Agenda, penderfyniadau a cofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 108 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2024 fel cofnod cywir.

18.

Dyletswydd Arweinwyr y Grwpiau. pdf eicon PDF 119 KB

10.05 am – Y Cynghorydd Lyndon Jones

10.20 am – Y Cynghorydd Peter May

10.35 am – Y Cynghorydd Chris Holley

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd y sylwadau.

Cofnodion:

Fel rhan o'r dyletswyddau newydd ar gyfer Arweinwyr Grŵp fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, cytunodd y Pwyllgor Safonau i gwrdd ag Arweinwyr Grŵp gwleidyddol i barhau i drafod sut y maent yn cynnal safonau ymddygiad uchel o fewn eu grŵp.

 

Darparwyd y themâu i'w trafod i Arweinwyr Grŵp cyn y cyfarfod, fel yr amlinellir yn Atodiad A.

 

Oherwydd absenoldeb, byddai'r Cynghorydd Rob Stewart (Llafur) yn cael ei wahodd i fynychu cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Safonau ym mlwyddyn ddinesig 2024-2025.

 

Darparodd y Cynghorwyr May, Jones a Holley yr wybodaeth ategol ganlynol yn ystod y trafodaethau:

 

Y Cynghorydd Peter May

 

Dechreuodd y Cynghorydd May drwy ddweud bod pob aelod o'i grŵp yn ymwybodol o'r ddogfen Côd Ymddygiad ac Egwyddorion Nolan ac roeddent yn trafod unrhyw faterion posib mewn cyfarfodydd wythnosol. Ar hyn o bryd nid oedd unrhyw faterion mewn perthynas â'r Côd Ymddygiad ond yn ddamcaniaethol, ymdrechir bob tro i ddod o hyd i ddatrysiad cynnar yn hytrach na gadael i'r sefyllfa waethygu.

 

Aeth ymlaen i ddarparu enghraifft o wrando ar farn yr holl breswylwyr mewn perthynas ag ymgynghoriad ar gyfer cynllun mawr yn eu ward, drwy gynrychioli'r etholaeth fwyaf a rhoi eu barn bersonol eu hunain o'r neilltu drwy weithredu fel gwrandawyr yn ystod y broses ymgynghori. 

 

O ran hyfforddiant, roedd y Cynghorwyr wedi ymgymryd â hyfforddiant Diogelu ar-lein yn ddiweddar.  Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi darparu arweiniad i bob Cynghorydd ar ddefnyddio'r platfform "Oracle Fusion" newydd i gwblhau'r hyfforddiant ac wedi anfon nodiadau atgoffa at Arweinwyr Grwpiau mewn perthynas ag unrhyw Gynghorydd nad oedd wedi cwblhau'r hyfforddiant gorfodol. Yn ogystal, roedd hyfforddiant Craffu nad oedd yn orfodol wedi cael ei gwblhau ac roedd yr holl hyfforddiant yn cael ei ystyried yn werthfawr ac yn cael ei groesawu.

 

Roedd y Cynghorydd May wedi awgrymu i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ddiweddar fod system yn cael ei mabwysiadu lle gellid darparu dogfen i Arweinwyr Grŵp yn amlinellu rhestr o'r hyfforddiant roedd pob un o aelodau'r grŵp wedi'i gwblhau gan fod y broses ar hyn o bryd yn eithaf beichus.  Y gobaith oedd y byddai'r system Oracle newydd yn gallu darparu adroddiad o'r fath yn y dyfodol agos.

 

Y Cynghorydd Lyndon Jones

 

Dechreuodd y Cynghorydd Jones drwy ddweud ei fod yn credu bod ei grŵp bob amser yn bodloni'r safonau uchaf ac y dylid bob amser drin eraill fel y byddech yn disgwyl cael eich trin, a bod yr un peth yn wir ar gyfer swyddogion, cynghorwyr eraill a phreswylwyr.  Fodd bynnag, pe bai gan unrhyw un unrhyw broblemau, byddent yn siarad ag ef amdanynt gan fod llif 2 ffordd o fewn y Grŵp. 

 

Aeth ymlaen i ddweud y byddai'n hoffi meddwl ei fod yn rhywun y gallai pobl ymddiried ynddo.  Roedd wedi ymgymryd â’r rôl Aseswr Seneddol ac wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor Disgyblu a Seneddol, a theimlai y byddai hynny'n ei helpu i gynghori aelodau'r grŵp yn unol â hynny.

