Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol Jill Burgess yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2019-2020.

 

Bu Jill Burgess (Cadeirydd) yn llywyddu

2.

Ethol is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol Margaret Williams yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2019-2020.

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd Mike Lewis, Aelod Annibynnol, gysylltiad personol â Chofnod Rhif 7 "Adroddiad Blynyddol a llythyr Blynyddol ar gyfer 2019/19 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru" fel Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 215 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2019 fel cofnod cywir.

5.

Cyfarfod blynyddol ag arweinwyr y grwpiau gwleidyddol, cadeiryddion pwyllgorau a'r Prif Weithredwr.

Y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd y Cyngor, i'r Pwyllgor Safonau. Cafodd ei gyflwyno i aelodau'r Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Stewart y Pwyllgor am ei wahodd.

 

Y themâu ar gyfer trafodaeth, a ddosbarthwyd i aelodau ymlaen llaw, oedd:

 

1)        A ydych chi'n ystyried ei fod yn addas i gael Côd Ymddygiad yng Nghymru sy'n gymwys i bob cynghorydd ac aelod cyfetholedig?

 

2)        Beth yn eich tyb chi yw rôl y Pwyllgor Safonau?

 

3)        A oes unrhyw waith, yn eich barn chi, y dylai'r Pwyllgor Safonau fod yn ei gyflawni dros y flwyddyn nesaf?

 

4)        Sut gall arweinwyr grwpiau gwleidyddol/cadeiryddion pwyllgorau hyrwyddo safonau a llywodraethu da trwy arweinyddiaeth?

 

5)        Sut gall y Pwyllgor Safonau fod yn fwy gweithredol wrth hyrwyddo ymddygiad moesegol ymhlith cynghorwyr/aelodau cyfetholedig?

 

6)        Mae'r Ombwdsmon, Panel Dyfarnu Cymru a'r Uchel Lys yn credu y dylai gwleidyddion (ac uwch-swyddogion mewn rhai achosion) fod yn groendew a bod cellwair gwleidyddol yn rhan o'r byd gwleidyddol. Beth yw eich barn chi a sut byddech chi fel Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol/Cadeiryddion Pwyllgorau yn sicrhau nad yw'r llinell yn cael ei chroesi.

 

7)        Beth yw eich barn ar hyfforddiant côd ymddygiad yr awdurdod? Sut gellir ei wella er mwyn codi safonau moesegol cynghorwyr/aelodau cyfetholedig?

 

8)        Mae hyfforddi cynghorwyr/aelodau cyfetholedig yn hollbwysig. Sut gall y Pwyllgor Safonau fynd i'r afael â'r rheini nad ydynt yn ystyried bod hyfforddiant yn bwysig?

 

9)        Nid yw Proses Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP) yr Awdurdod (Cynghorydd yn erbyn Cynghorydd) wedi'i defnyddio eto. Pe bai anghydfod, a fyddech yn annog eich plaid i ddefnyddio'r broses? A ydych yn ystyried bod prinder yr atgyfeiriadau i'r IDRP yn dangos bod y cynghorwyr yn cydymffurfio â'r côd?

 

10)      Beth yw rôl y Pwyllgor Safonau yn y dyfodol?

 

Amlinellwyd y canlynol gan y Cynghorydd Stewart:

 

·                 Roedd o'r farn ei bod hi’n dal yn briodol cael côd ymddygiad yng Nghymru, a oedd yn berthnasol i bob cynghorydd ac aelod cyfetholedig i gynnal y safonau ymddygiad gorau mewn bywyd cyhoeddus. Dywedodd y Pwyllgor fod gan y Blaid Lafur ei chôd ymddygiad ei hun yr oedd yn ofynnol i aelodau ei phlaid ei harwyddo. Adolygwyd hyn bob 5 mlynedd;

·                 Ystyriodd y Pwyllgor Safonau unrhyw doriadau o ran y côd ymddygiad y cyfeiriwyd atynt i'w hystyried. Roedd yn ymwybodol fodd bynnag, nad oedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) wedi cyfeirio unrhyw achosion i’r Pwyllgor Safonau eu hystyried;

·                 Ni allai gofio’r Broses Datrys Anghydfodau Mewnol a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe ar ôl cael ei defnyddio dros y blynyddoedd diwethaf.  Teimlai fod hwn yn brawf gwirioneddol o ymddygiad gwell cynghorwyr dros y blynyddoedd diwethaf;

