Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Gareth Borsden - 01972 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: A Dulley – Eitem 4 – Personol Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, datganwyd y cysylltiad canlynol: Andrew Dulley -
Eitem 4 - personol. |
|
Ethol is-gadeiryddion ar gyfer blwyddyn y cynghorau 2023-2024. Penderfyniad: Y cynghorwyr C Phillips a R V Smith wedi eu hethol Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorwyr R V Smith a C Phillips
yn Is-gadeiryddion y Pwyllgor ar gyfer 2023-2024. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2023 fel cofnod cywir. |
|
Materion yn Codi Cofnodion: Adroddodd yr
Archifydd Sirol fod lansiad Archif Ddarlledu Cymru wedi'i oedi ymhellach am
resymau amrywiol. Dywedodd y bydd y
dyddiad lansio yn debygol o fod ym mis Hydref, ac mae'n debygol y bydd y Gornel
Clip yn y Gwasanaeth Archifau yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe yn agor ar yr un
pryd â'r cyfleuster yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 183 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y
Gwasanaeth Archifau ar y Cyd rhwng mis Mehefin a mis Awst 2023. Y Defnydd o'r Gwasanaeth Adroddodd am y ffigurau sy'n ymwneud â'r defnydd o'r gwasanaeth drwy ei
lwyfannau amrywiol yn bersonol ac ar-lein. Trafodwyd a dadleuwyd y ffactorau
sy'n ymwneud â hyn mewn nifer o gyfarfodydd yn y gorffennol. Staff Adroddodd fod Anne-Marie
Gay wedi cael ei dyrchafu i'r swydd Archifydd rhan-amser ers y cyfarfod
diwethaf, a phenodwyd Peter Neville i'r swydd Cynorthwydd Archifau rhan-amser. Mae'r gwasanaeth yn bwriadu recriwtio Cynorthwyydd Archifau arall a fydd yn
golygu bod cyflenwad staff llawn yn y gwasanaeth, ac yn galluogi ar gyfer
ailagor gwasanaeth Abertawe yn ystod amser cinio ac ailagor gwasanaeth
Castell-nedd ddeuddydd yr wythnos. Bydd hyn yn golygu bod oriau agor y
gwasanaeth yn dychwelyd i 46 awr yr wythnos yn lle 36 awr yr wythnos. Amlinellodd y bydd mynediad ar-lein at Gyfrifiad 1921 yn cael ei ddarparu
yn Sefydliad y Mecanyddion yng Nghastell-nedd cyn bo hir yn
ogystal ag yn yr ystafell ymchwil yn Abertawe. Allgymorth a Gweithgarwch Addysgol Cyflwynodd staff sesiwn addysgol i un ysgol yn ystod y chwarter. Cynhaliwyd sesiynau misol hefyd gyda Changen Abertawe o Gymdeithas Hanes
Teulu Morgannwg sydd bellach yn cwrdd yn rheolaidd yn y Ganolfan Hanes Teulu. Dyfarniadau
Grant sy'n ymwneud â'r Symud Amlinellodd fod gwaith
paratoi yn parhau tuag at y cynllun symud 14 pwynt a gytunwyd gyda Llywodraeth
Cymru ac ymgynghorydd allanol y Gwasanaeth Cadwraeth Cenedlaethol. Manylodd ar y
gwaith sy’n parhau yn yr 8 prif faes, y mae staff yr Archifau yn ymgymryd ag ef
i baratoi ar gyfer symud, gan gynnwys monitro amgylcheddol uwch; monitro plâu;
cynnal arolwg asesu cadwraeth; gwella'r ffordd y caiff casgliadau clywedol a
ffilm eu storio; a digideiddio'r casgliadau sleidiau gwydr. Amlinellodd y
grantiau gan Lywodraeth Cymru y mae'r gwasanaeth wedi'u derbyn tuag at gyflawni
