Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadleddau’r Cabinet - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016-2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd R C Stewart yn gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

 

Bu'r cynghorydd RC Stewart (Cadeirydd) yn llywyddu 

 

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016-2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd C E Lloyd yn Is-Gadeirydd ar gyfer

blwyddyn ddinesig 2016/17.

 

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau

 

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 67 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod

Cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYDcytuno bod cofnodion y cyfarfod y Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2014 yn gofnod cywir.

 

5.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraffau gwahardd 12 ac 13 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitem fusnes fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

 PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

6.

Adolygiad Blynyddol o Berfformiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar yr amcanion perfformiad a nodwyd ganddo pan gafodd ei benodi'r llynedd. Darparodd ac amlinellodd adroddiad cynnydd manwl sy'n ymwneud â'r themâu a'r perfformiadau amrywiol tuag at yr amcanion a amlygwyd yn yr atodiadau i'r adroddiad.

 

Nododd ac amlinellodd hefyd ei amcanion diwygiedig ar gyfer 2017.

 

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch yr amcanion, a'r meysydd pwnc amrywiol a pherfformiad, ymatebodd y Prif Weithredwr yn briodol.

  

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

1)       Roedd yr aelodau'n fodlon ar berfformiad y Prif Weithredwr;

 

2) Cytunodd y pwyllgor ar yr amcanion diwygiedig ar gyfer 2017.