Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

108.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif 113 – ceisiadau i fod yn Llywodraethwr yr ALl a gedwir ar ffeil – mae person sydd wedi fy nghyfeirio at yr Ombwdsmon wedi'i gynnwys ar y rhestr wrth gefn – personol.

 

109.

Cofnodion: pdf eicon PDF 59 KB

Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2017 yn gofnod cywir.

 

110.

Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 56 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o swyddi gwag Llywodraethwyr yr ALl.

 

111.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

112.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.)

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag Llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu arnynt.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w cymeradwyo:

 

Ysgol Gynradd Brynhyfryd

Ms Isobel Norris

 

 

 

 

Ysgol Gynradd Portmead

Mr David Mackerras

 

 

 

 

Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

Mr Adrian Rees

(Ailbenodiad)

 

 

 

Ysgol Gyfun Tregŵyr

Ms Estelle Hart

 

 

 

 

YGG Llwynderw

Mrs Junnine Thomas-Walters

 

 

113.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.)

Cofnodion:

Rhoddodd swyddog yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil.

 

NODWYD sylwadau'r aelodau o ran y weithdrefn ddethol.  Dywedodd y Cadeirydd fod y weithdrefn wedi'i thrafod yn y gorffennol a bod y panel wedi cytuno ar y polisi.