Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod
cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2016 yn gofnod cywir. Materion yn codi: Cofnod 34 - Adborth ar Gyfarfodydd Blynyddol ag Arweinwyr Grwpiau
Gwleidyddol, y Prif Weithredwr a Chadeiryddion Pwyllgorau. Atgoffodd y Cadeirydd y pwyllgor am y cam gweithredu o'r cyfarfod blaenorol
mewn perthynas ag Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau sy'n mynd i gyfarfodydd
Cyngor Cymuned/Tref fel ymarfer casglu tystiolaeth. PENDERFYNWYD y dylai Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd/Dirprwy Swyddog Monitro ddrafftio dogfen sy'n amlinellu cylch gwaith a chwmpas yr ymarfer cyn gynted â phosib. |
|||||||||||||
Côd Ymddygiad Enghraifft Newydd. PDF 49 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd / Dirprwy
Swyddog Monitro y diweddaraf i'r pwyllgor mewn perthynas ag adroddiad y Côd Ymddygiad Enghreifftiol Newydd a gyflwynwyd i'r cyngor
ar 19 Mai 2016. PENDERFYNWYD y
byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||||||||||
Fframwaith Moesegol Llywodraeth Leol - Darpariaeth Statudol Newydd. PDF 59 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd / Dirprwy
Swyddog Monitro adroddiad yn dilyn ymgynghoriad technegol a gynhaliwyd rhwng 30
Tachwedd 2015 a 10 Ionawr 2016, ar Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau
Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio)
(Cymru) (Diwygio) 2016 a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2016. Diwygiodd y Rheoliadau 2016 uchod y rheoliadau canlynol: ·
Rheoliadau
Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001; ·
Rheoliadau
Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a'r
Pwyllgor Safonau) (Cymru) 2001; ·
Rheoliadau
Awdurdodau Lleol (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||||||||||
Llyfr Achosion Côd Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Er gwybodaeth). PDF 52 KB Rhifyn 6 -
Hydref 2015 Rhifyn 7 - Ionawr 2016 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd y diweddaraf ar gyhoeddiadau mwyaf diweddar Llyfrau
Achosion Côd Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru fel a ganlyn: ·
Rhifyn
6 - Hydref 2015; ·
Rhifyn
7 - Ionawr 2016. PENDERFYNWYD y
byddai'r adroddiad a'r atodiadau yn cael eu nodi. |
|||||||||||||
Y Broses ar gyfer Penodi Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau (ar lafar). Huw Evans, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar lafar ar y
Broses ar gyfer Penodi Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau. Byddai'n hysbysebu dwy swydd, un i ddechrau
oddeutu mis Medi a'r llall i ddechrau oddeutu mis Rhagfyr 2016. Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r broses
flaenorol a dilynwyd ar gyfer penodi
Aelodau Annibynnol yn ogystal â'r honiad a
fyddai’n bosib gwella’r broses hon. Achubodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyfle i ddiolch i’r
Cadeirydd am ei arweinyddiaeth yn ystod ei gyfnod yn y swydd a dymunodd yn dda
iddo am y dyfodol. PENDERFYNWYD y dylai
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddechrau'r broses o hysbysebu ar gyfer yr
Aelodau Annibynnol yn haf 2016. |
|||||||||||||
Cynllun Gwaith 2016 - 2017. Cofnodion: Darparodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Gynllun Gwaith ar gyfer 2016-2017:
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. Diolchodd y Cadeirydd i’w gydweithwyr am eu cymorth yn ystod ei gyfnod yn y swydd. |