Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig, Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01972 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y
Cynghorydd R Smith – Eitem 4
(8) – personol a rhagfarnol a'i adael cyn trafodaeth Andrew Dulley – Eitem 4 - Personol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod,
cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Andrew Dulley -
Eitem 4 ar yr Agenda - Personol Y Cynghorydd R
Smith – Eitem 4 (8) ar yr Agenda – Personol a rhagfarnol a gadawodd yn ystod y
drafodaeth. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2023 fel cofnod cywir. |
|
Materion yn codi. Cofnodion: Rhoddodd yr
Archifydd Sirol ddiweddariad llafar byr ynghylch Y Storfa. Amlinellodd fod y
contractwyr yn parhau ar y safle ac mai dyddiad cwblhau'r prosiect yw mis Mai 2025 o hyd. Mae'r adeilad yn parhau i
fod yn y cam "dymchwel" ar hyn o bryd. Byddai'n holi ymhellach ac yn
diweddaru'r Aelodau ynghylch yr opsiynau ar gyfer ymweliad safle, fel y'u
trafodwyd yn y cyfarfod blaenorol, maes o law. Cyn bo hir, bydd
staff yn ymgymryd â chwrs hyfforddiant cadwraeth sy'n ymwneud â symud archifau,
a ddylai fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 162 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd yr
Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y
Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Chwefror 2024. Cyllideb
Refeniw 2024/2025 Cyflwynodd Kim Collis
adroddiad a diweddariad llafar a rhoddodd fanylion Cyllideb Refeniw y
Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2024/2025, y cronfeydd wrth gefn a ddelir
gan y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd. Cyfeiriodd at ei
ymddeoliad arfaethedig ym mis Mehefin 2024 a nododd y byddai'r rôl yn cael ei
hadfer i fod yn rôl amser llawn wrth symud ymlaen, gan fod ei rôl bresennol
wedi esblygu i ganiatáu i Gyngor Abertawe lenwi swydd statudol y Swyddog
Diogelu Data. Nododd mai dim
ond cynnydd bychan a gafwyd ar gyllideb y llynedd. Gwnaed darpariaeth yn y
gyllideb ynghylch cadwraeth ddigidol wrth symud ymlaen a nodir hyn yn ei
adroddiad yn ddiweddarach yn yr agenda, yn ogystal ag arian ar gyfer yr
Hyfforddai Archifau yn y dyfodol. Amlinellodd y
symiau a gedwir yng nghronfeydd arian wrth gefn
hyfforddiant casgliadau ac archifau ar 31 Mawrth 2024. Nododd aelodau'r
adroddiad llafar. Y Defnydd o'r
Gwasanaeth Adroddodd am y ffigurau
sy'n ymwneud â'r defnydd o'r gwasanaeth drwy ei lwyfannau amrywiol yn bersonol
ac ar-lein. Allgymorth a
Gweithgarwch Addysgol Dywedodd fod dwy
ysgol wedi derbyn sesiynau yn ystod y chwarter. Mae'r staff hefyd wedi cynnal sgyrsiau ar gyfer grŵp hanesyddol lleol.
Mae'r gwasanaeth yn parhau i gynnal sesiynau misol ar gyfer Cymdeithas
Hanes Teulu Morgannwg, Cangen Abertawe. Mae staff hefyd wedi bod yn rhan o grŵp cydweithredol gyda'r adran
Addysg Athrawon ym Mhrifysgol Abertawe, Archifau Richard Burton, Llyfrgell
Glowyr De Cymru a Phartneriaeth i lunio pecynnau adnoddau archifol hawdd eu
cyrchu ar gyfer athrawon, a gallai hyn fod yn adnodd rhagorol wrth symud
ymlaen. Archif Ddarlledu Cymru Adroddodd fod
Corneli Clip wedi'i lansio yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe ar 15 Ionawr wrth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gynnal
seremoni fechan. Er y bydd Corneli
Clip wedi'i leoli yno pan fydd y Gwasanaeth Archifau yno, bydd Corneli Clip
newydd wedi'i gynnwys yn Y Storfa yng ngofod Llyfrgell Glowyr De Cymru. Dylai'r lleoliad hwn yng nghanol y
ddinas ddod â mwy o ymwelwyr a defnydd i'r cyfleuster. Catalog
Ar-lein Archifau Amlinellodd fod
materion technegol yn parhau gyda'r feddalwedd sy'n gysylltiedig â chwilio'r
catalog ar-lein. Cafwyd problem ym mis Hydref 2023, ac mae staff TG Cyngor
Abertawe a'r darparwr allanol yn parhau i weithio tuag at ddatrysiad. Mae datrysiad
dros dro wedi'i drefnu, fel bod y catalog ar-lein yn parhau i fod ar gael i
ddefnyddwyr drwy'r Hwb Archifau. Cadwraeth
