Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2023-2024.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R C Stewart yn Gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig.

 

Bu'r Cynghorydd R C Stewart (Cadeirydd) yn llywyddu

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2023-2024.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd A S Lewis yn Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig.

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

4.

Cofnodion: pdf eicon PDF 106 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2023 fel cofnod cywir.

5.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraffau gwahardd 12 ac 13 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitem fusnes fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

6.

Adolygiad Blynyddol o Berfformiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cynhaliodd y Pwyllgor arfarniad perfformiad o'r Prif Weithredwr.

 

Penderfynwyd y dylid:

 

1)             Cymeradwyo'r argymhellion fel a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

2)       Rhoi awdurdod i'r Prif Weithredwr rannu ei amcanion y cytunwyd arnynt mor eang ag y mae'n dymuno.

 

3)       Y bydd y Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaethau yn amlinellu adroddiad cynigion sy'n ystyried trafod elfennau o Bwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr mewn sesiwn agored. Caiff yr adroddiad ei ystyried gan Weithgor y Cyfansoddiad.