Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1/2, Canolfan Ddinesig, Port Talbot.
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, cyhoeddwyd y buddion canlynol: - Swyddog D Michael – Cofnod
Rhif 7 – Personol – Aelod o Bwyllgor Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2016 yn gofnod cywir. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 110 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a
oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau yn ystod y cyfnod o
fis Mehefin i fis Awst 2016. Safon Achredu Archifau Dywedodd yr Archifydd Sirol fod y gwasanaeth wedi derbyn statws achredu dan
y safon uchod ar gyfer ei fan gwasanaeth Abertawe. Mae Gwobr Safon Achredu
Archifau'n diffinio arfer da ac yn cytuno ar safonau ar gyfer archifau ar draws
y DU ac mae'n dangos llywodraethu da a gofal cywir o'r casgliadau. Canmolodd y Panel Adolygu'n benodol y defnydd o gasgliadau'r archifau mewn
gwaith allgymorth, gan gynnwys peth gwaith da gydag ysgolion, ac roedd yn
meddwl bod y gwasanaeth mewn sefyllfa dda i fynd i'r afael â'r
her o adleoli yn y dyfodol agos. Mae'r gwobr yn para am gyfnod o 5 mlynedd ac
mae'n cael ei hadolygu ar ôl 2 flynedd. Dywedodd y byddai angen i Gymdeithas
Hynafiaethwyr Castell-nedd gyflwyno cais ar wahân os oeddent am gael achrediad
yn y dyfodol ac y byddai WGAS yn ei
chefnogi gyda hyn os yw’n dymuno gwneud hynny.
Roedd aelodau'n croesawu'r cynnig hwn. Archifau Cymdeithas Hynafiaethol
Castell-nedd Dywedodd yr Archifydd Sirol fod y cyfleuster archifau yng Nghastell-nedd ar
1 Awst wedi symud i'w oriau agor newydd, gyda'r gwasanaeth yn cael ei gynnal
gan staff o Abertawe'n gweithio gyda gwirfoddolwyr
Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd. Amlinellodd fod yr arwyddion cynnar yn dangos bod y trefniadau newydd yn
gweithio'n dda gan nodi camau gweithredu er mwyn gwneud y casgliadau a'r
adnoddau hanes teulu a gedwir yno'n
fwy hygyrch i'r cyhoedd, y gellid ei gyflawni heb gost drwy gyhoeddusrwydd
ar-lein gwell. Dywedodd, drwy weithio gyda Chymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd, eu bod yn
mynd i’r afael â’r broblem barhaus o leithder anwadal
yn ystafell ddiogel yr archifau. Partneriaeth Archifau Rhanbarthol
Gorllewin Cymru Dywedodd yr
Archifydd Sirol na chafwyd mwy o gyfarfodydd o'r bartneriaeth yn dilyn cytundeb
ar gynnwys ail adroddiad yr ymgynghorydd. Bydd gwaith y
dyfodol yn cael ei ddatblygu gan Fwrdd Prosiectau
Strategol newydd Prifysgol Abertawe a fydd yn dechrau cwrdd yn yr hydref. Defnydd o'r
Gwasanaeth - Ystadegau ar gyfer mis Mehefin - mis Awst 2016 Adroddodd yr
Archifydd Sirol am y defnydd o'r gwasanaeth ar gyfer y chwarter. Nododd nad oedd
yr ystadegau ar gyfer ymweliadau electronig â'r we etc ar gael ar adeg
argraffu, ond byddai'n trosglwyddo'r ffigurau hyn i'r pwyllgor. Allgymorth y Gwasanaeth Adroddodd yr Archifydd
Sirol am y meysydd gwaith amrywiol yr oedd staff wedi bod yn
ymwneud â hwy yn ystod y chwarter. Nododd fod y
gwasanaeth yn parhau i gymryd rhan ym mhrosiect 'Visions
of Steel' Prifysgol Abertawe, mae wedi creu arddangosfeydd sy'n ymwneud â
stadau yn Townhill (Abertawe) a Sandfields
(Port Talbot) a gafodd eu harddangos yn ystod
ymweliad gweinidog Llywodraeth Cymru ag Abertawe'n
ddiweddar, ac ynghyd â Llyfrgelloedd Abertawe wedi cynnal rhaglen 'The Listening Project' Radio 4 y BBC yng Nghanolfan Ddinesig
Abertawe. Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn
Partneriaeth Cyfeiriodd yr Archifydd Sirol at y
cyfarfodydd a hyfforddiant proffesiynol y bu staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter
diwethaf. Casgliadau Archifau Er gwybodaeth, atodwyd rhestr gynhwysfawr
o archifau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod o fis Mawrth i fis Mai 2016 yn
Atodiad 1. |