Ddigidol Amlinellodd, yn dilyn trafodaethau mewn cyfarfodydd blaenorol ar y mater
hwn, fod y Gwasanaeth Archifau'n ymrwymo i gonsortiwm i gynnal cadwraeth
ddigidol (archifo a chadw cofnodion a grëwyd yn wreiddiol yn ddigidol a
chofnodion wedi'u digideiddio'n barhaol). Mae'r consortiwm sydd wedi datblygu
yn ystod y misoedd diwethaf yn cynnwys Archifau Gorllewin Morgannwg, Morgannwg,
Gwent, Conwy a Gogledd-ddwyrain Cymru ynghyd â Phrifysgolion Caerdydd ac
Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Gwnaed darpariaeth yn
y gyllideb i dalu am y tanysgrifiad blynyddol i ddarparwr masnachol y
gwasanaethau hyn. Disgwylir i
gyllid allanol fod ar gael i gefnogi swydd tymor byr i gynorthwyo gyda'r broses
o sefydlu'r ystorfa ddigidol ac mae'r Gwasanaeth Archifau wedi bod yn trafod
gyda Phrifysgol Abertawe a PCYDDS ynghylch cyflwyno cais ar y cyd am gyllid o'r
fath. Disgwylir i'r gofyniad ariannu cyfatebol disgwyliedig fod o gwmpas
£5,000-10,000. Mae pwysigrwydd
cadwraeth ddigidol wrth symud ymlaen yn allweddol, wrth i lawer o gofnodion
bellach gael eu llunio ar ffurf electronig yn unig. Cytunwyd y gellir
defnyddio'r arian wrth gefn ar gyfer hyfforddi o bosib i gefnogi cais o'r fath,
ar gyfer y gwariant amcangyfrifedig a nodir uchod, pe
gwneir cais o'r fath a bod hynny'n llwyddiannus. Cyfarfodydd a
Hyfforddiant Proffesiynol Rhestrodd y gwahanol
grwpiau proffesiynol a chyfarfodydd y mae aelodau staff wedi bod yn bresennol
ynddynt yn ystod y chwarter. Ffïoedd a
Thaliadau ar gyfer 2024/25 Cyfeiriodd at y tabl ffioedd a thaliadau ar gyfer y Gwasanaeth a manylodd
ar y cynnydd canrannol a fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2024. Mynediad at
Gasgliadau’r Archifau Manylodd ar yr
archifau amrywiol a
dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter. Staff Dywedodd fod Katie
Millien, Archifydd, wedi gadael y Gwasanaeth ym mis Ionawr, i ddechrau swydd
gyda Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin, gyda chyfrifoldeb arbennig dros
sefydlu gwasanaeth i ysgolion y sir honno. Roedd Katie yn aelod gwerthfawr iawn
o'r tîm am dros un mlynedd ar bymtheg ac mae ei chyfraniad i waith y
gwasanaeth, yn enwedig wrth sefydlu ein gwasanaeth ein hunain i ysgolion, yn
anfesuradwy. Mae ei swydd wedi'i hysbysebu a gobeithio y bydd yn cael ei
llenwi'n fuan. Gofynnodd y
Cadeirydd i'r Archifydd Sirol gyfleu neges o ddymuniadau gorau i Katie am ei
rôl newydd a diolch am ei blynyddoedd o wasanaeth oddi wrthi hi a'r pwyllgor. Amlinellodd hefyd
fod angen cymeradwyaeth ar gyfer cefnogaeth barhaus i ariannu swydd yr
Hyfforddai Archifau. Cytunwyd y dylid
cymeradwyo defnyddio'r gronfa hyfforddi i ariannu Hyfforddai Archifau ar gyfer
2024/25. Yna siaradodd yr Archifydd Sirol ymhellach ynghylch y cyhoeddiad a wnaeth
yn y cyfarfod diwethaf, gan amlinellu mai hwn oedd ei adroddiad olaf i'r
cydbwyllgor cyn iddo ymddeol. Diolchodd i'r Pwyllgor am eu diddordeb a'u
cefnogaeth dros yr ugain mlynedd diwethaf a rhoddodd sicrwydd i'r aelodau bod
gweithdrefnau hefyd ar waith i recriwtio ei olynydd, fel swydd amser llawn, fel
y manylwyd yn gynharach yn adroddiad y gyllideb. Amlinellodd a
myfyriodd ar ei amser fel Archifydd Sirol a'i rolau blaenorol a nododd ei fod
wedi mwynhau gweithio i'r gwasanaeth, a chyfeiriodd at rai uchafbwyntiau o'i
gyfnod yn y swydd a oedd yn cynnwys prynu casgliad Gwaith Haearn Mynachlog Nedd
a'i gydnabyddiaeth UNESCO o ganlyniad i hynny, ei syniad o ddatblygu tocyn
darllenwr Cerdyn Archifau ledled y DU a phrosiect Mapiau Degwm Cymru a'i rôl yn
y prosiect hwnnw. Dymunodd y gorau
i'r aelodau staff a'i olynydd yn y dyfodol, yn enwedig wrth symud i'r Storfa yng nghanol y ddinas. Yna talodd y
Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor gyfres o deyrngedau i Kim a diolchodd iddo am
ei waith caled, ei angerdd, ei frwdfrydedd, ei ymroddiad a'i ymrwymiad i'r
gwasanaeth dros y blynyddoedd, a dymunodd ymddeoliad hir, hapus ac iach iddo. |