Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig, Port Talbot.
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2018 fel cofnod cywir, gan
ddibynnu ar ddileu enw'r Cynghorydd W F Griffiths oddi ar restr yr aelodau a
oedd yn bresennol a'i ychwanegu at restr ymddiheuriadau. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 117 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr
Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y
Cyd rhwng mis Mehefin a mis Awst 2018. Defnydd o'r
gwasanaeth Adroddodd am y
defnydd o'r gwasanaeth ar gyfer y chwarter.
Cyfeiriodd at gymharu ystadegau ar gyfer 2017 a 2018 a manylodd ar yr
wybodaeth gefndir a'r rhesymeg y tu ôl iddynt. Cyfeiriodd at
gynnydd mewn nifer y bobl sy'n edrych ar y catalog ar-lein drwy Hwb yr Archifau
a'r effaith ganlyniadol ar nifer yr ymweliadau â thudalennau'r Archifau. Allgymorth y
Gwasanaeth Cyfeiriodd at y gwaith cydweithredol gydag Amgueddfa Abertawe, Canolfan
Dylan Thomas, Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe ac Archif Menywod
Cymru i greu tair fersiwn o arddangosfa sy'n dathlu canmlwyddiant ers rhoi'r
bleidlais i fenywod ym 1918. Dywedodd fod yr
arddangosfa deithiol fwy, fwy academaidd yn cael ei harddangos ar hyn o bryd
yng nghyntedd Canolfan Ddinesig Abertawe. Yna, bydd hi'n cael ei harddangos yng
nghynhadledd Archif Menywod Cymru ym mis Hydref ac yn Creu Taliesin ar gampws
Singleton Prifysgol Abertawe. Bydd yr
arddangosfa deithiol lai'n cael ei harddangos yn y lleoliadau canlynol ac wedi
cael ei harddangos ynddynt o'r blaen: Lleoliadau yn Abertawe: Theatr Volcano,
YMCA, Ysgol Gynradd Heol Teras a'r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd. Bydd
arddangosfa sefydlog yn cael ei gosod o ganol mis Medi a bydd hi'n cael ei
harddangos tan ddiwedd y flwyddyn yn Amgueddfa Abertawe. Dywedodd y
byddai'r gwasanaeth yn croesawu rhagor o geisiadau ar gyfer y ddwy arddangosfa
deithiol, yn enwedig gan ysgolion a lleoliadau yng Nghastell-nedd Port Talbot. Dywedodd fod gwaith
yn mynd rhagddo i greu adnodd ar-lein ar wefan y gwasanaeth i nodi canmlwyddiant ers diwedd y
Rhyfel Byd Cyntaf. Y bwriad yw y bydd yr adnodd hwn ar waith ym mis Tachwedd. Cyhoeddiadau Dywedodd y cyhoeddir y cyhoeddiad 'The
Parish of Llangyfelach: Landed Estates, Farms and Families’ gan Jeff Childs, a'i
lansio yn ystod yr hydref.
Bydd yn gyhoeddiad ar y cyd rhwng yr awdur a'r Gwasanaeth Archifau gyda'r stoc yn cael ei rhannu'n gyfartal
rhwng y ddau barti. Dywedodd y byddai un cyhoeddiad ychwanegol
cyn i raglen cyhoeddiadau'r gwasanaeth ddod i ben, sef cyfrol sy'n disgrifio'r
adeiladu a ddigwyddodd yn Abertawe ar ôl y rhyfel. Caiff ei gyhoeddi ym 2019. Cyfeiriodd at y posibilrwydd yn y dyfodol
y byddai'r gwasanaeth yn dechrau cyhoeddi e-Lyfrau fel dewis arall i fersiynau
copi caled. Gwasanaeth Addysg/Sgyrsiau â Grwpiau Cyfeiriodd at sesiynau addysg a gynhaliwyd
yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed ac yn Ysgol Gynradd San Helen a sgwrs a roddwyd
i Gymdeithas Hanes Teulu Ystradgynlais. Cyfarfodydd Proffesiynol
a Gweithio Mewn Partneriaeth Adroddodd am y
cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter. Staff Dywedodd y
penodwyd John Moffat, sydd wedi graddio'n ddiweddar o Brifysgol Glasgow gydag MA
mewn hanes, yn Hyfforddai Archifau ar gyfer 2018/19. Casgliadau
Archifau Adroddodd am y
rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter. |