Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

6.

Ethol is-gadeiryddion ar gyfer blwyddyn y cynghorau 2022-2023.

Penderfyniad:

 Etholwyd y Cynghorydd W Carpenter

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Wayne Carpenter yn Is-gadeirydd Castell-nedd Port Talbot y Pwyllgor ar gyfer 2022/2023.

 

7.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y ddau awdurdod, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

8.

Cofnodion. pdf eicon PDF 315 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 30 Medi 2022 fel cofnod cywir.

 

9.

Adroddiad Archifydd y Sir. pdf eicon PDF 173 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Archifydd Sirol adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2022.

 

Y defnydd o'r gwasanaeth

 

Adroddodd am y ffigurau sy'n ymwneud â'r defnydd o'r gwasanaeth drwy ei lwyfannau amrywiol yn bersonol ac ar-lein. Mae'r niferoedd sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn parhau i gynyddu'n raddol.

 

Byddai'r ffigurau sy'n ymwneud â'r defnydd ar-lein o'r gwasanaeth ar gyfer 2021 yn cael eu dosbarthu yn dilyn y cyfarfod.

 

Dywedodd fod y broblem gyda'r band eang yn Sefydliad y Mecanyddion yn parhau, yn anffodus. Amlinellodd fod ganddo gyfarfod â Swyddogion yng CNPT yr wythnos nesaf i geisio gwneud cynnydd ar y mater.

 

Roedd staff Ancestry wedi bod i Ganolfan Ddinesig Abertawe yn ystod y chwarter i ailddigideiddio cofrestrau'r plwyf mewn manylder uwch a lliw a gedwir gan y gwasanaeth, bydd hyn yn gwella'r ddarpariaeth ar-lein ar gyfer y cyhoedd. Roedd gwirfoddolwyr o Gymdeithas Hanes Teulu Morgannwg hefyd wedi dychwelyd am y tro cyntaf ers y pandemig i barhau i fynegeio cofnodion a gedwir gan yr archifau.

 

Archif Ddarlledu Genedlaethol

 

Amlinellodd fod cynnydd ar y prosiect yn parhau i fod yn araf, mae rhywfaint o'r caledwedd wedi'i osod yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe ond mae'n annhebygol y bydd y cyfleuster ar agor i'r cyhoedd tan yr haf nesaf o bosib oherwydd yr oedi gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

Allgymorth a Gweithgarwch Addysgol

 

Amlinellodd fod 2 o'r ceisiadau am gyllid wedi bod yn llwyddiannus, ond yn anffodus, bu'r prosiect digideiddio a oedd yn ymwneud â chysylltiad Cymru â'r fasnach gaethweision yn aflwyddiannus.

 

Roedd ymweliadau ag ysgolion wedi ailddechrau am y tro cyntaf ers y pandemig gyda phedwar ymweliad yn cael eu cynnal.

 

Amlinellodd fod staff yr archifau wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda'r corff addysg rhanbarthol, Partneriaeth, ynglŷn â'r defnydd o wybodaeth a dogfennau a gedwir gan y gwasanaeth fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru newydd sy'n cael ei gyflwyno.

 

Cyfarfodydd a Hyfforddiant Proffesiynol

 

Amlinellodd y gwahanol grwpiau proffesiynol a chyfarfodydd yr oedd wedi bod yn bresennol ynddynt yn ystod y chwarter.

 

 

 

Adleoli'r Archifau

 

Dywedodd fod y cynllun ar gyfer y cyfleuster archifau newydd ar hyn o bryd ar gam 4 RIBA. Mae’r cam hwn yn ymwneud â’r dyluniad technegol a’r ffactor pwysig allweddol yw bod y cyfleuster newydd yn cydymffurfio â BSI 4971.

 

Gwnaed rhai newidiadau i'r dyluniad o ran y wal geudod o gwmpas y storfa ers y cyfarfod diwethaf yn dilyn mewnbwn gan y Gwasanaeth Cadwraeth Cenedlaethol. Hefyd, caiff dadleithydd nawr ei osod.

 

Bydd diweddariadau pellach ar gynnydd y cynllun yn cael eu darparu mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Mynediad at Gasgliadau Archifau

 

Manylodd ar yr archifau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth yn ystod y chwarter.