Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

102.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd C Anderson –  Cofnod rhif. 106  – Personol – Ymgeisydd ar gyfer Ysgol Townhill.  Gadawodd y Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn ystyried yr eitem hon.

 

Y Cynghorydd A C S Colburn – Cofnod rhif 106  – Personol – Rwy'n llywodraethwr yn Ysgolion Cynradd Newton ac Ystumllwynarth.

 

Y Cynghorydd Y Jardine – Cofnod rhif 106  – Personol – Rwy'n adnabod ymgeisydd ar gyfer Ysgol Gynradd Treforys.  Rwyf hefyd yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Treforys.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif: 106 –  Personol - fel a nodwyd yn flaenorol.

103.

Cofnodion: pdf eicon PDF 57 KB

Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2016 yn gofnod cywir.

 

104.

Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o swyddi gwag Llywodraethwyr yr ALl.

105.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

 

106.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.)

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag Llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu arnynt.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     1) Y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w cymeradwyo:

 

Ysgol Gynradd Blaenymaes

Y Cyng. June Burtonshaw

 

(Ailbenodiad)

Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc

Mr Paul Ellement

 

(Ailbenodiad)

 

 

 

Ysgol Gynradd Gorseinon

Mrs Kelly Roberts

 

 

 

 

Ysgol Gynradd Knelston

Mrs Kathryn Ann David

 

 

 

 

Ysgol Gynradd Llangyfelach

 

Mrs Glynis Griffiths

(Ailbenodiad)

Ysgol Gynradd Treforys

 

Y Cyng. Andrea Lewis

(Ailbenodiad)

Ysgol Gynradd Newton

Mr David Cottle

(Ailbenodiad)

 

 

 

Ysgol Gynradd Ystumllwynarth

 

Mr Stephen Williams

 

Ysgol Gynradd Pentrechwyth

 

Y Cyng. Victoria Evans

(Ailbenodiad)

Ysgol Gynradd St Thomas

Y Cyng. Clive Lloyd

(Ailbenodiad)

 

 

 

Ysgol Gynradd Townhill

Y Cyng. Cyril Anderson

 

 

 

 

Ysgol Gynradd Trallwn 

Ms Sara Cook

 

 

 

 

Ysgol Gyfun Gellifedw

Mr Peter Eglitis

 

 

 

 

Ysgol Gyfun Gŵyr

 

Mrs Susan Rodaway

 

Ysgol Pen-y-bryn

 

Mr Raymond Brown

 

 

Mr Edward Pitt

 

 

 

107.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.)

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil.