Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 15 Medi 2017 fel cofnod cywir. |
|
Materion yn codi Cofnodion: Adroddodd yr
Archifydd Sirol ac Andrew Dulley ymhellach ar yr ymholiad a godwyd yn y cyfarfod
diwethaf a rhoddwyd y diweddaraf i'r pwyllgor am yr ymchwil gychwynnol yr
ymgymerwyd â hi ynghylch y posibilrwydd o sefydlu gwefan Gwasanaeth Archifau ar
wahân. Manylwyd ar yr
opsiynau posib a'r costau sylfaenol ar gyfer sefydlu gwefan arbennig neu ardal
ar wahân lle gellid storio dogfennau mwy a chael mynediad iddynt drwy dudalen
bresennol y Gwasanaeth Archifau ar wefan DASA. Trafododd y
pwyllgor rinweddau'r ddau opsiwn wrth fynd ymlaen, goblygiadau cyllidebol,
problemau technegol, ffrydiau incwm posib a gofynnwyd am adroddiad ysgrifenedig
ar gyfer y cyfarfod nesaf. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 250 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr
Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y
Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2017. Defnydd o'r
gwasanaeth Adroddodd am
ddefnydd o'r gwasanaeth am y chwarter gan fanylu ar gefndir yr ystadegau
chwarterol. Manylodd ar y
ffigurau ar gyfer nifer yr ymweliadau â gwe-dudalennau'r Gwasanaeth Archifau a
nifer yr ymweliadau â chynnwys y Gwasanaeth Archifau ar wefan Ancestry. Arddangosfeydd
a digwyddiadau Adroddodd fod
arddangosfa 'Our Abertawe: Dathlu Abertawe Gyda'n
Gilydd' wedi cael ei harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym mis
Tachwedd. Bydd yr arddangosfa hefyd yn rhan o raglen amlddiwylliannol ehangach
yn Amgueddfa Abertawe'r flwyddyn nesaf. Cyfeiriodd at y
gwaith paratoi sy'n cael ei wneud o ran prosiect i ddathlu 100 mlynedd ers y
bleidlais i fenywod, a manylodd ar y cysylltiadau a ddatblygwyd ag Archifau
Menywod Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Menywod yn y prosiect hwn. Nododd ei fod, mewn cyfnod o bwysau
cyllidebol, yn gwerthfawrogi gwaith partneriaeth y gwasanaeth a byddai'n parhau
i weithio gyda grwpiau gwirfoddol adrannau eraill y cyngor a chydlynwyr Cymunedau'n
Gyntaf y ddau awdurdod. Amlinellodd y
digwyddiadau a'r ffeiriau amrywiol yr oedd y gwasanaeth yn bresennol ynddynt yn
ystod y cyfnod. Cyfeiriodd y
Cadeirydd at dri digwyddiad a fydd yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf y
gallai'r gwasanaeth fod yn ymwneud â hwy o bosib, gan gynnwys canmlwyddiant
diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a sefydlu Urdd San Ioan a'r Awyrlu Brenhinol. Amlinellodd yr
Archifydd Sirol y sgyrsiau amrywiol a roddwyd mewn ysgolion yn ystod y cyfnod,
a defnydd y gwasanaeth o gyfryngau cymdeithasol ar gyfer mentrau megis Wythnos
Genedlaethol Darllen Mapiau ac ymgyrch ar draws y DU 'Archwiliwch eich Archif'.
Cyfeiriodd hefyd
at hysbyseb y gwasanaeth yn ddiweddar ar Facebook ac amlinellodd ei lwyddiant
cymharol. Polisi
Cadwraeth Ddigidol Cyfeiriodd at y polisi
drafft y mae pob awdurdod cyhoeddus ar draws Cymru'n ystyried ei fabwysiadu er
mwyn sicrhau ymagwedd gydlynol ar draws Cymru yn y maes cymhleth hwn sy'n
ehangu, a chyfeiriodd at y prif ddatganiad o genhadaeth ym mharagraff 4.4 y
polisi. Nododd ei fod yn
debygol y bydd rhaid i bob awdurdod ar draws Cymru fabwysiadu'r polisi yn y
dyfodol, ac nid y gwasanaethau archifau'n unig, yn enwedig yn dilyn y newid o
gofnodion papur i rai 'digidol anedig'. Dyma gofnodion nad ydynt fyth yn bodoli
ar ffurf gopi caled. Penderfynwyd cymeradwyo a mabwysiadau'r polisi. Cyfarfodydd
Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth Adroddodd ar y
cyfarfodydd proffesiynol amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y
chwarter. Hyfforddiant Amlinellodd y
cyrsiau hyfforddi amrywiol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y
chwarter. Casgliadau
Archifau Adroddodd am y
rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter. |