Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01972 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: A Dulley – Eitem 4 – Personol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, datganwyd
y cysylltiad canlynol: Andrew Dulley -
Eitem 5 - personol. |
|
Croeso/Diolch. Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd, yn dilyn diwygiad i gyfrifoldeb portffolio yng nghyngor CNPT, nododd
Craig Griffiths mai heddiw fyddai ei gyfarfod olaf. Diolchodd
iddo am ei gyfraniadau a'i gyngor i'r pwyllgor dros y blynyddoedd. Croesawodd
Chris Saunders hefyd, Pennaeth Diwylliant, Hamdden, Treftadaeth a Thwristiaeth
i'w gyfarfod cyntaf. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau
Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2023 yn gofnod cywir. |
|
Ethol is-gadeiryddion ar gyfer blwyddyn y cynghorau 2023-2024. Penderfyniad: Gohiriedig Cofnodion: Penderfynwyd
y byddai ethol Is-gadeiryddion yn cael ei ohirio tan y
cyfarfod nesaf. |
|
Adroddiad Archifydd y Sir. PDF 174 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd
yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau
ar y Cyd rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023. Y defnydd o'r gwasanaeth Adroddodd am y ffigurau sy'n ymwneud â'r defnydd o'r gwasanaeth drwy ei
lwyfannau amrywiol yn bersonol ac ar-lein. Amlinellodd fod y defnydd o'r gwasanaeth yn cynyddu'n gyson yn dilyn y pandemig a'r cyfyngiadau symud amrywiol. Amlinellodd y disgwylir i Archif Ddarlledu Cymru lansio ar 11 Gorffennaf, a
byddai'n ystyried trefnu ymweliad i aelodau'r pwyllgor weld y cyfleuster yn y
ganolfan ddinesig maes o law. Amlinellodd ddadansoddiad o'r ystadegau o ran o ble mae'r bobl sy'n
defnyddio'r gwasanaeth yn dod, a geir drwy Gerdyn Archifau darllenwyr. Cyfeiriodd at broblemau IT a gafwyd yn Sefydliad y Mecanyddion
o ganlyniad i oedran y cyfrifiaduron yno, ac roedd rhaid prynu rhai newydd yn
eu lle oherwydd problemau diogelwch posib. Dylai hwn gael ei ddatrys a dylai'r
peiriannau newydd gael eu gosod yn fuan iawn. Yn dilyn cwestiwn gan Janet Watkins ynghylch ystadegau defnydd, dywedwyd y
byddai'n hapus i gynnwys nifer yr ymwelwyr i Sefydliad y Mecanyddion
ar gyfer y cyfnodau lle mae'r cyfleuster ar agor ac wedi'i staffio gan
wirfoddolwyr y Gymdeithas Hynafiaethwyr. Byddai'r rhain wedi cael eu cofnodi ar
wahân i'r cyfnodau lle mae staff yr archifau'n bresennol o ganlyniad i
reoliadau adrodd. Trafodwyd y broblem o'r dirywiad mewn pobl sy'n dwlu ar hanes teulu yn mynd
i'r Ganolfan Ddinesig a Sefydliad y Mecanyddion yn
ogystal â'r ffactorau sy'n effeithio ar y broblem. Allgymorth a Gweithgarwch Addysgol Cyfeiriodd at adroddiad blynyddol y gwasanaeth a gyhoeddwyd ar-lein ar
ddiwedd mis Mai. Gellir dod o hyd iddo yn https://www.abertawe.gov.uk/adroddiadblynyddolarchifyddysir Amlinellwyd nifer yr ysgolion y darparwyd sesiynau addysgol iddynt gan
staff. Cynhaliwyd nifer o sesiynau hefyd ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe, a
darparwyd sgyrsiau i grwpiau amrywiol gan staff yn ystod y chwarter. Adleoli'r Archifau i Hwb Canol y Ddinas Manylodd fod y gwaith yn parhau i fynd rhagddo ac maent yn parhau i
ddatblygu dyluniad y cyfleuster newydd yng nghanol dinas Abertawe i sicrhau ei
fod yn cydymffurfio â Safon Prydeinig 4971. Manylodd ar fewnbwn Llywodraeth Cymru a'r ymgynghorydd allanol arbenigol
Chris Woods, sydd wedi arwain at osod 2 ddarn o gyfarpar ychwanegol, yn benodol
un i gael gwared ar ormodedd o leithder ac un arall o gwmpas system oeri
awtomatig. Cyfeiriodd at y broses achrediad y bydd rhaid i'r gwasanaeth fynd drwyddi
yn y cyfleuster newydd a manylwyd arni. Staff Amlinellodd fod y gwasanaeth wedi colli 2 aelod o staff yn ystod y misoedd
diwethaf, sydd wedi effeithio ar ei allu i ddarparu gwasanaeth llawn yn
Abertawe a Chastell-nedd. Amlinellodd fod y broses o recriwtio staff newydd yn lle staff sydd wedi
gadael yn barhaus. Cyfarfodydd a Hyfforddiant Proffesiynol Amlinellodd y gwahanol grwpiau proffesiynol a chyfarfodydd yr oedd wedi bod
yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter. Mynediad at Gasgliadau’r Archifau Manylodd ar yr archifau amrywiol a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y
chwarter. |