Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

A Dulley – Eitem 4 & 5 – Personol

Cofnodion:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, datganwyd y cysylltiad canlynol:

 

Andrew Dulley - Eitemau 4 a 5 - personol.

 

 

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 311 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 16 Medi 2022 fel cofnod cywir.

 

12.

2023/2024 Cyllideb Refeniw. pdf eicon PDF 137 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyllideb Refeniw'r Gwasanaeth Archifau ar y Cyd ar gyfer 2022/2023 a'r arian wrth gefn sydd gan y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd, a gyflwynwyd er gwybodaeth yn unig.

 

Nododd ei fod unwaith eto'n gyllideb ddigyfnewid, ac eithrio cynnydd bach ar gyfer y dyfarniad cyflog ar gyfer 2023.

 

Mae'r tabl yn yr adroddiad yn dangos sefyllfa amcangyfrifedig arian wrth gefn Hyfforddiant Casgliadau a'r Archifau ar 31 Mawrth 2023.

 

Nododd yr aelodau'r adroddiad.

 

13.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 270 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Chwefror 2023.

 

Y defnydd o'r gwasanaeth

 

Adroddodd am y ffigurau sy'n ymwneud â'r defnydd o'r gwasanaeth drwy ei lwyfannau amrywiol yn bersonol ac ar-lein.

 

Amlinellodd nad oedd y ffigurau ar-lein ar gael eto, oherwydd absenoldeb staff yn yr adran TG, ond y gellid eu dosbarthu wedi iddo’u derbyn.

 

Manylodd ar y cynnydd a wnaed o ran diffyg darpariaeth rhyngrwyd yn Sefydliad y Mecanyddion yng Nghastell-nedd. Amlinellodd fod trafodaethau pellach wedi'u cynnal â’r gwahanol gwmnïau dan sylw a bod llwybrydd newydd i'w osod ddydd Llun a ddylai ddod â'r problemau i ben.

 

Diolchodd i Craig Griffiths a'i staff am eu cymorth wrth symud y mater yn ei flaen.

 

Allgymorth a Gweithgarwch Addysgol

 

Amlinellodd y sesiynau a ddarparwyd gan wasanaeth yr ysgol yn ystod y chwarter.

 

Ffïoedd a Thaliadau ar gyfer 2023/24

 

Cyfeiriodd at y tabl ffïoedd a thaliadau ar gyfer y Gwasanaeth a manylodd ar y cynnydd canrannol a fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2023.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r ffïoedd a'r taliadau ar gyfer 2023/24.

 

Adleoli'r Archifau i Hwb Canol y Ddinas

 

Amlinellodd fod gwaith yn parhau tuag at Cam 4 RIBA. Nid yw'r gwaith gwirioneddol ar y safle wedi dechrau eto.

 

Mae addasiadau wedi'u gwneud i ddyluniad yr ystafell ddiogel, yn bennaf o ran oeri'r ystafell a'r ffaith y bydd dadleithyddion bellach yn cael eu gosod er mwyn cynorthwyo'r broses o gyflawni BS 4971, sy'n fater allweddol o ran cadw'r gallu i storio rhai cofnodion cyhoeddus.

 

Cyfeiriodd at sefydlu astudiaeth dichonoldeb i asesu ac archwilio’r potensial o ddod â nifer o gasgliadau archif, ymchwil a chyfleusterau dysgu ynghyd, mewn un ystorfa ‘addas i’r diben’, a fyddai’n gallu storio deunyddiau partneriaid lluosog sydd gyda’i gilydd yn sicrhau mynediad at ein treftadaeth a buddion hirdymor ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae'r cytundeb wedi'i ddyfarnu i'r Gwasanaeth Cadwraeth Cenedlaethol.

 

Staff

 

Manylodd fod Bethany Amos wedi'i phenodi i swydd Hyfforddai yn yr adran archifau ar gytundeb cychwynnol o 6 mis, gyda'r posibilrwydd o estyniad i hyn ym mis Medi.

 

Cyfeiriodd gyda thristwch mawr at farwolaeth Rosemary Davies, aelod o staff a fu farw’n sydyn ym mis Ionawr.

 

Croesawodd aelodau'r pwyllgor benodiad yr Hyfforddai newydd yn gynnes a gofynnwyd i'r Archifydd Sirol drosglwyddo’u cydymdeimlad dwysaf i deulu Mrs Davies.

 

Cyfarfodydd a Hyfforddiant Proffesiynol

 

Amlinellodd y gwahanol grwpiau proffesiynol a chyfarfodydd yr oedd wedi bod yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

Amlinellodd fod y gwasanaeth wedi derbyn cyfrifiadur personol pwrpasol ar gyfer hyfforddiant mewn cadwraeth ddigidol. Bydd hwn yn faes hynod bwysig wrth symud ymlaen o ystyried y symud oddi wrth gofnodion papur i gofnodion electronig.

 

Bydd yn rhaid i'r gwasanaeth addasu a datblygu eu gallu i storio cofnodion electronig yn y dyfodol.

 

Mynediad at Gasgliadau’r Archifau

 

Manylodd ar yr archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter

 

14.

Diolch.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod Sarah Perons wedi dweud y byddai'n gorffen ar y pwyllgor gan ei bod wedi ymddiswyddo o'i swydd yn Esgobaeth Llandaf.

 

Diolchodd iddi am ei chyfraniadau i'r pwyllgor.

 

Adroddodd yr Archifydd Sirol y byddai Wayne John yn ymddeol yn fuan o'i swydd fel Llyfrgellydd Sirol CNPT.

 

Diolchodd y Cadeirydd a phawb a oedd yn bresennol i Wayne am ei gyfraniadau i'r pwyllgor dros flynyddoedd lawer, a gofynnodd i'w dymuniadau gorau gael eu trosglwyddo iddo.