Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

19.

Cofnodion. pdf eicon PDF 122 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod

blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir.

 

Materion yn Codi:

 

Cofnod 16 - Llyfr Achosion Côd Ymddygiad

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei bod wedi ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) yn dilyn trafodaethau yn y cyfarfod diwethaf i holi sut y gallai'r Pwyllgor Safonau ehangu'i rôl er mwyn cynorthwyo'r broses gwynion.  Hyd yn hyn, nid oedd hi wedi derbyn ymateb ond byddai'n cymryd camau dilynol.

 

Dywedodd yr Aelod Cyfetholedig Mike Lewis ei fod wedi cael trafodaeth anffurfiol â'r PSOW pan oedd y ddau ohonynt yn bresennol mewn digwyddiad diweddar.  Ailadroddodd y PSOW ei safbwynt, sef y byddai'n ymchwilio'n briodol petai cwynion a wnaed er budd y cyhoedd.

 

Bu Jill Burgess (Cadeirydd) yn llywyddu

20.

Llyfr Achosion y Côd Ymddygiad. pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am Lyfr Achosion Côd Ymddygiad diweddaraf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Roedd y rhifyn diweddaraf, sef rhifyn 18 Hydref 2018, yn cynnwys y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2018 ac fe'i hatodwyd yn Atodiad A.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid nodi'r adroddiad;

2)              Dosbarthu'r adroddiad i'r holl gynghorwyr.

21.

Torri Côd Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC). pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y pwyllgor am y penderfyniadau a wnaed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â honiadau bod cynghorwyr awdurdodau lleol wedi torri'r Côd Ymddygiad.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

22.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

23.

Ceisiadau am Ollyngiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad er mwyn ystyried ceisiadau am oddefebau mewn perthynas â'r Cynghorwyr E J King a J A Raynor.

 

Wrth ystyried caniatáu goddefebau, ceisiodd y pwyllgor gydbwyso budd y cyhoedd wrth atal aelodau â chysylltiadau rhagfarnol rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau, yn erbyn budd y cyhoedd o gael grŵp cynrychiadol o aelodau'r awdurdod yn gwneud penderfyniadau.

 

Bydd methu caniatáu goddefeb sy'n golygu na fydd cworwm gan awdurdod neu bwyllgor, yn gallu bod yn sail i ganiatáu goddefeb.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Rhoi'r oddefeb ganlynol i'r Cynghorydd E J King dan baragraffau 2 (d) a (e) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 (fel y'i diwygiwyd):

 

i)                 I aros a siarad (ond nid mewn perthynas â chyflogaeth ei ŵr) ond i beidio â bwrw pleidlais wrth ystyried cyllideb yr awdurdod.

 

2)              Rhoi'r oddefeb ganlynol i'r Cynghorydd J A Raynor dan baragraffau 2 (d) a (f) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 (fel y'i diwygiwyd):

 

i)                 I aros a siarad ond i beidio â bwrw pleidlais ar faterion sy'n ymwneud â phenodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol.

 

ii)               Ni fydd yr oddefeb hon yn gymwys os yw'r Cynghorydd yn ymwybodol o unrhyw effaith ar berson sydd â chysylltiad agos (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â phenodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol ac sy'n benodol iddo.