Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Jill Burgess yn Gadeirydd ar gyfer
Blwyddyn Ddinesig 2017-2018. (Bu Jill Burgess, Cadeirydd Yn Llywyddu) |
|
Ethol is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Margaret Williams yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017-2018. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1) Datganodd y Cynghorydd J A Hale ddiddordeb personol a rhagfarnol yng Nghofnod 10 "Ceisiadau am Esgusodebau" a thynnu'n ôl o'r cyfarfod cyn trafod yr eitem. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2017 fel cofnod cywir. Materion a
godwyd: Eitem 23 - Y
diweddaraf ar Swyddi Gwag Aelod Annibynnol y Pwyllgor Safonau (Llafar) Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar lafar
ynghylch y sefyllfa bresennol. Ar ôl
ail-hysbysebu i gynulleidfa ehangach, derbyniwyd 25 o geisiadau. Bwriedir llunio rhestr fer ar 24 Gorffennaf a chynnal y cyfweliadau ar 4 Medi 2017. |
|
Protocol Anghydfodau Lleol Enghreifftiol i Gynghorau Tref a Chymunedol. PDF 57 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog
Monitro'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Safonau ar y Protocol Penderfynu
Lleol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref fel a gefnogir gan Un Llais
Cymru. Penderfynwyd y dylai'r Pwyllgor Safonau gymeradwyo ac annog mabwysiadu'r Protocol Penderfynu Lleol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref ac y dylai llythyr gael ei anfon at holl Glercod Cynghorau Cymuned a Thref yn eu hannog i fabwysiadu'r protocol. |
|
Llyfr Achosion Côd Ymddygiad. PDF 48 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diweddarodd y Swyddog
Monitro'r Pwyllgor Safonau ar Lyfrau Achosion Côd
Ymddygiad yr Ombwdsmon. Tynnodd sylw at
achosion penodol yn Rhifyn 11 Ionawr 2017 a Rhifyn 12 Ebrill 2017 a hefyd y
tabl ar dudalen 25 y pecyn agenda a ddangosodd y cafwyd 14% yn llai o gwynion côd yn 2015/16.
Credodd y PSOW fod hyn oherwydd cyflwyno protocolau penderfynu lleol ar
gyfer cynghorau sir. Rhoddodd hefyd
ddiweddariad llafar ar achosion Panel Dyfarnu Cymru. Penderfynwyd y byddai'r diweddaraf yn cael ei nodi. |
|
Torri Côd Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC). PDF 48 KB Cofnodion: Darparwyd rhestr o
gwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) mewn perthynas â
thorri'r Côd Ymddygiad gan y Swyddog Monitro. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Cynllun Gwaith 2017-2018 (Llafar). Cofnodion: Amlinellodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr eitemau canlynol ar gyfer y cynllun gwaith. -
Achosion
Côd Ymddygiad; -
Trafodaethau
gydag Arweinwyr Grŵp/Cadeiryddion Pwyllgorau - oherwydd Etholiad
Llywodraeth Leol a 2 Arweinydd Grŵp newydd, teimlwyd er mwyn rhoi amser i
gynghorwyr newydd "ymgartrefu" y dylai'r trafodaethau hyn ddechrau ym
mis Ionawr 2018; -
Hyfforddiant
Côd Ymddygiad (yn ogystal, dylai Aelodau Cyfetholedig
gael gwybod am ddigwyddiadau hyfforddiant eraill sydd wedi'u trefnu); - Adolygiad o'r Cylch Gorchwyl a goruchwylio Budd Aelodau. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.
Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.
Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.
