Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadleddau’r Cabinet - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2019/2020.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R C Stewart yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020.

 

Bu'r Cynghorydd RC Stewart (Cadeirydd) yn llywyddu 

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2019/2020.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd C E Lloyd yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019/2020.

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

4.

Cofnodion: pdf eicon PDF 214 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi  cofnodion cyfarfod Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 10 Mis Mai 2018 fel cofnod cywir.

5.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraffau gwahardd 12 ac 13 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitem fusnes fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

 Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

6.

Adolygiad Blynyddol o Berfformiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar yr amcanion perfformiad a nodwyd ganddo ar gyfer 2018/19. Nodwyd y bu’n absennol o'r gwaith rhwng 29 Ionawr 2019 a 2 Mehefin 2019 oherwydd salwch. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd wedi cytuno ar drefniadau dros dro priodol gyda'r arweinydd i sicrhau bod y risg i'r cyngor wedi'i leihau a'i reoli.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr adroddiad cynnydd manwl yn ymwneud â'r themâu a'r perfformiadau amrywiol tuag at yr amcanion a amlygwyd yn yr atodiadau i'r adroddiad.

 

Nododd ac amlinellodd hefyd ei amcanion ar gyfer 2019/20.

 

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch yr amcanion, a'r meysydd pwnc amrywiol a pherfformiad, ac ymatebodd y Prif Weithredwr yn briodol.  O ganlyniad i'r trafodaethau a gynhaliwyd, cryfhawyd yr amcanion yn unol â hyn.  Byddai'r Prif Weithredwr yn ail-gylchredeg yr amcanion diwygiedig i'r pwyllgor.

  

Penderfynwyd:

 

1)              Roedd yr aelodau'n fodlon ar berfformiad y Prif Weithredwr;

 

2)         Cytunodd y pwyllgor ar yr amcanion diwygiedig ar gyfer 2019/20.