Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol is-gadeiryddion ar gyfer blwyddyn y cynghorau 2022-2023.

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Robert Smith

 

Cofnodion:

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Robert Smith yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2022-2023.

 

Sylwer: Gohiriwyd ethol Is-Gadeirydd CBS Castell-nedd Port Talbot tan y cyfarfod nesaf.

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 315 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir.

 

4.

Materion yn codi.

Cofnodion:

 

Dywedodd yr Archifydd Sirol, er y newidiwyd darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd, fod problemau o hyd, yn anffodus, gyda'r cysylltiad band eang yn Sefydliad y Mecanyddion Castell-nedd. Mae hyn yn parhau i wahardd aelodau'r cyhoedd rhag cael mynediad at wefannau hanes. Byddai'n ceisio cymorth gan yr adran TG yn CNPT i geisio datrys y mater.

 

Amlinellodd ei fod wedi derbyn cymeradwyaeth i hysbysebu am swydd Archifydd dan Hyfforddiant. Byddai diweddariadau ar y penodiad yn cael eu rhoi yn y cyfarfod nesaf.

 

Cyfeiriodd at y datganiad a wnaed yn ddidwyll yn y cyfarfod diwethaf a oedd yn datgan na fyddai'r casgliadau archif yn cael eu symud o'r Ganolfan Ddinesig nes bod gan yr ystafell ddiogel gofnodion amgylcheddol yn unol â BS4971.  Yn anffodus nid oedd hyn yn gywir gan fod yn rhaid i'r casgliadau fod yn eu lle er mwyn monitro lefel y lleithder yn gywir ac felly ni ellid rhoi sicrwydd o'r fath.

 

Dywedodd nad oedd y sesiwn friffio ychwanegol ar gyfer yr aelodau wedi'i threfnu eto. Gofynnodd i'r Aelodau gyflwyno unrhyw farn neu gwestiynau ar ba wybodaeth ychwanegol yr hoffent ei chael mewn sesiwn arall, os oedd ei hangen o hyd.

 

 

5.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 163 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd rhwng mis Mehefin a mis Awst 2022.

 

Y defnydd o'r gwasanaeth

 

Adroddodd am y ffigurau'n ymwneud â'r defnydd o'r gwasanaeth drwy ei wahanol lwyfannau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae'r niferoedd sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn parhau i gynyddu'n araf.

 

Yr Archif Ddarlledu Genedlaethol

 

Amlinellodd fod y gwaith ar osod y 'Corneli Clip' yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe wedi’i ohirio tan fis Hydref ar gais Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n arwain y prosiect. Byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu yn y cyfarfod nesaf.

 

Dywedodd, yn dilyn trafodaethau â'r Llyfrgell Genedlaethol ac mewn perthynas ag ymholiadau a godwyd gan yr Aelodau yn y cyfarfod diwethaf ynghylch dangosiadau 'cymunedol' posib o ffilm a gedwir dan y cynllun, ei fod yn gallu cadarnhau y byddai hyn yn bosib yn y dyfodol dan gytundeb trwydded a gellid cynnal digwyddiadau allgymorth.

 

Allgymorth a Gweithgarwch Addysgol

 

Cyfeiriodd at gyhoeddi adroddiad blynyddol y gwasanaeth ym mis Mehefin. Gellir gweld yr adroddiad yn https://www.abertawe.gov.uk/article/6227/Adroddiad-Blynyddol-Archifydd-y-Sir

 

Manylodd hefyd ran y gwasanaeth mewn cais Cymru gyfan am arian o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Gwrth-hiliol Cymru, cais sy’n cynnwys tair ffrwd waith bosib.

 

Un o’r ffrydiau gwaith hyn yw digideiddio a rhoi deunydd archifol ar y we sy’n ymwneud â chysylltiadau Cymru â’r gaethfasnach drawsatlantig hanesyddol, prosiect posib a fu’n destun trafodaeth flaenorol gan y Pwyllgor.

 

Cyfarfodydd a Hyfforddiant Proffesiynol

 

Amlinellodd y grwpiau hyfforddi proffesiynol y bu'r staff yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Adleoli'r Archifau

 

Dywedodd, ers i'r adroddiad gael ei gyflwyno cyn gohirio'r cyfarfod hwn, fod pethau wedi symud ymlaen. Amlinellodd nad oes angen y cais yn yr adroddiad i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn yr Archifau mwyach, gan y bydd yr astudiaeth dichonoldeb bellach yn cael ei hariannu'n llawn gan Gyngor Abertawe.

 

Nododd Tracey McNulty y bydd yr astudiaeth dichonoldeb yn cael arian cyfatebol gan Gyfarwyddiaeth Lleoedd Cyngor Abertawe ond y daw'r prif gyllid o gynlluniau adfywio Llywodraeth Cymru. Bydd yn adeiladu ar waith blaenorol a wnaed a bydd yn edrych ymhellach ar y potensial ar gyfer cyfleuster archifau rhanbarthol.  Wrth drafod cywiriadau, cyfeiriodd at ddatganiad yn adroddiad yr Archifydd Sirol ac amlinellodd mai disgrifiad mwy cywir o'r rheswm dros yr astudiaeth hon yw nad yw'r cyngor yn credu mai Hwb Canol y Ddinas fyddai'r lleoliad gorau ar gyfer archif ranbarthol o'r fath. Y rheswm am hyn oedd y byddai angen storfa ddiogel ar raddfa fawr a mynediad at gasgliadau lluosog sy’n eiddo i amrywiaeth o gyrff ac nid yw’r dyhead hwn yn cyd-fynd â lleoliad ‘stryd fawr’ lle mae angen ysgogwyr o ran adfywio ac annog ymwelwyr.

 

Cyfeiriodd at e-bost a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod a oedd yn ceisio rhoi rhagor o wybodaeth gefndir i’r Pwyllgor, ynghyd ag eglurder ychwanegol a chyd-destun ynghylch rhai o’r materion a godwyd, yn enwedig y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a’r cyngor i adleoli Archif Gorllewin Morgannwg i'r Hwb Cymunedol.

 

Mynediad at Gasgliadau Archifau

 

Manylodd ar y rhestr o archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.