 

Dywedodd fod ffiniau gwleidyddol yn Siambr y Cyngor ond fel cynghorwyr maent yn sicrhau eu bod yn gwneud eu gorau er budd preswylwyr Abertawe.

 

Ar hyn o bryd roedd y Cynghorydd Jones yn cadeirio'r Panel Craffu Perfformiad Addysg ac er ei bod yn heriol, roedd y Cabinet hefyd yn gweithredu fel "Cyfaill Beirniadol".  Roedd y Panel yn gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Addysg a'r Aelod Cabinet dros Addysg a Dysgu, a gefnogwyd mewn adroddiad diweddar gan Estyn.

 

Dywedodd nad oedd unrhyw faterion côd ymddygiad o fewn ei grŵp ar hyn o bryd ac nid oedd unrhyw faterion wedi bod ers iddo fod yn Arweinydd Grŵp. Roedd y grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd, yn broffesiynol, yn gweithio'n galed ac yn cynnal y safonau uchaf bob amser.

 

Mewn perthynas â hyfforddiant dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod mewn cysylltiad cyson a bod ganddo berthynas dda â'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.  Cadarnhaodd fod hyfforddiant yn bwysig iawn i bawb a dywedodd ei fod wedi dysgu rhywbeth newydd gyda phob sesiwn hyfforddi a gynhaliwyd.

 

Cadarnhaodd fod digon o gefnogaeth gan y Pwyllgor Safonau ac roedd yn gallu galw ar y Swyddog Monitro am gyngor ac arweiniad yn ôl yr angen.

 

Y Cynghorydd Chris Holley

 

Dechreuodd y Cynghorydd Holley drwy egluro bod ei grŵp yn cynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol ac Aelodau o'r Grŵp Annibynnol.  Roedd system gyfeillio wedi cael ei defnyddio pan etholwyd Cynghorwyr yn yr Etholiad Llywodraeth Leol diwethaf, lle byddai Cynghorydd newydd yn "cysgodi" Cynghorydd mwy profiadol.  Gallai'r broses ddysgu gymryd cryn dipyn o amser oherwydd natur amrywiol y rôl ac yn aml gallai fod yn eithaf gwahanol i'r hyn a ddisgwyliwyd gan yr ymgeisydd llwyddiannus.

 

O ran ymddygiad, roedd aelodau'r Grŵp yn ymwybodol o'r rheolau a'r hyn oedd yn ddisgwyliedig ganddynt.  Roedd y grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn deall bod hierarchaeth o fewn y grŵp.

 

Sicrhaodd y Cynghorydd Holley ei fod yn cysylltu'n unigol ag aelodau o'i grŵp mewn perthynas â materion côd ymddygiad a chadarnhaodd y dylid trin pawb â pharch.  O ganlyniad, nid oedd unrhyw faterion côd ymddygiad wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf.

 

O ran hyfforddiant, roedd y Cynghorydd Holley mewn cysylltiad â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ynghylch unrhyw hyfforddiant heb ei gwblhau. Roedd rhai aelodau'n meddwl bod y system Oracle newydd yn anodd ei defnyddio, ond roedd nodiadau arweiniol wedi'u darparu.  Roedd yn teimlo bod y rhaglen hyfforddi'n ddigonol, fodd bynnag, roedd y rhaglen hyfforddiant sefydlu ar gyfer Cynghorwyr newydd yn eithaf heriol, ynghyd â'r hyfforddiant ar gyfer Llywodraethwyr newydd.

 

Teimlai nad oedd rhai Cynghorwyr yn deall rôl y Pwyllgor Safonau'n llawn, ond gwnaeth y Swyddog Monitro ymdrin â hyn yn ystod yr hyfforddiant Côd Ymddygiad, a oedd wedi cael ei gofnodi ac a oedd ar gael i bob Cynghorydd ei weld.

 

Diolchodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor Safonau, i'r 3 Arweinydd Grŵp am eu presenoldeb.  Byddai'r Pwyllgor yn myfyrio ar y sylwadau dros yr wythnosau nesaf.

19.

Adolygu Cynlluniau Hyfforddi Cynghorau Cymuned a Thref. pdf eicon PDF 116 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Darparodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad er mwyn adolygu cyhoeddiad y Cynlluniau Hyfforddi Cyngor Cymuned a Thref.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

20.

Torri Cod Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 103 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad "er gwybodaeth" i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Safonau am benderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â honiadau bod Cynghorwyr Awdurdodau Lleol a Chynghorwyr Cymuned/Tref wedi torri'r Côd Ymddygiad.