Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2016 fel cofnod cywir. |
|
Adolygu Esgusodebau. PDF 28 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn rhoi'r
diweddaraf i'r Pwyllgor Safonau ynghylch y drefn oddefebau
newydd a diwygiadau i ddeddfwriaeth. Dywedodd fod unrhyw oddefebau yn ddilys tan yr
etholiad llywodraeth leol nesaf (4 Mai 2017) neu am gyfnod o amser a nodwyd gan
y Pwyllgor Safonau (pa un bynnag a ddaw'n gyntaf). Byddai'r holl oddefebau
a ganiatawyd gan Bwyllgor Safonau Dinas a Sir Abertawe felly yn gorffen ar 4
Mai 2017. Fel rhan o'r Adolygiad o Oddefebau Cynghorwyr
hwn, adolygwyd a newidiwyd y ffurflen.
Bwriad y ffurflen newydd hon yw symleiddio'r cais am oddefeb
drwy wella'r nodiadau arweiniol i adlewyrchu'r newidiadau deddfwriaethol. PENDERFYNWYD mabwysiadu a defnyddio'r Ffurflen Gais am Oddefeb i Gynghorwyr – Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 (fel y'i diwygiwyd) o 4 Mai 2017. |
|
Torri Côd Ymddygiad - Cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC). PDF 45 KB Cofnodion: Darparwyd rhestr
gyfredol o gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW)
benderfynu arnynt mewn perthynas â thorri'r Côd
Ymddygiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Cynllun Gwaith 2016 - 2017. Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd Raglen Waith 2016-2017 wedi'i diweddaru. Nid oedd eitemau
wedi'u nodi ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 3 Mawrth 2017 ac felly
ystyrid canslo'r pwyllgor. Byddai'r Cyfarfodydd Blynyddol gydag Arweinwyr Pleidiau Gwleidyddol a Chadeiryddion Pwyllgorau yn dechrau yn dilyn Etholiad Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017 ac ym mis Medi/Hydref 2017. |
|
Y Diweddaraf Ar Seddu Gwag I Aelodau Annibynnol Ar Y Pwyllgor Safonau. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd yr wybodaeth ddiweddaraf am lafar ar y sefyllfa
bresennol o ran y ddwy sedd wag i Aelodau Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau. Roedd Panel Swyddi
Gwag y Pwyllgor Safonau wedi ystyried 2 gais. Fodd bynnag, ni apwyntiwyd y
naill ymgeisydd na’r llall. Bydd y
broses yn ailgychwyn yn fuan. PENDERFYNWYD y dylid: 1) Nodi'r
diweddariad; 2) Anfon
manylion cyswllt unrhyw grwpiau/fusnesau perthnasol sydd efallai â diddordeb yn
y swyddi gwag at Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. |