Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol is-gadeiryddion ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017/2018.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid ethol y Cynghorydd R V Smith yn Is-Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017-2018. Gohiriwyd ethol Is-gadeirydd Castell-nedd Port Talbot nes y cyfarfod canlynol.

 

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol.

 

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 65 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2017 fel cofnod cywir, yn amodol ar ychwanegu Tracey McNulty at y rhestr o ymddiheuriadau.

 

4.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Kim Collins, yr Archifydd Sirol, adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Mai 2017.

 

Defnydd o'r Gwasanaeth

 

Adroddodd ar ddefnydd o'r gwasanaeth am y chwarter a nodi'r cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i'r ystadegau chwarterol.

 

Adroddodd fod casgliadau'r Gwasanaeth Archifau wedi mynd yn fyw ar wefan Ancestry yn ystod mis Mawrth a nododd sawl gwaith mae pobl wedi ymweld â’r dudalen yn ystod yr wythnosau cyntaf a'r incwm tebygol a ddisgwylir o'r cytundeb partneriaeth.

 

O ran y dirywiad parhaus yn nifer yr ymweliadau corfforol â'r ystafelloedd chwilio, esboniodd yr achosion megis lleihad yn yr oriau agor a mwy o wybodaeth am hanes teuluoedd ar gael ar-lein. Trafodwyd yr ymdrechion amrywiol i gynnwys cynulleidfa ehangach trwy ysgolion a gwaith allgymorth. Amlinellwyd y ffaith bod y gwasanaeth yn parhau i fod y prysuraf yng Nghymru.

 

Allgymorth y Gwasanaeth

 

Adroddodd ar lwyddiant yr arddangosfa  "Our Abertawe: Dathlu Abertawe gyda'n Gilydd" a oedd i’w gweld yn y digwyddiad yng nghanol y ddinas ym mis Mawrth. Wedi hynny, benthycwyd yr arddangosfa i Sefydliad Josef Herman i'w harddangos yn Ystradgynlais. Amlinellodd y bydd yr arddangosfa'n mynd i'r Ganolfan Ddinesig ac i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau cyn bo hir ac mae ar gael i sefydliadau/grwpiau cymunedol yng ngorllewin Morgannwg.

 

Cyfeiriodd at yr arddangosfa "Visions of Steel" a ddatblygwyd ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a grëwyd gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Sandfields Port Talbot.  Bu'r arddangosfa yn Llyfrgell Port Talbot, a symudodd i Academi TATA Steel.  Cynhyrchwyd llyfr am ddim hefyd gan Brifysgol Abertawe ac fe'i cyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Archifau fel rhan o'r prosiect. Bydd copi'n cael ei ddosbarthu i bob Aelod o’r Pwyllgor yn y cyfarfod canlynol.

 

Cyfeiriodd hefyd at y prosiect "Archwilio Coetir Hynafol Gŵyr" a oedd wedi gorffen ym mis Mawrth. Roedd digwyddiad yn Llandeilo Ferwallt a oedd yn cynnwys gwirfoddolwyr a disgyblion o Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt, i lansio taflen i gerddwyr a phecyn i athrawon.

 

Sgyrsiau/Gwasanaeth Addysg

 

Amlinellodd y sgyrsiau a roddodd i grwpiau a sesiynau ysgol a gynhaliwyd.

 

 

 

 

Partneriaeth Gorllewin Cymru

 

Adroddodd fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu bwrw ymlaen â datblygu ei gyfleuster archifau ei hun fel estyniad i Lyfrgell Caerfyrddin, ac wedi gadael y bartneriaeth i bob pwrpas.

 

Adroddodd hefyd fod Prifysgol Abertawe wedi sefydlu Bwrdd Prosiect Canolfan Hanes Rhanbarthol i symud y prosiect ymlaen, a gynhaliodd ei gyfarfod cyntaf ym mis Mawrth.

 

Nododd y Cadeirydd, er bod amserlenni o ran gwerthu’r Ganolfan Ddinesig wedi llithro, fod rhaid cyrraedd penderfyniad cyn bo hir o ran a yw cyfleuster ar y cyd rhwng y ddau awdurdod a'r Brifysgol yn uchelgais cyraeddadwy, neu a oes rhaid i'r awdurdodau fwrw ymlaen â'r prosiect yn unigol. Er nad oes cynlluniau cadarn ar gyfer y cyfleuster ar y cyd ar hyn o bryd, adroddodd Tracey McNulty fod trafodaethau'r swyddogion yn parhau yn y cefndir er mwyn cynllunio a sicrhau y byddai'r Gwasanaeth Archifau'n cael adeilad a darpariaeth addas os byddai angen symud.

 

Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau wrth fynd ymlaen ynglŷn â darpariaeth, lleoliad ac ariannu cyfleuster newydd yn y dyfodol.

 

Darperir diweddariad ychwanegol mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cyfarfodydd Proffesiynol a Gwaith Partneriaethau

 

Amlinellodd y cyfarfodydd yr aeth staff iddynt yn ystod y chwarter.

 

Casgliadau’r Archifau

 

Adroddodd ar y rhestr o archifau a dderbyniwyd yn ystod y chwarter.