Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2018 fel cofnod cywir. Materion a
godwyd: Eitem 27 -
Cynllun gwaith 2017 - 2018 Hysbysodd y Swyddog Monitro'r pwyllgor ei fod wedi ysgrifennu'n ffurfiol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) yn ei wahodd i gyfarfod o’r Pwyllgor Safonau yn y dyfodol. Maes o law, byddai'n diweddaru'r pwyllgor ynglŷn â'i ymateb. Cadarnhaodd hefyd y byddai PSOW yn mynd i'r gynhadledd safonau ym mis Medi. |
|
Cyfarfod blynyddol ag arweinwyr y grwpiau gwleidyddol, cadeiryddion pwyllgorau a'r Prif Weithredwr. 09.45 am - Councillor
Lyndon Jones 10.15 am - Councillor Chris
Holley Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Safonau yn gwahodd arweinydd pob
grŵp gwleidyddol, y Prif Weithredwr a chadeiryddion dethol i'r pwyllgor yn
flynyddol er mwyn trafod eu dealltwriaeth o waith y pwyllgor a'u barn amdano. Oherwydd
etholiadau llywodraeth leol 2017 a dyfodiad cynghorwyr newydd, gohiriwyd y
gwahoddiadau er mwyn caniatáu i'r cynghorwyr ymgartrefu yn eu rolau newydd. Y themâu ar gyfer
trafodaeth, a chafwyd eu hanfon cyn y cyfarfod, oedd: 1) A ydych chi'n ystyried ei fod yn addas i
gael Côd Ymddygiad yng Nghymru sy'n gymwys i bob
cynghorydd ac aelod cyfetholedig? 2) Beth
yn eich tyb chi yw rôl y Pwyllgor Safonau? 3) A oes unrhyw waith, yn eich barn chi, y dylai'r Pwyllgor
Safonau fod yn ei gyflawni dros y flwyddyn nesaf? 4) Sut gall arweinwyr grwpiau gwleidyddol/cadeiryddion pwyllgorau
hyrwyddo safonau a llywodraethu da trwy arweinyddiaeth? 5) Sut
gall y Pwyllgor Safonau fod yn fwy gweithredol wrth hyrwyddo ymddygiad moesegol
ymhlith cynghorwyr/aelodau cyfetholedig? 6) Mae'r
Ombwdsmon, Panel Dyfarnu Cymru a'r Uchel Lys wedi penderfynu bod gwleidyddion
(ac mewn rhai achosion uwch-swyddogion) yn groendew a bod direidi gwleidyddol
yn rhan o'r byd gwleidyddol. Beth yw eich barn ar hyn a sut byddech chi, fel
arweinydd grŵp gwleidyddol, yn sicrhau nad yw'r llinell yn cael ei
chroesi? 7) Beth
yw eich barn ar hyfforddiant côd ymddygiad yr
awdurdod? Sut gellir ei wella er mwyn codi safonau moesegol cynghorwyr/aelodau
cyfetholedig? 8) Mae
hyfforddi cynghorwyr/aelodau cyfetholedig yn hollbwysig. Sut gall y Pwyllgor
Safonau fynd i'r afael â'r rhai nad ydynt yn ystyried bod hyfforddiant yn
bwysig? 9) Nid yw Proses Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP) yr Awdurdod
(Cynghorydd yn erbyn Cynghorydd) wedi'i defnyddio eto. Pe bai anghydfod, a
fyddech yn annog eich plaid i ddefnyddio'r broses? A ydych yn ystyried bod
prinder y gyfeiriadau i'r IDRP yn dangos bod y cynghorwyr yn cydymffurfio â'r côd? 10) Beth fydd rôl y
Pwyllgor Safonau yn y dyfodol? Croesawodd y
Cadeirydd y Cynghorydd Lyndon Jones, Arweinydd y Grŵp Ceidwadol, i'r
cyfarfod. Amlinellodd y Cynghorydd Jones y canlynol: -
Cytunodd
ei fod yn dal i fod yn briodol i gael Côd Ymddygiad
yng Nghymru. Er mwyn cefnogi'r côd, mae'r Grŵp
Ceidwadol hefyd wedi mabwysiadu "Addewid Abertawe" ar safonau.
