Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

90.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

. Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif 95 – fel a ddatganwyd eisoes.

 

 

 

91.

Cofnodion: pdf eicon PDF 58 KB

To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2016 yn gofnod cywir.

 

92.

Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 54 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" am y rhestr bresennol o swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl.  

 

93.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd Panel Llywodraethwyr yr ALl Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

SESIWN GAEEDIG

 

94.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.)

Cofnodion:

 Cyflwynodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad ar y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu arnynt.

 

CYTUNWYD:

 

1) Y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w cymeradwyo:

 

Ysgol Gynradd Cilâ – Mrs Helen Richards

 

Ysgol Gynradd Clwyd – y Cynghorydd Terry Hennegan (ailbenodiad)

 

Ysgol Gynradd y Glais – Mrs Claire Abraham

 

YGG Tan-y-lan – Mr Gari Lewis (ailbenodiad)

 

Ysgol Gyfun Tregŵyr – Mr Gerald Frances Keating

 

 

95.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.)

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" am y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil.