Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2023-2024. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y
Cynghorydd R C Stewart yn Gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig. Bu'r Cynghorydd R C Stewart (Cadeirydd) yn
llywyddu |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2023-2024. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y
Cynghorydd A S Lewis yn Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif
Weithredwr a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2023 fel cofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 116 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad
ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym
mharagraffau gwahardd 12 ac 13 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel
y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad)
(Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitem fusnes fel a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth
benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes
lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Adolygiad Blynyddol o Berfformiad y Prif Weithredwr. Cofnodion: Cynhaliodd y
Pwyllgor arfarniad perfformiad o'r Prif Weithredwr. Penderfynwyd y dylid: 1)
Cymeradwyo'r
argymhellion fel a amlinellwyd yn yr adroddiad. 2) Rhoi awdurdod i'r Prif Weithredwr rannu
ei amcanion y cytunwyd arnynt mor eang ag y mae'n dymuno. 3) Y bydd y Pennaeth Adnoddau Dynol a'r
Ganolfan Wasanaethau yn amlinellu adroddiad cynigion sy'n ystyried trafod
elfennau o Bwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr mewn
sesiwn agored. Caiff yr adroddiad ei ystyried gan Weithgor y Cyfansoddiad. |