Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar Gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Jill Burgess yn Gadeirydd ar gyfer
Blwyddyn Ddinesig 2018/2019. |
|
Ethol Is-Gadeirydd ar Gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Margaret Williams yn Is-gadeirydd y
Pwyllgor Safonau ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019. Margaret Williams (Is-gadeirydd) fu'n llywyddu |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2018 fel cofnod cywir. |
|
Cyfarfod blynyddol ag arweinwyr y grwpiau gwleidyddol, cadeiryddion pwyllgorau a'r Prif Weithredwr. 10.15 am - Councillors
Peter Black & Paul Lloyd Cofnodion: Adroddodd yr
Is-gadeirydd fod y Pwyllgor Safonau yn gwahodd arweinydd pob plaid wleidyddol,
y Prif Weithredwr a chadeiryddion dethol i'r pwyllgor yn flynyddol er mwyn
trafod eu dealltwriaeth o waith y pwyllgor a'u barn amdano. Oherwydd
etholiadau llywodraeth leol 2017 a dyfodiad cynghorwyr newydd, gohiriwyd y
gwahoddiadau er mwyn caniatáu i'r cynghorwyr ymgartrefu yn eu rolau newydd. Y themâu ar gyfer
trafodaeth, a chafwyd eu hanfon cyn y cyfarfod, oedd: 1) A
ydych chi'n ystyried ei fod yn addas i gael Côd
Ymddygiad yng Nghymru sy'n gymwys i bob cynghorydd ac aelod cyfetholedig? 2) Beth
yn eich tyb chi yw rôl y Pwyllgor Safonau? 3) A oes unrhyw waith, yn eich barn chi, y dylai'r Pwyllgor
Safonau fod yn ei gyflawni dros y flwyddyn nesaf? 4) Sut gall arweinwyr pleidiau gwleidyddol/cadeiryddion pwyllgorau
hyrwyddo safonau a llywodraethu da trwy arweinyddiaeth? 5) Sut gall y Pwyllgor Safonau fod yn fwy gweithredol wrth
hyrwyddo ymddygiad moesegol ymhlith cynghorwyr/aelodau cyfetholedig? 6) Mae'r Ombwdsmon, Panel Dyfarnu Cymru a'r Uchel Lys yn credu y
dylai gwleidyddion (ac uwch-swyddogion mewn rhai achosion) fod yn groendew a
bod cellwair gwleidyddol yn rhan o'r byd gwleidyddol. Beth yw eich barn ar hyn
a sut byddech chi, fel arweinydd grŵp gwleidyddol, yn sicrhau nad yw'r
llinell yn cael ei chroesi? 7) Beth
yw eich barn ar hyfforddiant côd ymddygiad yr
awdurdod? Sut gellir ei wella er mwyn codi safonau moesegol cynghorwyr/aelodau
cyfetholedig? 8) Mae
hyfforddi cynghorwyr/aelodau cyfetholedig yn hollbwysig. Sut gall y Pwyllgor
Safonau fynd i'r afael â'r rhai nad ydynt yn ystyried bod hyfforddiant yn
bwysig? 9) Nid yw Proses Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP) yr Awdurdod
(Cynghorydd yn erbyn Cynghorydd) wedi'i defnyddio eto. Pe bai anghydfod, a
fyddech yn annog eich plaid i ddefnyddio'r broses? A ydych yn ystyried bod
prinder yr atgyfeiriadau i'r IDRP yn dangos bod y cynghorwyr yn cydymffurfio
â'r côd? 10) Beth fydd rôl y Pwyllgor Safonau yn y dyfodol?
