Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2024
fel cofnod cywir. |
|
Dyletswydd Arweinwyr y Grwpiau. PDF 119 KB 10.05 am – Y Cynghorydd Lyndon Jones 10.20 am – Y Cynghorydd Peter May 10.35 am – Y Cynghorydd Chris Holley Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd y sylwadau. Cofnodion: Fel rhan o'r
dyletswyddau newydd ar gyfer Arweinwyr Grŵp fel rhan o Ddeddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, cytunodd y Pwyllgor Safonau i gwrdd ag
Arweinwyr Grŵp gwleidyddol i barhau i drafod sut y maent yn cynnal safonau
ymddygiad uchel o fewn eu grŵp. Darparwyd y
themâu i'w trafod i Arweinwyr Grŵp cyn y cyfarfod, fel yr amlinellir yn
Atodiad A. Oherwydd
absenoldeb, byddai'r Cynghorydd Rob Stewart (Llafur) yn cael ei wahodd i
fynychu cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Safonau ym mlwyddyn ddinesig 2024-2025. Darparodd y
Cynghorwyr May, Jones a Holley yr wybodaeth ategol ganlynol yn ystod y
trafodaethau: Y Cynghorydd
Peter May Dechreuodd y
Cynghorydd May drwy ddweud bod pob aelod o'i grŵp yn ymwybodol o'r ddogfen
Côd Ymddygiad ac Egwyddorion Nolan
ac roeddent yn trafod unrhyw faterion posib mewn cyfarfodydd wythnosol. Ar hyn
o bryd nid oedd unrhyw faterion mewn perthynas â'r Côd
Ymddygiad ond yn ddamcaniaethol, ymdrechir bob tro i ddod o hyd i ddatrysiad
cynnar yn hytrach na gadael i'r sefyllfa waethygu. Aeth ymlaen i
ddarparu enghraifft o wrando ar farn yr holl breswylwyr mewn perthynas ag
ymgynghoriad ar gyfer cynllun mawr yn eu ward, drwy gynrychioli'r etholaeth
fwyaf a rhoi eu barn bersonol eu hunain o'r neilltu drwy weithredu fel
gwrandawyr yn ystod y broses ymgynghori. O ran
hyfforddiant, roedd y Cynghorwyr wedi ymgymryd â hyfforddiant Diogelu ar-lein
yn ddiweddar. Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi darparu
arweiniad i bob Cynghorydd ar ddefnyddio'r platfform "Oracle Fusion"
newydd i gwblhau'r hyfforddiant ac wedi anfon nodiadau atgoffa at Arweinwyr
Grwpiau mewn perthynas ag unrhyw Gynghorydd nad oedd wedi cwblhau'r
hyfforddiant gorfodol. Yn ogystal, roedd hyfforddiant Craffu nad oedd yn orfodol wedi cael ei gwblhau ac roedd yr holl
hyfforddiant yn cael ei ystyried yn werthfawr ac yn cael ei groesawu. Roedd y
Cynghorydd May wedi awgrymu i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ddiweddar
fod system yn cael ei mabwysiadu lle gellid darparu dogfen i Arweinwyr
Grŵp yn amlinellu rhestr o'r hyfforddiant roedd pob un o aelodau'r
grŵp wedi'i gwblhau gan fod y broses ar hyn o bryd yn eithaf
beichus. Y gobaith oedd y byddai'r system Oracle newydd yn gallu darparu
adroddiad o'r fath yn y dyfodol agos. Y Cynghorydd
Lyndon Jones Dechreuodd y
Cynghorydd Jones drwy ddweud ei fod yn credu bod ei grŵp bob amser yn
bodloni'r safonau uchaf ac y dylid bob amser drin eraill fel y byddech yn
disgwyl cael eich trin, a bod yr un peth yn wir ar gyfer swyddogion, cynghorwyr
eraill a phreswylwyr. Fodd bynnag, pe bai gan unrhyw un unrhyw broblemau,
byddent yn siarad ag ef amdanynt gan fod llif 2 ffordd o fewn y
Grŵp. Aeth ymlaen i
ddweud y byddai'n hoffi meddwl ei fod yn rhywun y gallai pobl ymddiried
ynddo. Roedd wedi ymgymryd â’r rôl Aseswr Seneddol ac wedi bod yn aelod
o'r Pwyllgor Disgyblu a Seneddol, a theimlai y byddai hynny'n ei helpu i
gynghori aelodau'r grŵp yn unol â hynny. Dywedodd fod
ffiniau gwleidyddol yn Siambr y Cyngor ond fel cynghorwyr maent yn sicrhau eu
bod yn gwneud eu gorau er budd preswylwyr Abertawe. Ar hyn o bryd
