Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01972 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 15 Medi 2023 fel cofnod cywir. |
|
Adleoli'r Archifau - Diweddariad gan y Tîm Dylunio. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Rhoddodd Andrew
Gardner a Tracey McNulty ddiweddariad llafar i'r Pwyllgor ar y sefyllfa
bresennol mewn perthynas â'r cyfleuster newydd, Y Storfa, sy'n cael ei
ddatblygu yng nghanol dinas Abertawe. Y nod yw y bydd y
cyfleuster newydd yn agor yng ngwanwyn 2025 ac mae'r contractwyr ar y safle ar
hyn o bryd yn ymgymryd â cham tynnu hen gyfarpar/dymchwel y prosiect. Amlinellwyd bod
Chris Woods o'r Gwasanaeth Cadwraeth Cenedlaethol wedi bod yn rhan o bob cam
o'r gwaith i ddatblygu a dylunio agweddau archif yr adeilad, ac mae wedi rhoi
cyngor arbenigol ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys diogelwch ffisegol a
thrydanol, tân ac amodau amgylcheddol. Manylwyd ar y
materion a'r amserlenni ynghylch y nod o gyflawni'r safonau BSI a'r nod o
ail-achredu’r gwasanaeth. Byddai staff yn derbyn yr hyfforddiant priodol i
oruchwylio gweithrediad effeithlon o'r ystafell ddiogel. Esboniwyd ac
amlinellwyd y newidiadau a chynllun diwygiedig yr ystafell ddiogel, a'r
trefniadau rheoli arfaethedig mewn perthynas â'r materion ynghylch monitro'r
ystafell ddiogel yn fanwl. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau amrywiol ynghylch y diweddariad a'r cynigion ar
gyfer yr adeilad i'r swyddogion, a ymatebodd yn briodol. Byddai ymweliad
safle â'r cyfleuster yn cael ei drefnu ar gyfer holl aelodau'r pwyllgor maes o
law. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am y diweddariad ac amlinellwyd y byddai ymweliad
safle'n cael ei groesawu. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 310 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y
Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd
2023. Adleoli'r
Archifau i Y Storfa - Hwb Canol y Ddinas a Gwaith Prosiect Arall Mewn perthynas â'r
diweddariad llafar a ddarparwyd yn gynharach yn y cyfarfod, darparodd yr
Archifydd Sirol ddiweddariad ar y cynlluniau diwygiedig ar gyfer yr ystafell
ddiogel, yn dilyn cytundeb i gael gwared ar y lifft dogfennau. Dangoswyd y
cynlluniau diwygiedig i'r pwyllgor. Amlinellodd ei
fod yn credu bod y cynllun diwygiedig newydd yn welliant gwych ar y fersiwn
flaenorol, a'i fod bellach yn fwy o ran maint ac yn cynnwys mwy o
gyfrifiaduron, ardal storio cotiau/bagiau ac ystafell ar gyfer gwneud
gwerthiannau bach. Manylodd ar y
diwygiadau a wnaed ynghylch ail-ddylunio’r ystafell ddiogel ac mewn perthynas
â'r defnydd o'r lifft staff rhwng yr ystafell ymchwil a'r ystafell ddiogel.
Nododd fod y trefniadau rheoli wedi’u cytuno felly staff yr archifau yn unig
fyddai yn y lifft wrth gludo dogfennau i'r ystafell ddiogel ac oddi yno. Cytunodd Tracey
McNulty fod y dyluniad newydd yn welliant ac y dylai ychwanegu gwerth at Y
Storfa. Dylai'r ystafell ddiogel newydd, mewn cydweithrediad â'r cyfleusterau
eraill yn yr adeilad megis y llyfrgell newydd, cyngor ar bopeth, ystafelloedd
cyfarfod etc. gynyddu nifer yr ymwelwyr ac amser 'sefyll'. Amlinellodd yr
Archifydd Sirol hefyd fod y Gwasanaeth Cadwraeth Cenedlaethol wedi darparu
hyfforddiant i staff mewn perthynas â'r casgliadau ffotograffiaeth a ddelir gan
y gwasanaeth. Y Defnydd o'r Gwasanaeth Adroddodd am y ffigurau sy'n ymwneud â'r defnydd o'r gwasanaeth drwy ei
lwyfannau amrywiol yn bersonol ac ar-lein. Allgymorth a
Gweithgarwch Addysgol Adroddodd fod dwy ysgol wedi derbyn sesiynau yn ystod y chwarter a bod
sesiynau hefyd wedi'u cynnal ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe a Phrifysgol
Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae staff hefyd wedi darparu sgyrsiau i dri grŵp a sefydliadau yn
ystod y chwarter. Mae wedi bod i amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol yn ystod y chwarter ac
amlinellwyd bod y gwasanaeth yn parhau i gynnal sesiwn fisol ar gyfer Cangen
Abertawe o Gymdeithas Hanes Teulu Morgannwg. Staff Adroddodd fod yr hyfforddai archifau newydd, Ffion Kidwell,
wedi dechrau ar 5 Rhagfyr. Mae llenwi'r swydd hon wedi galluogi'r gwasanaeth i
barhau i agor deuddydd yr wythnos yn Sefydliad y Mecanyddion yng Nghastell-nedd
ochr yn ochr â gwirfoddolwr o Gymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd. Cyfarfodydd a Hyfforddiant Proffesiynol Rhestrodd y gwahanol grwpiau proffesiynol a chyfarfodydd yr oedd wedi bod
yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter. Mynediad at Gasgliadau’r Archifau Manylodd yr
Archifydd Sirol ar yr archifau amrywiol a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth yn ystod
y chwarter. |