Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif 88 – Ysgol Gynradd Gwyrosydd –
Rwy'n adnabod yr ymgeisydd a gadewais cyn y drafodaeth a chofnod rhif 89 – fel a ddatganwyd eisoes. Y Cynghorydd L G Thomas – Cofnod Rhif
88 – Ysgol Gynradd Burlais – Rwy'n un o'r ymgeiswyr a
gadewais cyn y drafodaeth. |
|
Cymeradwyo, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016 yn gofnod cywir. |
|
Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). PDF 56 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016 yn gofnod cywir. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i Banel Llywodraethwyr yr ALl wahardd y
cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar
y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007
mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd Panel Llywodraethwyr yr ALl Brawf Budd
y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr
adroddiad. PENDERFYNWYD gwahardd y
cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. |
|
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.) Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cynorthwyol a'r Swyddog Derbyniadau y ceisiadau ar
gyfer swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen
penderfynu arnynt. CYTUNWYD: 1) Y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w
cymeradwyo: Ysgol
Gynradd Brynmill - Mr Hywel Vaughan Ysgol
Gynradd Burlais - Y Cyng. Peter Black, y Cyng. Chris
Holley, y Cyng. Graham Thomas a Mrs Julie Palmer (pob un yn ailbenodiad) Ysgol
Gynradd Gwyrosydd - Mr Terrence Jones (ailbenodiad) Ysgol
Gynradd Gorseinon - Mr John Williams (ailbenodiad) a Mrs Andrea Thomas Ysgol
Gynradd Penllergaer - Mr Andrew Crowley YGG
Geliionnen - Mr Darren James (ailbenodiad) Ysgol
Crug Glas - Mr Quentin Hawkins (ailbenodiad) Ysgol
Gymunedol Dylan Thomas - Y Cyng. Lesley Walton |
|
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.) Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cynorthwyol a’r Swyddog Derbyniadau adroddiad “er gwybodaeth”
ar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn
llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar
ffeil. |