·                 Holodd y Cynghorydd Stewart a fyddai'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ychwanegu rhywfaint o arweiniad pellach i'r Broses Datrys Anghydfodau Mewnol pe bai anghydfod yn codi rhwng aelodau o'r un grwpiau gwleidyddol;

·                 Gofynnodd hefyd i'r Pwyllgor ystyried a ellid gofyn i’r sawl sy’n ymgeisio mewn Etholiadau Llywodraeth Leol ymuno â'r côd ymddygiad neu safon debyg cyn cael eu hethol;

·                 Gallai Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol/Cadeiryddion Pwyllgorau hyrwyddo safonau a llywodraethu da drwy arweinyddiaeth gan arwain trwy esiampl a ‘byw’ egwyddorion y côd. Teimlai iddo wneud hyn fel Arweinydd y Cyngor ac fel Arweinydd ei grŵp gwleidyddol. Cynorthwyodd “chwipiau'r" grwpiau gwleidyddol yn y broses hefyd;

·                 Roedd nifer o gynghorwyr hefyd yn gallu mynd i'r Rhaglen Arweinyddiaeth Flynyddol a ddarperir trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu a gwella sgiliau arweinyddiaeth;

·                 Teimlodd fod y Pwyllgor Safonau yn ddigon gweithgar wrth hyrwyddo ymddygiad moesegol ymhlith Cynghorwyr/Aelodau Cyfetholedig, ond awgrymodd y dylid cynnig hyfforddiant gloywi ar y côd ymddygiad i gynghorwyr tua 18 mis i 2 flynedd ar ôl cael eu hethol i atgyfnerthu'r safonau. Hefyd, awgrymodd fod e-ddysgu yn cael ei ehangu lle bo hynny'n bosib;

·                 Mewn perthynas â sylwadau y dylai gwleidyddion (ac mewn rhai achosion uwch swyddogion) fod yn groendew a bod tynnu coes gwleidyddol yn rhan o’r byd hwnnw, nododd na fyddai eisiau mygu trafodaeth gadarn, fodd bynnag ni ddylai trafodaeth wleidyddol fyth droi yn drafodaeth bersonol. Teimlai fod perthnasoedd cyfredol rhwng cynghorwyr yn Abertawe yn caniatáu trafodaeth wleidyddol dda;

·                 Roedd o'r farn bod mwyafrif y cynghorwyr yn croesawu hyfforddiant fel elfen bwysig o'u datblygiad personol a bod presenoldeb rhesymol dda mewn sesiynau. Roedd rhai pynciau wedi'u mandadu a hysbyswyd Arweinwyr Grwpiau am ddiffyg presenoldeb;

·                 Fel y soniwyd yn flaenorol, nid oedd Proses Datrys Anghydfodau Mewnol yr awdurdod (IDRP) (Cynghorydd yn erbyn Cynghorydd) wedi cael ei defnyddio eto, ond byddai'n annog ei blaid i ddefnyddio'r broses. Cytunodd fod y diffyg achosion i ddefnyddio'r IDRP yn dangos bod cynghorwyr yn ymddwyn yn unol â'r côd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Stewart am ei sylwadau. Ystyriodd y Pwyllgor ei awgrymiadau i wella eu rôl o fewn yr awdurdod.

6.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2018-2019. pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn nodi gwaith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2018-2019.

 

Byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i' r cyngor ar 27 Tachwedd 2019 gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

Awgrymwyd y gallai nifer yr achosion ym mharagraff 6.5.1 (a) a (b) gael eu newid yn eiriau yn hytrach na’n rhifau.

 

Penderfynwyd anfon Adroddiad Blynyddol diwygiedig y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2018-2019 at y cyngor ar 27 Tachwedd 2019.

7.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau - Cyhoeddus Cymru 2018/19. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) ar gyfer 2018/2019.

 

Yn ogystal, roedd ei Lythyr Blynyddol i'r cyngor yn atodedig yn Atodiad B.

 

Nodwyd bod cynnydd o 4% wedi bod yn nifer y cwynion Côd Ymddygiad (270 i 282) o'i cymharu â 2017/18. Bu cynnydd o 14% yn y cwynion a wnaed yn erbyn Cynghorwyr Cymuned a Thref. 

