Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddion. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 16 Mis Medi 2016 yn gofnod cywir. |
|
Materion yn codi. Cofnodion: Dywedodd yr Archifydd
Sirol yn dilyn cofnod rhif 7 (Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd) fod
amgylchedd yr ystafell ddiogel yn Sefydliad y Mecanyddion Castell-nedd wedi'i
sefydlogi gyda chymorth dadleithyddion symudol. Dywedodd y
Cadeirydd yn dilyn cofnod rhif 7 (Partneriaeth Archifau Rhanbarthol Gorllewin
Morgannwg) y byddai'n ysgrifennu'n bersonol at Uwch Is-ganghellor Prifysgol
Abertawe i gael barn y brifysgol ar rannu cyfleuster archifau. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 119 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a
oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau rhwng mis Medi a mis
Tachwedd 2016. Defnyddio'r
Gwasanaeth - Ystadegau mis Medi i fis Tachwedd 2016 Nododd yr
Archifydd Sirol y defnydd o'r gwasanaeth ar gyfer y chwarter gan nodi cefndir a
sail resymegol yr ystadegau chwarterol. Nododd na
fyddai'r broblem bresennol gyda chofnodi ac adrodd ar ddefnydd ar-lein o
gofrestri plwyfi Gorllewin Morgannwg yn berthnasol pan fydd nifer mawr o
gofnodion WGAS ar-lein ym mis Mawrth ar wefan Ancestry.
Bydd yr ystadegau newydd ar gyfer defnydd ar-lein o'r casgliadau yn cael eu
datgan mewn cyfarfodydd o fis Mehefin nesaf. Arddangosiadau a Gwaith Allgymorth Adroddodd yr
Archifydd Sirol am feysydd gwaith amrywiol y gwaith allgymorth y mae staff wedi bod
yn rhan ohono yn ystod y cyfnod hwn. Nododd gyfraniad
y gwasanaeth yn y prosiect 'Visions of Steel', sy'n
canolbwyntio ar hanes gwneud dur ym Mhort Talbot. Mae'r gwasanaeth, a ariennir gan Gyngor
Ymchwil y Celfyddydau a Dyniaethau, wedi creu 12
panel arddangos a arddangoswyd yn wreiddiol ym mis Hydref yn yr archifau ac
maent bellach yn cael eu harddangos yn Ysgol Bae Baglan. Dywedodd fod y
gwasanaeth wedi llwyddo i sicrhau grant 100% gan Lywodraeth Cymru i greu
arddangosfa deithiol sy'n cofnodi yn nhrefn amser y cyfraniad cadarnhaol y mae cymunedau
amrywiol wedi'i wneud i Ddinas Abertawe yn ogystal â'i
henw da am groesawu ffoaduriaid. Dywedodd hefyd
am gyfraniad y gwasanaeth i'r prosiect a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y
Loteri, 'Cynefin': Mapio’r Ymdeimlad o Le yng Nghymru a'i is-brosiect lleol
'Archwilio Coetiroedd Hynafol Gŵyr', Gwasanaeth Addysg Cyfeiriodd yr Archifydd Sirol at y
gweithgareddau amrywiol a wnaed gydag ysgolion y ddau awdurdod yn ystod y
chwarter. Hyfforddiant staff Nododd yr Archifydd Sirol ei fod wedi
penodi dau Archifydd Dan Hyfforddiant, un wedi'i benodi am gyfnod o ddeufis
drwy grant 90% gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda mewnbynnu data o
gofrestri derbyniadau copi caled. Cyfeiriodd at y
cyrsiau hyfforddi y bu'r staff arnynt yn ystod y chwarter. Cyfarfodydd Proffesiynol a Gweithio Mewn
Partneriaeth Cyfeiriodd yr Archifydd Sirol at y
cyfarfodydd a hyfforddiant proffesiynol y bu staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter
diwethaf. Casgliadau Archifau Cyfeiriodd yr Archifydd
Sirol at y rhestr gynhwysfawr o archifau a dderbyniwyd rhwng mis Medi a mis
Tachwedd 2016 gan nodi bod y gwaith bron wedi'i gwblhau ar gynlluniau cadwraeth
eraill o gasgliad Gwaith Haearn Mynachlog Nedd. |