Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

21.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

22.

Cofnodion. pdf eicon PDF 116 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2017 fel cofnod cywir.

 

Materion a godwyd:

 

Cofnod 15 - Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2016/17 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW)

 

Yn dilyn cyfarwyddyd gan y pwyllgor, roedd y Swyddog Monitro wedi siarad â Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru er mwyn cael arweiniad ar faint o fanylion y gellid eu cyflwyno i'r Pwyllgor Safonau mewn perthynas â chwynion. Dywedodd y Swyddog Monitro fod awdurdodau eraill wedi gofyn am arweiniad tebyg. Roedd y tabl cwynion yn nes ymlaen ar yr agenda. Efallai bydd mwy o arweiniad i ddod.

 

Cofnod 16 - Llyfr Achosion Côd Ymddygiad

 

Yn ogystal â'r uchod, roedd y Swyddog Monitro wedi ysgrifennu at y PSOW mewn perthynas â'r 2 achos y teimlwyd y dylent fod wedi'u cyfeirio'n ôl at y Pwyllgor Safonau, am eu bod yn wreiddiol wedi ystyried ceisiadau am oddefebau i'r cynghorwyr dan sylw.

 

Roedd yr Ombwdsmon wedi ymateb gan ddweud yn anffodus na allai ehangu ar yr achosion hyn, fodd bynnag, roedd ffeithlen Budd y Cyhoedd wedi'i chyhoeddi ar ddiwedd mis Rhagfyr er mwyn bod o gymorth yn hyn o beth.  Dosbarthwyd copi i aelodau'r pwyllgor.

23.

Cynghorau Cymuned / Tref sydd Wedi Mabwysiadu'r Protocol Penderfyniadau Lleol Enghreifftiol. pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Yn dilyn cymeradwyaeth ac anogaeth gan y Pwyllgor Safonau, roedd y Swyddog Monitro wedi ysgrifennu at glercod yr holl Gynghorau Tref/Cymuned i'w gwahodd i fabwysiadu'r arweiniad ar gyfer y Protocol Penderfynu Lleol Enghreifftiol a ddarperir gan Un Llais Cymru.

 

Darparodd y Swyddog Monitro restr o'r ymatebion a dderbyniwyd gan Gynghorau Tref/Cymuned.  Roedd 18 o 24 o Gynghorau Tref/Cymuned wedi mabwysiadu'r protocol.  Byddai 3 yn trafod y protocol yn eu cyfarfod nesaf, nid oedd gan 1 ohonynt (Cyngor Cymuned Llangynydd, Llanmadog a Cheriton) gynlluniau i'w fabwysiadu ac roedd 2 (Cyngor Cymuned Tre-gŵyr a Chyngor Cymuned Penrhys) heb ymateb eto.

 

Dilynodd trafodaeth ynghylch pam nad oedd gan Gynghorau Cymuned Llangynydd, Llanmadog a Cheriton unrhyw gynlluniau i fabwysiadu'r protocol. Roeddent wedi mynegi gan fod ganddynt weithdrefn gwynion ddigonol ac nid oeddent fel arfer yn derbyn llawer o gwynion, nid oeddent yn tybio bod angen protocol pellach ar yr adeg hon.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid nodi'r adroddiad;

2)              Y dylid darparu rhestr wedi'i diweddaru yn y cyfarfod nesaf.

24.

Llyfr Achosion Côd Ymddygiad. pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog Monitro adroddiad 'er gwybodaeth' i ddiweddaru'r Pwyllgor  Safonau ar Lyfr Achosion Côd Ymddygiad yr Ombwdsmon.

 

Roedd y Llyfr Achosion y cyfeiriwyd ato'n cynnwys achosion ar gyfer y cyfnod o fis Gorffennaf i fis Medi 2017 - Rhifyn 14 Tachwedd 2017.

 

Amlinellodd sawl achos yn y Llyfr Achosion, gan gynnwys yr achos a gyfeiriwyd at Banel Dyfarnu Cymru. 

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid nodi'r adroddiad;

2)              Y dylai'r Swyddog Monitro anfon y Llyfr Achosion at yr holl gynghorwyr, ynghyd â'r ddogfen benderfyniad y cyfeiriwyd ati yn achos Panel Dyfarnu Cymru y cyfeiriwyd ato ar dudalen 13 y pecyn agenda.

 

25.

Torri Côd Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC). pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog Monitro restr o gwynion.

 

Adroddwyd am yr wybodaeth i'r pwyllgor yn flaenorol, fodd bynnag ôl-ddyddiwyd yr wybodaeth i 4 Mai 2017 er mwyn darparu'r wybodaeth ychwanegol y gofynnodd y Pwyllgor amdani yn ei gyfarfod diwethaf.

 

Byddai'r Swyddog Monitro'n diwygio'r tabl yn y dyfodol pe bai'r arweiniad gan y PSOW yn caniatáu hynny.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

26.

Diweddariad am Gynhadledd y Pwyllgor Safonau. (Ar Lafar)

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro'r diweddaraf ar lafar am y Gynhadledd Safonau a gynhaliwyd ar 14 Medi 2018 ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Byddai presenoldeb a threfniadau eraill yn cael eu trafod ymhellach unwaith y byddai manylion ychwanegol yn cael eu derbyn.

27.

Cynllun Gwaith 2017-2018.

Cofnodion:

Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylid cychwyn y cyfarfodydd ag Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer mis Ebrill 2018.

 

Awgrymodd y pwyllgor hefyd y byddai'n fuddiol gwahodd rhywun o swyddfa'r PSOW i ddod i gyfarfod yn y dyfodol i drafod:

 

·                 Llwyth gwaith y PSOW, gan gynnwys y strwythur, y staffio, rheolaeth ei swyddfa etc.,

·                 Rôl bresennol y Pwyllgor Safonau, ac yn bwysicach, ei rôl yn y dyfodol, ei lwyth gwaith a sut mae'n rhan o'r broses gyffredinol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid nodi'r cynllun gwaith;

2)              Y byddai'r Swyddog Monitro'n siarad â Swydda'r PSOW er mwyn gwahodd cynrychiolydd i gyfarfod o'r Pwyllgor Safonau yn y dyfodol.