roedd y Cynghorydd Jones yn cadeirio'r Panel Craffu Perfformiad Addysg ac er ei
bod yn heriol, roedd y Cabinet hefyd yn gweithredu fel "Cyfaill
Beirniadol". Roedd y Panel yn gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr
Addysg a'r Aelod Cabinet dros Addysg a Dysgu, a gefnogwyd mewn adroddiad
diweddar gan Estyn. Dywedodd nad oedd
unrhyw faterion côd ymddygiad o fewn ei grŵp ar
hyn o bryd ac nid oedd unrhyw faterion wedi bod ers iddo fod yn Arweinydd
Grŵp. Roedd y grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd, yn broffesiynol, yn gweithio'n galed ac yn cynnal y safonau uchaf bob amser. Mewn perthynas â
hyfforddiant dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod mewn cysylltiad cyson a bod
ganddo berthynas dda â'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Cadarnhaodd
fod hyfforddiant yn bwysig iawn i bawb a dywedodd ei fod wedi dysgu rhywbeth
newydd gyda phob sesiwn hyfforddi a gynhaliwyd. Cadarnhaodd fod
digon o gefnogaeth gan y Pwyllgor Safonau ac roedd yn gallu galw ar y Swyddog
Monitro am gyngor ac arweiniad yn ôl yr angen. Y Cynghorydd
Chris Holley Dechreuodd y
Cynghorydd Holley drwy egluro bod ei grŵp yn cynnwys y Democratiaid
Rhyddfrydol ac Aelodau o'r Grŵp Annibynnol. Roedd system gyfeillio
wedi cael ei defnyddio pan etholwyd Cynghorwyr yn yr Etholiad Llywodraeth Leol
diwethaf, lle byddai Cynghorydd newydd yn "cysgodi" Cynghorydd mwy
profiadol. Gallai'r broses ddysgu gymryd cryn dipyn o amser oherwydd
natur amrywiol y rôl ac yn aml gallai fod yn eithaf gwahanol i'r hyn a
ddisgwyliwyd gan yr ymgeisydd llwyddiannus. O ran ymddygiad,
roedd aelodau'r Grŵp yn ymwybodol o'r rheolau a'r hyn oedd yn
ddisgwyliedig ganddynt. Roedd y grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn
deall bod hierarchaeth o fewn y grŵp. Sicrhaodd y
Cynghorydd Holley ei fod yn cysylltu'n unigol ag aelodau o'i grŵp mewn
perthynas â materion côd ymddygiad a chadarnhaodd y
dylid trin pawb â pharch. O ganlyniad, nid oedd unrhyw faterion côd ymddygiad wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf. O ran
hyfforddiant, roedd y Cynghorydd Holley mewn cysylltiad â Phennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd ynghylch unrhyw hyfforddiant heb ei gwblhau. Roedd
rhai aelodau'n meddwl bod y system Oracle newydd yn anodd ei defnyddio, ond
roedd nodiadau arweiniol wedi'u darparu. Roedd yn teimlo bod y rhaglen
hyfforddi'n ddigonol, fodd bynnag, roedd y rhaglen hyfforddiant sefydlu ar
gyfer Cynghorwyr newydd yn eithaf heriol, ynghyd â'r hyfforddiant ar gyfer
Llywodraethwyr newydd. Teimlai nad oedd
rhai Cynghorwyr yn deall rôl y Pwyllgor Safonau'n llawn, ond gwnaeth y Swyddog
Monitro ymdrin â hyn yn ystod yr hyfforddiant Côd
Ymddygiad, a oedd wedi cael ei gofnodi ac a oedd ar gael i bob Cynghorydd ei
weld. Diolchodd y
Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor Safonau, i'r 3 Arweinydd Grŵp am eu
presenoldeb. Byddai'r Pwyllgor yn myfyrio ar y sylwadau dros yr wythnosau
nesaf. |
|
Adolygu Cynlluniau Hyfforddi Cynghorau Cymuned a Thref. PDF 116 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad er mwyn adolygu cyhoeddiad y
Cynlluniau Hyfforddi Cyngor Cymuned a Thref. Penderfynwyd cofnodi'r
wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad "er gwybodaeth" i roi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Safonau am benderfyniadau Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â honiadau bod Cynghorwyr
Awdurdodau Lleol a Chynghorwyr Cymuned/Tref wedi torri'r Côd
Ymddygiad. |