Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1/2, Canolfan Ddinesig, Port Talbot

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Cydymdeimlo - Y Cynghorydd Janice Dudley

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd â thristwch mawr at farwolaeth ddiweddar ac annisgwyl y Cynghorydd Janice Dudley, Maer presennol Castell-nedd Port Talbot ac aelod o Bwyllgor Archifau ar y Cyd Gorllewin Morgannwg am flynyddoedd lawer.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

 

 

6.

Ethol is-gadeiryddion ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017/2018.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd P A Rees yn Is-gadeirydd y pwyllgor ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017-2018.

 

Bu'r Cynghorydd P A Rees (Is-gadeirydd) yn llywyddu.

 

 

7.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

8.

Cofnodion. pdf eicon PDF 63 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2017 yn gofnod cywir.

 

9.

Materion yn codi

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaethau yn y cyfarfod diwethaf ynghylch defnydd o hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol, adroddodd yr Archifydd Sirol y bydd y gwasanaeth yn treialu hysbysebion Facebook yn fuan er mwyn cyd-fynd â gwerthiant cardiau Nadolig y gwasanaeth. 

 

10.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Awst 2017.

 

Defnydd o'r gwasanaeth

 

Nododd y defnydd o'r gwasanaeth am y chwarter gan fanylu ar y rhesymeg y tu ôl i'r ystadegau chwarterol.

 

Cyfeiriodd at y patrwm newidiol o ran defnydd o'r gwasanaeth, yn enwedig y nifer dirywiol o ymwelwyr â'r ystafelloedd ymchwilio sydd o ganlyniad, yn rhannol, i swm yr wybodaeth sydd bellach ar gael ar-lein drwy Findmypast ac Ancestry.

 

Byddai ffigurau cyfredol ar gyfer nifer yr ymweliadau â gwefan a chatalog ar-lein y gwasanaeth ar gael yn y cyfarfod nesaf.

 

Bu'r aelodau'n trafod y posibilrwydd o'r gwasanaeth yn datblygu ei wefan annibynnol ei hun, gyda dolenni o wefannau'r ddau awdurdod, Facebook etc. Byddai hyn yn galluogi cyhoeddi mwy o ddelweddau digidol ar wefan yr archifau yn hytrach na rhai darparwyr masnachol.

 

Byddai'n ymchwilio i'r gost ac ymarferoldeb cynnig o'r fath ac yn adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf.

 

Allgymorth y Gwasanaeth

 

Adroddodd Archifydd y Sir ar ddwy arddangosfa - "Our Abertawe: Dathlu Abertawe gyda'n Gilydd" a "Gweledigaethau o Ddur" - sy'n cael eu harddangos ar hyn o bryd yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe.

 

Amlinellodd y sgyrsiau a roddwyd i grwpiau amrywiol ac ymweliadau ysgol yn ystod y chwarter.

 

 

Bwrdd Prosiect y Ganolfan Hanes Ranbarthol

 

Adroddodd na chafwyd unrhyw gyfarfodydd pellach gyda'r bwrdd ers mis Mawrth a bod y gwasanaeth mewn cysylltiad â chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe i sicrhau y diwellir anghenion yr archifau yn y dyfodol pan fydd hi'n bryd gwagio'r Ganolfan Ddinesig. Ni fydd hyn yn atal y posibilrwydd neu'r opsiwn am ganolfan ranbarthol a rennir os mai dyma fyddai'r dewis a ffefrir yn y dyfodol, ar yr amod y byddai'n amcan cytunedig yn yr awdurdodau partner.

 

Gwnaeth aelodau gais eu bod yn cael mwy o wybodaeth am yr hyn y byddai ei angen ar unrhyw gyfleuster archifau yn y dyfodol o ran maint, storfeydd, mynediad etc er mwyn iddynt allu rhoi cefnogaeth wleidyddol yn eu hawdurdodau i anghenion a darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol. Cytunodd yr Archifydd Sirol i anfon yr wybodaeth hon ymlaen at aelodau.

 

Staff

 

Adroddodd fod Aoife Cremin, sydd wedi graddio o Brifysgol Abertawe, wedi cael ei phenodi'n Weithiwr dan Hyfforddiant yr Archifau ar gyfer 2017/18.

 

Cyfeiriodd at gyfarfod diweddar y bu ynddo ynghylch cais HLF am gyllid i ariannu cyfres o gyfleoedd hyfforddiant mewn lleoliadau treftadaeth ddiwylliannol ar gyfer pobl ifanc sy'n NEET a allai arwain at achrediad NVQ.

 

Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn Partneriaeth

 

Adroddodd ar y cyfarfodydd proffesiynol amrywiol y bu'r staff yn rhan ohonynt yn ystod y chwarter.

 

Adroddodd hefyd ar ei gyflwyniad yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas Archifau a Chofnodion ym mis Awst ynghylch datblygiad Tocyn Darllenydd Archif cenedlaethol.

 

Casgliadau Archifau

 

Adroddodd ar y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.