Roeddent yn teimlo bod hyn yn anfon neges gadarnhaol o'u hymrwymiad i gynnal
safonau uchel. -
Ei
ddealltwriaeth ef o rôl y Pwyllgor Safonau oedd sicrhau bod safonau'r
cynghorwyr yn cael eu cynnal ac y byddai’r pwyllgor yn ymchwilio i unrhyw
doriadau y cyfeirir atynt. -
Cyfrifoldeb
y cynghorwyr unigol a'r arweinyddion grŵp yw sicrhau bod safonau'n cael eu
cynnal. -
Nid
yw'r Grŵp Ceidwadol wedi dod ar draws unrhyw faterion o ran safonau/côd ymddygiad/llywodraethu gwael. Yn ei brofiad ef, roedd
yr holl gynghorwyr a’r staff yn groesawgar ac yn barod eu cymwynas. -
Oherwydd yr achosion yn ymwneud â’r cyfryngau
cymdeithasol yn y wasg yn ddiweddar, awgrymodd y dylai hyfforddiant cyfryngau
cymdeithasol gael ei ddarparu. -
Dylai arweinwyr grwpiau a chadeiryddion pwyllgorau
hyrwyddo safonau a llywodraethu da trwy arweinyddiaeth gref. -
Roedd
hyfforddiant sefydlu'n allweddol a dylai bob math o hyfforddiant, gan gynnwys
hyfforddiant gloywi, gael eu hannog yn gryf. Dylid gallu gweld bod cynghorwyr
yn cynnal safonau da. Yn ychwanegol at hyn, roedd angen diweddariadau rheolaidd
am newidiadau deddfwriaethol. -
Roedd
arweinwyr grŵp (gan ei gynnwys ef ei hun) yn gyfrifol am annog aelodau o'u
grwpiau i fynd i sesiynau hyfforddiant perthnasol. -
Dylai'r Pwyllgor Safonau barhau i ddiweddaru cynghorwyr
ar Lyfr Achosion Côd Ymddygiad PSOW a dogfennaeth
berthnasol arall er mwyn sicrhau'r safonau gofynnol ar gyfer cynghorwyr. -
Cadarnhaodd,
er bod angen bod yn groendew ym maes gwleidyddiaeth, fod y mwyafrif o
gynghorwyr yn ceisio eu gorau dros eu hetholwyr. -
Roedd
trafodaethau gwleidyddol yn iachus ond roedd angen eu cadw o fewn Siambr y
Cyngor - mae parch yn allweddol. -
Mae
aelodau’r Grŵp Ceidwadol wedi gweithio'n galed iawn yn eu pwyllgorau
penodol ac wedi cwrdd ag aelodau'r Cabinet ar ystod eang o faterion. Mae'r
system yn gweithio'n dda. -
Rhaid
canmol y cynghorwyr presennol nad yw'r proses Datrys Anghydfodau Mewnol wedi'i
defnyddio eto. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cynghorydd Jones am ei bresenoldeb. Yna croesawodd y
Cadeirydd y Cynghorydd Chris Holley, Arweinydd
Grŵp Gwleidyddol y Democratiaid Rhyddfrydol a Grŵp Annibynnol y
Gwrthbleidiau i'r cyfarfod.
Amlinellodd y Cynghorydd Holley y canlynol: -
Mae’n fwy hanfodol cael Côd
Ymddygiad yng Nghymru nawr nag y mae wedi bod ers nifer o flynyddoedd. Mae
llywodraeth leol yn newid yn gyflym ac mae cyni yn dod yn fater mwyfwy amlwg.
