Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Mike Durke a Mr Craig Griffiths (pennaeth newydd y Gwasanaethau Cyfreithiol - CNPT) i'w cyfarfod cyntaf gyda'r pwyllgor.

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

3.

Ethol Is-gadeiryddion ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018/2019

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorwyr R V Smith a P A Rees yn Is-gadeiryddion y pwyllgor ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019.

 

 

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 105 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo Cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2018 fel cofnod cywir, yn amodol ar enw'r Cynghorydd A N Woolcock, sy'n ymddangos ddwywaith, yn cael ei ddileu oddi ar y rhestr o aelodau sy'n bresennol.

 

5.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 225 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd rhwng mis Mawrth a mis Mai 2018.

 

Strategaeth Cyfryngau Cymdeithasol

 

Adroddodd ymhellach ar sgwrs yn y cyfarfod blaenorol ac amlinellodd strategaeth cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y gwasanaeth.

 

Cyfeiriodd at yr egwyddorion allweddol sy'n gefndir i'r strategaeth gan dargedu defnyddwyr newydd a chynyddu proffil y gwasanaeth.

 

Trafodwyd potensial y gwasanaeth i ddefnyddio Instagram a fformatau eraill ochr yn ochr â Twitter a Facebook fel offeryn defnyddiol ar gyfer y gwasanaeth.

 

Defnydd o'r gwasanaeth

 

Adroddodd am ddefnydd o'r gwasanaeth dros y chwarter gan gyfeirio at yr ystadegau ar gyfer 2016/17 a 2017/18 a manylodd ar y cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i'r ystadegau.

 

Allgymorth y Gwasanaeth

 

Cyfeiriodd at gyhoeddi adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Archifau ar-lein ar gyfer 2017/18.

 

Adroddodd am y gwaith parhaus wrth ddatblygu arddangosfa a ffilm i ddathlu canmlwyddiant ers sefydlu'r bleidlais i ferched. Gellir trefnu i weld yr arddangosfa mewn lleoliadau ar draws y ddau awdurdod maes o law.

 

Gwahoddodd aelodau o'r ddau awdurdod i amlygu a chyhoeddi argaeledd hyn ac arddangosfeydd eraill a gynhelir gan y gwasanaeth ar gyfer ysgolion, llyfrgelloedd, canolfanau cymunedol etc.

 

Amlinellwyd yr ymweliadau ysgol amrywiol a'r sgyrsiau â grwpiau allanol hefyd.

 

Trafodwyd y posibilrwydd o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo argaeledd ymweliadau/arddangosfeydd ysgolion.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Peter Rees y byddai'n codi'r mater o gyhoeddusrwydd ac argaeledd ymweliadau ysgol â'r swyddogion perthnasol yn yr awdurdod.

 

Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth

 

Adroddodd am y cyfarfodydd amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Manylodd ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â datblygu tocynnau i ddarllenwyr yr archifau ar draws y DU.

 

Casgliadau Archifau

 

Adroddodd am y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.