(Sesiwn Gaeedig) |
|
Ceisiadau am Ollyngiad. Cofnodion: Darparodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried ceisiadau ar gyfer esgusodebau mewn perthynas â'r cynghorwyr canlynol: i) S M Jones ii) J A Hale iii) M Thomas iv) M C Child v) C A Holley vi) T M White vii) F M Gordon Wrth ystyried caniatáu esgusodebau, rhaid i'r pwyllgor gydbwyso budd y cyhoedd wrth atal aelodau â budd rhagfarnol cymryd rhan mewn penderfyniadau, yn erbyn budd y cyhoedd mewn penderfyniadau a gymerir gan grŵp cynrychioladol o aelodau'r awdurdod. Bydd methu caniatáu esgusodeb sy'n golygu na fydd cworwm gan awdurdod neu bwyllgor, yn gallu bod yn sail i ganiatáu esgusodeb. i) Penderfynodd y Pwyllgor Safonau
roi esgusodeb i'r Cynghorydd S M Jones dan
baragraffau 2(d) a Rheoliadau (Caniatáu Esgusodebau)
(Cymru) 2001 (fel a ddiwygiwyd), fel a ganlyn: Aros, siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig o ran materion sy'n ymwneud ag Addysg. NI fydd yr esgusodeb yn gymwys os yw'r cynghorydd yn dod yn ymwybodol o unrhyw effaith ar berson cysylltiedig (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â'i mab ac sy'n benodol iddo. ii) Penderfynodd y dylai'r
Pwyllgor Safonau roi esgusodeb i’r Cynghorydd J A
Hale dan baragraffau 2 (d) a Rheoliadau (Caniatáu Esgusodebau)
(Cymru) 2011 (fel a ddiwygiwyd), fel a ganlyn: Aros, siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig o ran materion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. NI fydd yr esgusodeb hwn yn berthnasol os yw'r cynghorydd yn dod yn ymwybodol o unrhyw effaith ar berson cysylltiedig (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â'i wraig ac yn benodol iddi. Mewn perthynas â chais y Cynghorydd J A Hale am Esgusodeb mewn perthynas â'i rôl yn yr Undeb Llafur, gofynnodd y pwyllgor am fwy o wybodaeth am y mater hwn. iii) Penderfynodd y Pwyllgor
Safonau roi esgusodeb i'r Cynghorydd M Thomas dan
baragraffau 2 (d) a Rheoliadau (Caniatáu Esgusodebau)
(Cymru)2001 (fel a ddiwygiwyd), fel a ganlyn: Aros, siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig o ran materion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. NI fydd yr esgusodeb hwn yn berthnasol os yw'r cynghorydd yn dod yn ymwybodol o unrhyw effaith ar berson cysylltiedig (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â'i wraig ac yn benodol iddi. iv) Penderfynodd y Pwyllgor Safonau roi esgusodeb
i'r Cynghorydd M C Child dan baragraffau 2 (d) a Rheoliadau (Caniatáu Esgusodebau) (Cymru)
2001 (fel a ddiwygiwyd), fel a ganlyn: Arfer pwerau gweithredol, aros, siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig o ran materion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. NI fydd yr esgusodeb hwn yn gymwys os yw'r cynghorydd yn dod yn
ymwybodol o unrhyw effaith ar berson cysylltiedig (o fewn ystyr paragraff 10
(2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â Chartref
Gofal Tŷ Waunarlwydd a/neu ei fam ac sy'n benodol iddynt. v) Penderfynodd y Pwyllgor Safonau
roi esgusodeb i'r Cynghorydd C A Holley dan
baragraffau 2 (d) a Rheoliadau (Caniatáu Esgusodebau)
(Cymru) 2001 (fel a ddiwygiwyd), fel a ganlyn: Aros, siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig o ran materion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. NI fydd yr esgusodeb yn gymwys os yw'r cynghorydd yn dod yn ymwybodol o unrhyw effaith ar berson cysylltiedig (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â'i ferch ac sy'n benodol iddi. vi) PENDERFYNODD y Pwyllgor
Safonau roi esgusodeb i'r Cynghorydd T M White dan
baragraffau 2 (d) a Rheoliadau (Caniatáu Esgusodeb)
(Cymru) 2001 (fel a ddiwygiwyd), fel a ganlyn: Aros, siarad a phleidleisio i wneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig o ran materion sy'n ymwneud ag Addysg. NI fydd yr esgusodeb yn gymwys os yw'r cynghorydd yn dod yn ymwybodol o unrhyw effaith ar berson cysylltiedig (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â'i ferch ac sy'n benodol iddi. Mewn perthynas â chais y Cynghorydd T M White am Esgusodeb mewn perthynas â'i fab yn derbyn gostyngiad deiliad perchennog sengl (Treth y Cyngor). Gofynnodd y Pwyllgor am fwy o wybodaeth am y mater hwn. viii)
Penderfynodd y Pwyllgor Safonau roi esgusodeb
i'r Cynghorydd F M Gordon dan baragraffau 2 (d) a Rheoliadau (Caniatáu Esgusodeb) (Cymru) 2001 (fel a ddiwygiwyd), fel a ganlyn: Aros, siarad a phleidleisio a chyflwyno sylwadau llafar ac ysgrifenedig o ran materion sy'n cynnwys y Tîm Tlodi, Teuluoedd yn Gyntaf ac Ymyrryd yn Gynnar. NI fydd yr esgusodeb yn gymwys os yw'r cynghorydd yn dod yn ymwybodol o
unrhyw effaith ar berson cysylltiedig (o fewn ystyr paragraff 10 (2) (c) y Côd Ymddygiad) sy'n ymwneud â'i fab ac sy'n benodol iddo. Daw'r holl esgusodebau uchod i ben yn yr Etholiad Llywodraeth Leol nesaf ym mis Mai 2022. |