 

Roedd gostyngiad bach pellach i'r cwynion a oedd yn ymwneud â methiant i ddatgelu neu gofrestru buddion o 19% yn 2017/18 i 17%:

 

·                 Roedd 13% yn ymwneud â methiant i weithredu gydag uniondeb;

·                 Roedd 9% yn ymwneud â methiant i gynnal y gyfraith;

·                 Roedd 7% yn ymwneud ag atebolrwydd a didwylledd;

 

Nododd y PSOW bryder hefyd ynghylch y cynnydd mewn cwynion Cynghorwyr Cymuned a Thref, yr oedd llawer ohonynt yn honni methiant i hyrwyddo cyfle cyfartal a pharch. Nodwyd bod cynnydd wedi bod yn nifer y cwynion gan glercod ac aelodau staff cynghorau o'r fath.

 

Holwyd am y ffigurau ar gyfer Abertawe yn Nhabl 1.3b a thabl D ar dudalen 112 y llythyr, gan nad oeddent yn gyson â'i gilydd. Yn ogystal, nid oedd y ffigurau a amlinellwyd yn Nhabl B y llythyr yn adio i greu'r ffigur o 83 ar gyfer Abertawe yn Nhabl A. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'n egluro'r ffigurau gyda'r PSOW.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

8.

LLyfr Achosion Cod Ynddygiad. pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am Lyfr Achosion Côd Ymddygiad diweddaraf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Atodwyd y rhifynnau canlynol yn Atodiad A:

 

·                 Rhifyn 19 Chwefror 2019 - o fis Hydref i fis Rhagfyr 2018;

·                 Rhifyn 20 Mai 2019 - o fis Ionawr i fis Mawrth 2019;

·                 Rhifyn 21 Medi 2019 - o fis Ebrill i fis Mehefin 2019;

·                 Rhifyn 22 Hydref 2019 - o fis Gorffennaf i fis Medi 2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r adroddiadau;

2)              Dosbarthu'r adroddiadau i'r holl gynghorwyr.

9.

Torri Cod Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC). pdf eicon PDF 200 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y pwyllgor am y penderfyniadau a wnaed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â honiadau bod cynghorwyr awdurdodau lleol wedi torri'r Côd Ymddygiad.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

10.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

11.

Ceisiadau am Ollyngiad.

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried cais am oddefeb mewn perthynas â'r Cynghorydd A Pugh.

 

Wrth ystyried caniatáu goddefebau, ceisiodd y pwyllgor gydbwyso budd y cyhoedd wrth atal aelodau â chysylltiadau rhagfarnol rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau, yn erbyn budd y cyhoedd o gael grŵp cynrychiadol o aelodau'r awdurdod yn gwneud penderfyniadau.

 

Bydd methu caniatáu goddefebau sy'n golygu na fydd cworwm gan awdurdod neu bwyllgor, yn gallu bod yn sail i ganiatáu goddefebau.

 

Penderfynwyd:

 

1)        Rhoi'r oddefeb ganlynol i'r Cynghorydd A Pugh dan baragraffau 2 (d) a (e) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 (fel y'i diwygiwyd):

 

i)                Aros, siarad a phleidleisio (ond nid mewn perthynas â chyflogaeth ei merch) wrth ystyried faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant a Theuluoedd.

 

ii)              NI fydd y goddefeb yn gymwys os yw'r cynghorydd yn dod yn ymwybodol o unrhyw effaith ar berson cysylltiedig (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â'i ferch ac sy'n benodol iddi.

12.

Cynllun Gwaith (Trafodaeth)

Cofnodion:

Arweiniodd y swyddog Monitro drafodaeth ar eitemau Cynllun Gwaith ar gyfer y dyfodol i'w hystyried gan y Pwyllgor Safonau.

 

Penderfynwyd y dylai Cynllun Gwaith y dyfodol gynnwys;

 

1)              Ystyriaeth i ddechrau Cyfarfodydd Blynyddol ag Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol, Cadeiryddion y Pwyllgorau a Phrif Weithredwr. Ystyried cynllunio taflen grynodeb o drafodaethau a gynhaliwyd a’i hyrwyddo i awdurdodau lleol fel "arfer gorau";

2)              Arweiniad ar y Côd Ymddygiad neu safon debyg ar gyfer ymgeiswyr Etholiad Llywodraeth Leol;

3)              Gwella'r Broses Datrys Anghydfodau mewnol;

4)              Adolygiad o'r Polisi Ymddygiad Afreolus.