Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2023 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2022-2023. PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau
2022-2023. Disgrifiodd yr adroddiad sut
y cyflawnwyd swyddogaethau'r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn flaenorol. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r adroddiad a'i anfon ymlaen i'r cyngor er gwybodaeth. |
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2022/2023. PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad "Er Gwybodaeth" mewn
perthynas ag Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022/2023 Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru. |
|
Adolygiad o'r Pwyllgor Safonau - Gweithdrefn Gwrandawiadau. PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwnaeth y Pwyllgor Safonau nifer o argymhellion i wella'r Weithdrefn Gwrandawiadau. Byddai'r argymhellion yn cael eu hymgorffori yn y Weithdrefn Gwrandawiadau a'u dosbarthu i'r Pwyllgor drwy e-bost. Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad er mwyn adolygu Gweithdrefn
Gwrandawiadau'r Pwyllgor Safonau. Gwnaeth y
Pwyllgor Safonau sawl argymhelliad i wella'r Weithdrefn Gwrandawiadau. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
adroddiad yn amodol ar y newidiadau canlynol: a)
Ychwanegu
brawddeg ynghylch datgelu dogfennau ar gyfer bwndel y Pwyllgor o fewn 5 niwrnod
gwaith clir cyn cyhoeddi'r pecyn agenda; b)
Ychwanegu
paragraff sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cyfranogwr gadarnhau bod eu datganiad
yn wir hyd eithaf eu gwybodaeth; c)
Diwygio
paragraff 13.1 i ddarllen "Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi ei benderfyniad ar
y diwrnod lle bo modd. Penderfyniad
ysgrifenedig llawn gyda rhesymau sy'n cefnogi'r penderfyniad..."; d)
Ychwanegu
rhifau tudalen a rheoli fersiynau; e)
Ychwanegu
paragraff sy'n ymwneud â "Chynrychiolaeth." 2) Dosbarthu'r Weithdrefn Gwrandawiadau diwygiedig i'r Pwyllgor drwy e-bost. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad "er gwybodaeth" i roi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Safonau am benderfyniadau Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â honiadau bod Cynghorwyr
Awdurdodau Lleol a Chynghorwyr Cymuned/Tref wedi torri'r Côd
Ymddygiad. |
|
Cynllun Gwaith 2023-2024. PDF 121 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2023-2024. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cynllun gwaith; 2) Anfon pynciau ar gyfer Cynllun Gwaith 2024-2025 at y Cadeirydd cyn y cyfarfod nesaf. |