Mae cyllidebau'n cael eu gostwng, mae staff profiadol wedi gadael ac mae
gwasanaethau yn cael eu lleihau. O ganlyniad, rhaid i'r awdurdod fod yn agored,
yn onest ac yn dryloyw i'r cyhoedd, felly byddai’r côd
ymddygiad yn bwysicach byth yn y dyfodol. -
Roedd
yn teimlo bod rôl y Pwyllgor Safonau wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd
ac mae ganddo bellach mwy o swyddogaeth graffu. -
Awgrymodd y dylai'r Pwyllgor Safonau ystyried: o
Aelodaeth
cynrychiolwyr Abertawe yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o
Cydymffurfiaeth
a chysondeb adrodd am wybodaeth ar draws y cyngor. -
Roedd yn teimlo bod ymddygiad cynghorwyr wedi gwella dros
y blynyddoedd diwethaf gyda llai o gwynion yn cael eu cyflwyno i PSOW. Serch
hynny, canfyddiad llawer o gynghorwyr oedd nad oedd unrhyw bwrpas adrodd am
achosion gan fod PSOW wedi datgan bod angen i gynghorwyr fod yn groendew a bod
direidi gwleidyddol yn rhan o'r byd gwleidyddol. -
Cytunodd
fod angen i gynghorwyr fod yn groendew ond ni ddylai sylwadau fod yn bersonol a
byddai'n hapus dweud wrth ei gydweithwyr petai'n teimlo eu bod wedi croesi’r llinell. Cytunodd
fod arweinyddiaeth dda a hyfforddiant wedi helpu i wella'r sefyllfa. -
Awgrymodd
y dylai'r Pwyllgor Safonau fynd i gyfarfodydd megis y Cyngor, Cynllunio a
Chraffu er mwyn arsylwi ar y gwaith sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd a'r
penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. -
Eglurodd
fod hefyd gan ei grŵp ef system 'gyfeillio' yn hytrach na rhaglen fentora
swyddogol ar waith. -
Cytunodd fod yr hyfforddiant Côd
Ymddygiad yn gynhwysfawr. Awgrymodd y gellid gwella’r canlynol: o
Y
ffurflen rhoddion a lletygarwch ar-lein o
Arweiniad
ar yr hyn y dylid ei ddatgan ar y ffurflen rhoddion a lletygarwch o
Eglurhad
pellach ar ddatganiadau o gysylltiadau yng nghyfarfodydd gan fod cynghorwyr yn
datgelu cysylltiadau diangen yn rheolaidd. -
Nododd fod rôl cynghorwyr wedi newid yn sylweddol dros y
blynyddoedd a bellach mae cynghorwyr unigol yn fwyfwy cyfrifol am eu wardiau.
Bellach maent yn gyfrifol am eu cyllideb eu hunain ar gyfer gwella'r gymuned a
gellir ei defnyddio ar gyfer amryw welliannau ar draws eu wardiau. -
Er ei fod yn cytuno bod hyfforddiant yn hanfodol i unrhyw
gynghorydd, roedd wedi profi amharodrwydd gan rai aelodau yn y gorffennol o ran
derbyn hyfforddiant roeddent yn teimlo nad oedd eu hangen arnynt neu eu bod
wedi’i dderbyn yn flaenorol. Roedd hyn wedi bod yn anodd ei rheoli. -
Roedd
yn teimlo y dylai'r Pwyllgor Safonau barhau i fonitro safonau'r cynghorwyr ond
hefyd y dylid mynd i gyfarfodydd er mwyn deall sut mae'r cyngor yn gweithredu
a’r tyndra sydd ar waith ynddo. Diolchodd y Cadeirydd y Cynghorydd Holley am fod yn bresennol. |
|
Llyfr Achosion y Côd Ymddygiad. PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y
Swyddog Monitro adroddiad 'er gwybodaeth' i ddiweddaru'r Pwyllgor Safonau ar
Lyfr Achosion Côd Ymddygiad yr Ombwdsmon. Roedd y Llyfr
Achosion yn ymdrin â'r cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2017 - Rhifyn 15
Ionawr 2018. Roedd un o'r achosion yn cynnwys toriad honedig o'r côd
ymddygiad wrth ddefnyddio trafodaeth grŵp ar Facebook Messenger. Nododd y
swyddog monitro y byddai'n debygol y cynhelir gweithdy yn y gynhadledd safonau
ynglŷn â'r cyfryngau cymdeithasol. Caiff y manylion eu darparu i'r holl
gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig ar ôl y digwyddiad. Darparwyd hyfforddiant
ar gyfryngau cymdeithasol i gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig yn flaenorol,
serch hynny roedd cynnal sesiynau ychwanegol dan ystyriaeth. Penderfynwyd: 1)
Y
dylid nodi'r adroddiad; 2) Darparu'r Llyfr Achosion Côd Ymddygiad i'r holl gynghorwyr er gwybodaeth. |