Croesawodd yr
Is-gadeirydd y cynghorwyr Peter Black, Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd a Penny Matthews, Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a
Statudol i'r cyfarfod. Amlinellwyd y
canlynol ganddynt: ·
1) Teimlodd
y ddau ei bod hi'n addas o hyd i gael Côd Ymddygiad yng
Nghymru sy'n gymwys i bob cynghorydd ac aelod cyfetholedig; ·
Nodwyd
ganddynt mai rôl y Pwyllgor Safonau oedd rheoli'r Côd
Ymddygiad a hyrwyddo a diogelu gonestrwydd y cynghorwyr a'i staff; ·
Awgrymodd
y cynghorydd P Matthews y gallai'r Pwyllgor Safonau ystyried archwilio'r
cynghorau cymuned a thref; ·
Mae'r
mwyafrif o arweinwyr pleidiau'n treulio llawer o amser yn ymdrin â materion
disgyblu a bydd y mwyafrif yn ymdrechu i ddatrys unrhyw faterion perthnasol
drwy lywodraethu da; ·
Gall
arweinwyr pleidiau/cadeiryddion hyrwyddo safonau a llywodraethu da drwy arwain
drwy esiampl a gwneud penderfyniadau da a thrwy fod yn agored ac yn dryloyw; ·
Nid
oeddent yn ymwybodol o unrhyw ymddygiad anfoesegol ymhlith cynghorwyr/aelodau
cyfetholedig; ·
Cytunwyd
â barn y PSOW, hynny yw, dylai'r rhai yn y byd gwleidyddol fod yn
groendew. Mae gan lawer ohonynt farn
gref a gall rhai groesi'r llinell ambell waith ond dylid ymdrin â'r rhai sydd
wedi mynd yn rhy bell yn briodol gan y PSOW; ·
Mae'r
hyfforddiant Côd Ymddygiad yn ardderchog, serch
hynny, awgrymwyd y dylid cynnal hyfforddiant gloywi ar gyfer cynghorwyr mewn
perthynas â datgan cysylltiadau; ·
Awgrymwyd
hefyd y dylid datblygu hyfforddiant ar-lein neu hyfforddiant sy'n fwy
rhyngweithiol oherwydd gall hyfforddiant sy'n cael ei gyflwyno drwy
gyflwyniadau Powerpoint fod yn ddigyswllt ar gyfer
cynghorwyr; ·
Trafodwyd
hyfforddiant gorfodol i'r rhai sydd ar y Pwyllgor Trwyddedu neu'r Pwyllgor
Cynllunio a'r anawsterau ynghylch cynnal hyfforddiant arall a ystyrir yn
orfodol; ·
Awgrymodd
y Cynghorydd P Black y gallai cynghorwyr gael hyfforddiant 'sgiliau' penodol
megis sut i graffu ar ddogfennau a'u cwestiynu neu sut i reoli llwyth gwaith
cynghorydd; ·
Cytunwyd
bod diffyg atgyfeiriadau i'r PSOW yn dangos bod y cynghorwyr yn ymddwyn o fewn
y Côd, fodd bynnag, roedd yn aneglur a allai
cynghorwyr ddod o hyd i fanylion y Procotol Datrys
Anghydfodau Mewnol; Diolchodd yr Is-gadeirydd i'r ddau gynghorydd am fod yn bresennol. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2017-2018. PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amlinellodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau
2017-2018. Mae'r adroddiad yn amlinellu gwaith y Pwyllgor Safonau yn ystod 2017-2018. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr hoffai gynnwys paragraff ychwanegol er mwyn amlinellu gwybodaeth sy'n nodi nad oes rhaid i'r awdurdod ddefnyddio'r Protocol Datrys Anghydfodau Lleol i Gynghorwyr. Penderfynwyd: 1) Ychwanegu paragraff ychwanegol i amlinellu gwybodaeth am y Protocol Datrys Anghydfodau Lleol i Gynghorwyr; 2) Anfon yr adroddiad ymlaen i'r cyngor er gwybodaeth. |
|
Adroddiad am R (Harvey) yn erbyn Cyngor Tref Ledbury. PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad "er gwybodaeth" i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Pwyllgor Safonau am benderfyniad diweddar yn yr Uchel Lys sy'n amlinellu
sut y dylai'r cyngor ymdrin â chwyn yn erbyn cynghorydd. Roedd yr achos yn
ymwneud â chynghorydd a oedd wedi gwasanaethu fel cynghorydd yng Nghyngor Tref Ledbury ers 2011. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Llyfr Achosion y Côd Ymddygiad. PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y
Swyddog Monitro yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am Lyfr Achosion Côd Ymddygiad diweddaraf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. Roedd y rhifyn
ddiweddaraf, sef rhifyn 16 Mai 2018, yn cynnwys y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis
Mawrth 2018 ac fe'i hatodwyd at Atodlen A. Penderfynwyd 1)
Y
dylid nodi'r adroddiad; 2) Dosbarthu'r adroddiad i'r holl gynghorwyr. |
|
Torri Côd Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC). PDF 92 KB Cofnodion: Dywedodd y
Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor am y penderfyniadau a wnaed gan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â honiadau bod cynghorwyr yr
awdurdodau lleol a chynghorwyr cymuned a thref wedi torri'r Côd
Ymddygiad. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Cynhadledd Safonau Cymru 2018. (Llafar) Cofnodion: Dywedodd y
Swyddog Monitro y cynhelir Cynhadledd Safonau Cymru 2018 ym Mhrifysgol
Aberystwyth ddydd Gwener 14 Medi 2018.
Gwahoddwyd hyd at bedwar cynrychiolydd a fyddai'n cynnwys y Swyddog
Monitro neu'r Dirprwy Swyddog Monitro. Mae sawl aelod
cyfetholedig wedi mynegi barn yr hoffent fod yn bresennol. Penderfynwyd y dylai Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd e-bostio'r Aelodau Cyfetholedig i gadarnhau eu presenoldeb. |
|
Cynllun Gwaith 2018-2019. (Llafar) Cofnodion: Dywedodd Pennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd y byddai'r cyfweliadau ag Arweinwyr Pleidiau,
Cadeiryddion a'r Prif Weithredwr yn parhau ar gyfer yr ychydig gyfarfodydd
nesaf. Roedd Arweinydd y Cyngor wedi
derbyn y gwahoddiad i fod yn bresennol yn y cyfarfod nesaf. Penderfynwyd y byddai'r Prif Weithredwr yn cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod nesaf hefyd. |