Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2021-2022. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd R C Stewart yn
Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021-2022. Bu'r Cynghorydd RC Stewart (Cadeirydd) yn llywyddu |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2021-2022. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd A S Lewis yn Is-gadeirydd
ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021-2022. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Arfarnu a
Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2020 fel
cofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraffau gwahardd
12 ac 13 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn
perthynas â'r eitem fusnes fel a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y
cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Adolygiad Blynyddol o Berfformiad y Prif Weithredwr. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn amlinellu ei berfformiad
yn erbyn amcanion Hydref 2020 - Medi 2021 y cytunwyd arnynt gan Bwyllgor
Arfarnu a Chydnabyddiaeth y Prif Weithredwr ar 13 Hydref 2020. Roedd yr amcanion yn cynnwys y themâu canlynol: Enw da, Ad-drefnu/Cydweithio'r
Awdurdod Lleol, Adfywio'r ddinas, Rhaglen Drawsnewid, y gyllideb,
blaenoriaethau corfforaethol ac ymateb i COVID-19. Nododd a chynhigiodd y Prif Weithredwr yr amcanion arfaethedig ar gyfer
2021-2022. Ystyriodd y Pwyllgor ei berfformiad yn ystod 2020-2021 a'i amcanion
arfaethedig ar gyfer 2021-2022 a gofynnodd nifer o gwestiynau ynghylch yr
amrywiol amcanion, meysydd pwnc a pherfformiad. Gwnaeth y Pwyllgor bennu amcanion y Prif Weithredwr 2021-2022 yn ôl y
themâu canlynol: Enw da, Ad-drefnu/Cydweithio'r Awdurdod Lleol, Adfywio'r
ddinas, Rhaglen Drawsnewid, y gyllideb, blaenoriaethau corfforaethol ac ymateb
i COVID-19. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1)
Roedd y Pwyllgor yn fodlon â pherfformiad y Prif
Weithredwr yn erbyn Amcanion 2020-2021. 2) Cytunodd y
Pwyllgor ar amcanion y Prif Weithredwr ar gyfer 2021-2022. |
|
Gohiriwyd y cyfarfod Cofnodion: Gohiriwyd y
cyfarfod am 3.03pm. Bydd y cyfarfod yn ailgynnull am 3.00pm, dydd Llun, 15 Tachwedd 2021. |
|
Cyfarfod a ailalwyd - 3.00pm dydd Llun, 15 Tachwedd 2021 Cofnodion: Ailygynullodd y
cyfarfod â'r un Cynghorwyr a Swyddogion yn bresennol. Roedd y Dirprwy Brif
Weithredwr, Adam Hill, hefyd yn bresennol. Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L R Jones. |
|
Adolygiad Blynyddol o Berfformiad y Dirprwy Prif Weithredwr. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr adroddiad a oedd yn amlinellu’i
amcanion a'i gyflawniadau ar gyfer Hydref 2020 - Medi 2021. Roedd amcanion a chyflawniadau 2020-2021 yn cynnwys y themâu canlynol:
Blaenoriaethau Corfforaethol, Gweithio mewn Partneriaeth, Y Rhaglen Drawsnewid,
Enw da, Gwasanaethau Allweddol, Gwasanaeth Monitro ac Olrhain a'r ymateb i bandemig COVID-19, y Gyllideb, darparu rhywun i gymryd
lle’r Prif Weithredwr yn ffurfiol a’r Portffolio Gwasanaethau. Nododd a chynigiodd y Dirprwy Brif Weithredwr
amcanion ar gyfer 2021-2022. Ystyriodd y Pwyllgor ei berfformiad yn ystod 2020-2021 a'i amcanion
arfaethedig ar gyfer 2021-2022 a gofynnodd nifer o gwestiynau ynghylch yr
amrywiol amcanion, meysydd pwnc a pherfformiad. Pennodd y Pwyllgor amcanion y Prif Weithredwr ar gyfer 2021-2022 yn ôl y
themâu canlynol: Y Gyllideb, y Gwasanaeth Monitro ac Olrhain a'r ymateb i bandemig COVID-19, Ailstrwythuro ac Ailffocysu Adnoddau, Y Rhaglen
Trawsnewid a Newid - Cyflawni'n Well Gyda'n Gilydd, Enw da, Gweithio mewn
partneriaeth, Rhanbartholi - Gweithio rhanbarthol a
Goruchwylio Corfforaethol. Penderfynwydar y canlynol: 1)
Roedd y pwyllgor yn fodlon ar berfformiad y Prif
Weithredwr yn erbyn Amcanion 2020-2021. 2) Cytunodd y Pwyllgor ar amcanion y Prif Weithredwr ar gyfer 2021-2022. |