwyd nodi'r tabl o ffïoedd a thaliadau ar gyfer 2019/20.

 

Adnewyddu Achrediad Archifau

 

Manylodd ar y broses ar gyfer adfywio Cynllun Achredu Archifau'r DU y mae'r gwasanaeth wedi'i chyflawni ar gyfer pwynt mynediad Abertawe yn 2016.

 

Nododd y bydd y gwasanaeth yn derbyn adolygiad canolradd dros y misoedd nesaf fel rhan o'r broses achredu a chyfeiriodd at y camau gweithredu amrywiol a fyddai'n rhaid eu cyflawni i gyflwyno'r adolygiad yn llwyddiannus.

 

Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth

 

Adroddodd am y cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Casgliadau Archifau

 

Adroddodd am y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.