elfennau penodol o'r gwaith. Adleoli'r Archifau i Hwb Canol y Ddinas Amlinellodd fod y
gwaith i ddylunio ardal storio newydd yr archifau yn Hwb Canol y Ddinas yn
parhau tuag at gyflawni safon BS 4971, a rhoddwyd yr enw 'Y Storfa' i'r adeilad
y ddiweddar. Mae Cam 4
Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain bellach wedi'i basio, ond gwnaed nifer o
ddiwygiadau i'r prosiect ers y cyfarfod diwethaf yn dilyn ymarfer peirianneg
gwerth, sy'n arfer safonol ar gynlluniau mawr er mwyn rhoi ystyriaeth i bwysau
chwyddiant, costau adeiladu etc. Mae nifer o
gynigion ac addasiadau i'r cynllun gwreiddiol o ganlyniad i'r ymarfer yn cael eu
hystyried a'u gwerthuso o hyd gan Lywodraeth Cymru a'r Archifau Gwladol. Mae'r
broses o drafod a chadarnhau'r diwygiadau yn parhau ar hyn o bryd rhwng y
contractwyr a'r ddau gorff uchod. Y diwygiadau
pennaf yw bod yr ystafell ymchwil wedi'i hadleoli i'r llawr cyntaf ac y
byddai'r lifft i staff yn cael ei ddefnyddio i drosglwyddo dogfennau rhwng yr
ystafell ymchwil a'r ystafell ddiogel. Mae strategaeth i fynd i'r afael ag
unrhyw broblemau gyda hyn yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac ni ddisgwylir i
hyn achosi unrhyw broblemau gweithredol. Y prif newid
arall yw bod y plenwm neu'r gwagle o amgylch yr ystafell ddiogel, y bwriadwyd
iddo gael ei oeri/wresogi yn ôl yr angen, wedi cael ei ddileu. Bwriedir rhoi aerdymheru ar waith yn yr
ystafell ddiogel yn lle. Amlinellodd ei bryderon ef a phryderon arbenigwr y
Gwasanaeth Cadwraeth Cenedlaethol ynghylch y cynigion hyn, yn benodol mater yn
ymwneud â rheoli lleithder, y cynigiwyd y gellir rheoli hyn â llaw. Adroddwyd am farn
yr arbenigwr o'r Gwasanaeth CadwraethCenedlaethol
ynghylch y diwygiad hwn i'r pwyllgor. Amlinellodd mai Llywodraeth Cymru a'r
Archifau Gwladol fyddai'n gwneud y penderfyniad o ran y diwygiadau arfaethedig
yn y pen draw ac nid y gwasanaeth, ac y gall penderfyniadau a wneir yn awr
effeithio ar ein hail gais am Achrediad llawn. Gofynnodd y
Cadeirydd a'r Aelodau gwestiynau a gwnaethant sylwadau am y cynigon diwygiedig
gan amlinellu eu pryderon mewn perthynas â'r materion a godwyd ynghylch
uniondeb yr ystafell ddiogel a’r goblygiadau posib ar achrediad y gwasanaeth yn
y dyfodol. Amlinellodd fod
yr astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer cyfleuster archifau rhanbarthol newydd fel
a drafodwyd mewn cyfarfodydd yn y gorffennol wedi ei chwblhau, ac y caiff ei
chyflwyno'n fuan i Dîm Adfywio'r Ddinas i ddechrau, sef y corff a gomisiynodd y
gwaith. Dylai'r astudiaeth fod ar gael
i'r pwyllgor ei gweld yn y dyfodol. Cyfarfodydd a Hyfforddiant Proffesiynol Amlinellodd y gwahanol grwpiau proffesiynol a chyfarfodydd yr oedd wedi bod
yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter. Mynediad at Gasgliadau’r Archifau Manylodd yr Archifydd Sirol ar yr archifau amrywiol a dderbyniwyd gan y
Gwasanaeth yn ystod y chwarter.
Adroddodd fod y ffeil corffdy a ganfuwyd a oedd yn dyddio o adeg yr Ail
Ryfel Byd a'r Blits yn Abertawe wedi cael ei gynnwys mewn erthygl Wales Online
yn ddiweddar. |